Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynigion newydd i fynd i'r afael â pherygl llifogydd ac erydu ar yr arfordir drwy 'seilwaith gwyrdd' ac mae hefyd wedi cyhoeddi mapiau perygl llifogydd newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae bron ¼ miliwn eiddo yng Nghymru yn wynebu perygl llifogydd, felly aeth Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ati heddiw (24 Mehefin), i lansio ymgynghoriad ar Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru. 

Mae'r strategaeth newydd yn adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £350 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu ar yr arfordir yn ystod oes y Llywodraeth hon. Mae cynigion yn y strategaeth i reoli perygl llifogydd ac erydu ar yr arfordir dros y degawd nesaf ac mae'n ystyried sut y gallwn feithrin gwell dealltwriaeth o’r risg a mynd i'r afael â hi mewn ffordd fwy cynaliadwy yn y dyfodol. 

Dywedodd Lesley Griffiths:

Gall llifogydd ac erydu ar yr arfordir gael effaith drychinebus ar fywydau'r bobl maen nhw'n effeithio arnyn nhw ac mae'r strategaeth newydd hon yn tystio i’n hymrwymiad i barhau i gefnogi cymunedau ledled Cymru.    Bydd yn helpu i feithrin cydnerthedd, yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y cymunedau sydd yn y perygl mwyaf, ac yn golygu y bydd llai o bobl yn wynebu perygl.  

Mae'n buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran rheoli'r risg sy'n wynebu cartrefi a busnesau. Fodd bynnag, o gofio bod y newid yn yr hinsawdd yn cael mwy a mwy o effaith, rhaid inni gyfleu'n glir i bobl y neges na allwn ni atal pob risg o ran llifogydd na phob risg i'r arfordir. Mae gan bawb ran i'w chwarae ac mae angen strategaeth hirdymor a mesurau priodol arnon ni i'n helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â'r broblem fyd-eang hon.  

Mae'r strategaeth newydd yn cryfhau'n safbwynt ar atal llifogydd ac erydu arfordirol ac mae cysylltiadau rhwng y strategaeth honno a deddfwriaeth Gymreig a meysydd polisi er mwyn sicrhau nad ydyn ni'n creu problemau i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y trywydd newydd rydyn ni'n ei ddilyn ar ddraenio cynaliadwy, ynghyd â'r gwaith a wnaed i ddiweddaru polisi cynllunio, yn helpu i ategu'r Strategaeth hon ac i sicrhau cysondeb ledled y wlad wrth fynd ati i reoli tir a dŵr. 

Bydd hynny, yn ogystal â hyrwyddo ffyrdd naturiol o reoli perygl llifogydd, gan weithio gyda'r amgylchedd ar draws dalgylchoedd, yn ein helpu i barhau'n gydnerth yn y blynyddoedd sydd i ddod. Hoffwn i annog pawb i ddweud eu dweud ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Bydd yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn dechrau ddydd Llun 24 Mehefin ac yn para 12 wythnos, gan ddod i ben ar 16 Medi.