Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Jeremy Miles wedi croesawu cyllid newydd gan yr UE i estyn cynllun sy'n rhoi hwb i ragolygon miloedd o bobl ifanc ledled De-orllewin Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae prosiect Cynnydd, sy'n caei ei arwain gan Gyngor Sir Penfro, ac sydd hefyd ar waith ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, wedi cael £11.5m yn ychwanegol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae'r prosiect yn gweithio gyda Gyrfa Cymru, Colegau AB a chwmnïau'r sector preifat a'r trydydd sector, i helpu pobl ifanc i mewn i waith trwy gyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith, tra'n cynnig mentora, coetsio a chwnsela un-i-un i wella sgiliau bywyd a hunan-barch.

Heddiw, cyhoeddodd Jeremy Miles y bydd Cynnydd, a lansiwyd ym mis Medi 2016, bellach yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2022 a hynny oherwydd y cyllid ychwanegol gan yr UE. Mae hyn yn golygu y bydd  3,200 o bobl ifanc yn elwa ar y cymorth a'r cyfleoedd sy'n cael eu creu gan y prosiect dros y tair blynedd nesaf, a 7,500 i gyd.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Rydyn ni eisoes wedi gweld llwyddiant Cynnydd yn yr ardal wrth roi sgiliau a chymwysterau i bobl ifanc i ennill cyflogaeth yn lleol, gan olygu nad oes rhaid iddynt bellach ymadael â'r ardal. Mae hynny mor bwysig, nid yn unig i'r economi leol, ond hefyd i gynaliadwyedd ein cymunedau, yn enwedig mewn rhannau o gefn gwlad Cymru.

“Mae Cymru'n dal i elwa'n sylweddol ar gronfeydd yr UE a dw i wrth fy modd y bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi dyfodol cymaint o bobl ifanc yn Ne-orllewin Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd David Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Addysg, ei fod wrth ei fodd i groesawu’r arian ychwanegol:

“Rydyn ni’n angerddol am barhau ein gwaith diflino i ddileu nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ni ddylai neb adael yr ysgol heb unman i fynd iddo.”

Yn ystod y degawd diwethaf mae prosiectau sydd wedi’u hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd wedi creu 45,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd ledled Cymru ac ar yr un pryd mae wedi helpu mwy na 85,000 o bobl i gael gwaith.