Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi galw ar Lywodraeth y DU i beidio ag anwybyddu rheilffyrdd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU unwaith eto i fod yn decach wrth fuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, yn enwedig o ystyried y ffordd mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ei gwario ar wella’r rheilffyrdd yn rhannau cyfoethocach y DU.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gontract gyda Network Rail i wella amlder trenau ar reilffordd Glynebwy, ond cymerodd gamau priodol i atal ac adolygu'r contract hwn pan ddechreuodd costau gynyddu. 

Cafwyd cefnogaeth lawn Network Rail yn hyn o beth, a gwnaethant weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl arian sy'n cael ei wario ar y cynllun yn sicrhau'r canlyniadau gofynnol. 

Byddant bellach yn ailddechrau ar eu tasg o edrych ar y broses sydd ei hangen i sicrhau pedwar trên bob awr ar y lein erbyn 2024, fel rhan o Fetro De Cymru.

Disgwylir i hyn gael ei gwblhau erbyn yr haf cynnar, a bydd yn rhan o'r achos i Lywodraeth y DU dros fuddsoddi yn y rheilffordd nad yw wedi'i datganoli.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:  

“Mae angen gwasanaeth rheilffordd ar Lynebwy sy'n rheolaidd ac o ansawdd uchel – un sy'n gallu cynnal swyddi, buddsoddiadau a datblygu economaidd yn yr ardal. 

"Rydyn ni'n gwneud newid sylweddol i'r ffordd mae gwasanaethau rheilffyrdd yn cael eu darparu yng Nghymru. Mae ein buddsoddi drwy gontract gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, ac yng ngham cyntaf y gwaith o drawsnewid Metro De Cymru yn dangos yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei gyflawni pan roddir cyfrifoldeb a chyllid iddi. 

"Mae hyn yng nghyd-destun darparu seilwaith rheilffyrdd ledled Cymru sy'n parhau i fod yn ddiangen o gymhleth, yn anghyson a heb ddigon o gyllid. Mae'r trefniadau cyfredol ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yng Nghymru yn adlewyrchu'r adeg y cawson nhw eu creu, cyn datganoli. Ugain mlynedd wedyn, mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn San Steffan yn parhau i reoli’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.   

"Mae'r setliad datganoli amherffaith wrth wraidd llawer o’r problemau ar ein rheilffyrdd. Mae'r diffyg buddsoddi parhaus mewn gwella seilwaith yn cyfyngu'r capasiti ar gyfer gwasanaethau newydd, yn cyfyngu cyflymder trenau newydd, ac yn llyffetheirio ein gallu i agor y gorsafoedd newydd rydyn ni'n dymuno eu gweld. Lle rydyn ni wedi ymyrryd, rydyn ni wedi gwneud hynny drwy ddefnyddio cyllidebau datganoledig. Ddylen ni ddim anghofio mai cyllid Llywodraeth Cymru a arweiniodd at ailagor lein leol Glynebwy, nid perchennog ac ariannwr y seilwaith. 

"Mae adolygiad o'r bôn i'r brig Keith Williams o reilffyrdd Prydain yn gyfle i ail-lunio'r rheilffordd a chreu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig sydd ei angen ar Gymru. Ein disgwyl yw y bydd adolygiad Williams yn amlinellu llwybr clir ar gyfer rhagor o ddatganoli i Gymru. 

"Yn y cyfamser, mae angen inni dderbyn cyllid teg gan Lywodraeth y DU – rhaid iddi fuddsoddi o ystyried ei chyfrifoldeb parhaus am seilwaith rheilffyrdd."