Eglurhad o’r cynllun a’r hyn y mae’n ei olygu i denantiaid a pherchnogion eiddo.
Cynnwys
Beth yw Cynllun Lesio’r Sector Rhentu Preifat?
Nod y cynllun yw galluogi mwy o bobl i rentu'n breifat yng Nghymru, a'i wneud yn opsiwn mwy fforddiadwy. Bydd y cynllun yn rhoi sicrwydd i denantiaid ac yn rhoi hyder i landlordiaid.
Mae 15 o awdurdodau lleol wedi ymrwymo i’r cynllun hwn a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n gynllun sy'n cynnig cymhellion i berchnogion eiddo sy'n lesio eu heiddo i'r awdurdod lleol. Bydd gan denantiaid sy'n cael eu cartrefu o dan y cynllun lety diogel a fforddiadwy am gyfnod hwy. Yn ogystal â hynny, byddant yn cael lefel uchel o gymorth i helpu i gynnal eu tenantiaeth. Y bwriad yw y bydd tenantiaid, perchnogion eiddo ac awdurdodau lleol yn cael budd o'r cynllun.
Dyma amcanion y cynllun:
- Gwella’r cyfle i bobl gael cartrefi yn y sector rhentu preifat
Bydd mwy o gyfle i'r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac sy’n cael budd-daliadau, gan gynnwys credyd cynhwysol, i gael cartrefi fforddiadwy o ansawdd da yn y sector rhentu preifat.
- Sicrhau diogelwch llety tymor hwy
Bydd tenantiaid yn gallu cael llety tymor hwy sefydlog am gyfnod o hyd at 20 mlynedd.
- Cynnig llety fforddiadwy
Bydd rhenti’n cael eu cyfyngu i lefelau lwfans tai lleol er mwyn sicrhau eu bod yn fforddiadwy i denantiaid ar incwm isel a/neu denantiaid sy’n cael budd-daliadau.
- Cynnig cymorth
Caiff cymorth a hyfforddiant rheolaidd eu darparu i helpu tenantiaid i gynnal eu tenantiaeth, yn ystod y cynllun ac yn y dyfodol. Gallai hynny gynnwys cymorth i helpu tenantiaid i reoli eu harian a byw'n llwyddiannus ac yn annibynnol mewn llety sefydlog.
- Gwella safonau
Bydd angen i’r cartrefi sydd ar gael drwy'r cynllun fodloni safon benodol. Darperir cymorth ariannol i alluogi awdurdodau lleol i sicrhau bod yr eiddo o dan y cynllun yn cyrraedd y safon ofynnol.
- Cyfrannu at leihau digartrefedd
Bydd eiddo ychwanegol ar gael er mwyn helpu i leihau digartrefedd.
Y cynnig ar gyfer tenantiaid
Bydd y tenantiaid sy’n byw yn yr eiddo hyn yn elwa ar y canlynol:
- Cyfle i gael llety sefydlog yn y sector rhentu preifat ar gyfraddau lwfans tai lleol.
- Cymorth tebyg i’r hyn a ddarperir gan landlordiaid tai cymdeithasol mewn perthynas â’r denantiaeth.
Y cynnig ar gyfer perchnogion eiddo sy’n lesio eu heiddo i’r awdurdod lleol
Bydd perchnogion eiddo yn elwa ar y canlynol:
- Lesoedd am gyfnodau o 5-20 mlynedd
- Taliadau rhent gwarantedig am hyd y les ar gyfradd berthnasol y Lwfans Tai Lleol.
- Pan fo angen, cynnig o hyd at £5000, fel grant, i wella'r eiddo er mwyn sicrhau ei fod o'r safon y cytunwyd arni, a/neu gynyddu sgôr yr EPC i lefel C. Gallai’r cyllid hwn gael ei estyn i hyd at £25,000 ar gyfer eiddo gwag.
- Mae grant i wella effeithlonrwydd thermol eiddo hefyd wedi’i gyflwyno. Mae disgwyl i’r cyllid hwn fod ar gael hyd ddiwedd mis Mawrth 2025, ond mae’n gyllid dangosol felly nid oes modd ei warantu.
- Atgyweirio unrhyw ddifrod i'r eiddo a wneir gan denantiaid dan y cynllun, yn amodol ar draul resymol, a rhwymedigaeth y landlord am ddiffygion strwythurol. Byddai hynny'n cael ei gynnwys yn un o delerau'r les.
- Gwarant o gymorth priodol i denantiaid, drwy gydol oes y les.
Safon yr eiddo sy’n cael ei lesio drwy’r cynllun hwn
Bydd safon ofynnol yr eiddo a dderbynnir ar y cynllun braenaru yn gysylltiedig â safonau Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a bydd grant ar gael i sicrhau bod unrhyw eiddo sy'n rhan o'r cynllun yn bodloni’r safon y cytunwyd arni.
Bydd yr awdurdod lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw'r eiddo drwy gydol y les.
Awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn y cynllun
Mae 15 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y cynllun. Gallwch weld eu manylion cyswllt isod: