Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd Ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru (AWPW) ar 4 Tachwedd 2021. Mae'n disgrifio sut y byddwn yn cyflawni'r pedwar ymrwymiad yn ein Rhaglen lywodraethu sy'n ymwneud â lles anifeiliaid a sut y byddwn yn integreiddio llawer o waith polisi lles anifeiliaid.

Mae'r Cynllun yn esbonio sut y bydd y Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid yn monitro ei  effeithiolrwydd a sut y caiff ei roi ar waith ac yn adolygu'r rhestr o gamau gweithredu a'u hamserlen i sicrhau eu bod yn gyfredol, yn berthnasol ac yn effeithiol. Bydd yr adolygiadau hyn yn digwydd yn flynyddol (gweler tudalen 12 AWPW).

Mae'r canlynol yn disgrifio'r hyn gafodd ei wneud yn y flwyddyn gyntaf.

Crynodeb

Mae cynnydd wedi'i wneud gyda'r pedwar ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu sy'n ymwneud â lles anifeiliaid:

  • Mae gwaith ar bolisi gorfodi Lles Anifeiliaid wedi bod yn mynd yn ei flaen gyda chais am dystiolaeth i weld a yw'r rheoliadau sy'n bod eisoes yn para'n ddigonol.
  • Mae prosiect Gorfodi'r Awdurdodau Lleol yn mynd rhagddo'n dda, gydag 11 o swyddogion newydd yn cael eu penodi.
  • Ar 14 Tachwedd, lansiwyd ein hymgynghoriad 12 wythnos ar gynigion i ofyn i ladd-dai osod camerâu CCTV.
  • Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraethau'r Gweinyddiaethau eraill i edrych ar y defnydd o gewyll wedi'u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy, cratiau geni ar gyfer hychod a chewyll bridio ar gyfer adar hela. 
  • Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraethau'r DU a'r Alban ar gynigion i wella lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo. Rydym wedi trafod yn helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys arbenigwyr yn y diwydiant a mudiadau lles anifeiliaid.

Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yn gwneud diwygiadau pwysig. Rydym yn aros am ddyddiad ar gyfer y cam adrodd ac yn dal i gymell y Bil yn ei flaen ym mhob fforwm rhynglywodraethol.

Adran 1: Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu

Ymrwymiad 1: Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes neu anifeiliaid ar gyfer saethu, ac arddangosfeydd anifeiliaid

  • Rydym wedi sgrifennu at ein Hawdurdodau Lleol a mudiadau'r trydydd sector, drwy Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru (AWNW) a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru (CAWGW), i ofyn iddyn nhw nodi'u blaenoriaethau. Bydd eu hatebion yn ein helpu i benderfynu a oes angen diweddaru'r ddeddfwriaeth sy'n bod ac a oes angen rheoliadau newydd. 
  • Rydym wedi cysylltu ag arweinwyr Iechyd a Lles Anifeiliaid yr Awdurdodau Lleol i nodi'r trefniadau trwyddedu fydd yn cael eu hadolygu. 
  • A ninnau newydd gwblhau'r cam casglu tystiolaeth hwn, byddwn nawr yn dechrau ystyried yr atebion sydd wedi dod i law ac yn drafftio dogfen ymgynghori ehangach fydd yn disgrifio'r meysydd rydym am roi blaenoriaeth iddyn nhw, o ran diweddaru deddfwriaeth a lle mae angen mwy o reoleiddio. 
  • Mae'r Prosiect Gorfodi Awdurdodau Lleol wedi esblygu o'i ffocws cychwynnol ar fridio cŵn i gynnwys yr holl weithgareddau trwyddedu anifeiliaid. Gan adeiladu ar waith blaenorol, nod y prosiect 'Trwyddedu Anifeiliaid Cymru' ar ei newydd wedd yw datblygu dull cydweithredol o ran safonau, arferion gorfodi a chyngor ar y canllawiau statudol sy'n cefnogi deddfwriaeth bresennol.
  • Mae'r Prosiect Gorfodi Awdurdodau Lleol wedi helpu i archwilio safleoedd bridio cŵn ac mae eisoes wedi sbarduno newid sylweddol: 
    • Hyfforddi 49 o swyddogion mewn 22 o Awdurdodau Lleol;
    • Hyfforddi naw arolygydd rhanbarthol a dau uwch arolygydd sydd bellach wedi ymgymryd â'u swyddi.

Ymrwymiad 2: Gwella'r cymwysterau i arolygwyr lles anifeiliaid er mwyn codi eu statws proffesiynol:

  • Mae ein Prosiect Trwyddedu Anifeiliaid yn datblygu proses ar gyfer estyn a chryfhau'r hyfforddiant ar gyfer holl swyddogion gorfodi trwyddedau Awdurdodau Lleol wrth i reoliadau trwyddedu newydd gael eu cyflwyno. 
  • Hyd yma mae naw swyddog gorfodi rhanbarthol a dau uwch swyddog casglu gwybodaeth wedi'u hyfforddi, gan greu lefel uwch o arbenigedd i gefnogi Awdurdodau Lleol gydag achosion cymhlethach.
  • Mae'r prosiect wedi cael ei ganmol gyda'r uwch swyddog casglu gwybodaeth cyntaf a hyfforddwyd yn cael ei enwebu ar gyfer gwobr Ffederasiwn y Diwydiant Anifeiliaid Anwes a'r rhaglen ei hun yn derbyn gwobr 'Innovator Footprint' yr RSPCA.

Ymrwymiad 3: Gwneud teledu cylch cyfyng yn ofynnol ym mhob lladd-dy

  • Ym mis Tachwedd 2021, ysgrifennodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru at weithredwyr pob lladd-dy yng Nghymru i ddweud wrthyn nhw am ein hymrwymiad i'w gwneud yn ofynnol rhoi CCTV ym mhob man lle mae yna anifeiliaid byw. 
  • Rydym wedi gweithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd i ddeall y cyfleusterau sydd yn lladd-dai Cymru ac i asesu effeithiau ein hymrwymiad ar fusnesau unigol, yn enwedig ein lladd-dai llai.
  • Ar 14 Tachwedd 2022, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos. Mae ein cynigion yn ei gwneud yn ofynnol gosod CCTV yn y mannau ym mhob lladd-dy cymeradwy lle mae yna anifeiliaid byw. Bydd gofyn i weithredwyr lladd-dai ganiatáu i asiantaethau gorfodi gael gweld y tapiau a'u storio am gyfnod penodol.
  • Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos i ben ym mis Chwefror 2023. Byddwn yn dadansoddi'r atebion ac yn cyhoeddi crynodeb ohonynt, gan gynnwys y camau nesaf.

Ymrwymiad 4: Cyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir

  • Rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i ystyried sut i wella eto safonau lles anifeiliaid fferm trwy archwilio'r modd y defnyddir cewyll wedi'u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy, cratiau geni ar gyfer hychod a chewyll bridio ar gyfer adar hela. 
  • Rydym yn ystyried eu heffeithiau ar les yr anifeiliaid a'r diwydiant, a oes systemau amgen ar gael yn fasnachol, yn ogystal â'u heffeithiau ar ddefnyddwyr, yr amgylchedd a masnach.
  • Gwnaethon ni gomisiynu ymchwil i ddeall yn well y modd y defnyddir cewyll ar gyfer anifeiliaid fferm, gan gynnwys:  
    • Sut a lle mae cewyll yn cael eu defnyddio (gan gynnwys wrth fagu adar hela)
    • Pa systemau sy'n cael eu defnyddio ac i ba raddau 
    • Pa rywogaethau, neu is-setiau o rywogaethau, sy'n eu defnyddio
    • Pa systemau di-gewyll eraill sy'n cael eu defnyddio ym Mhrydain Fawr a thu hwnt? 

Adran 2: Gwaith ar Bolisi yng Nghymru

Canllawiau Statudol Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

Diweddaru Canllawiau statudol Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid a Sefydliadau Anifeiliaid

  • Rydym yn ystyried opsiynau a llinellau amser ar gyfer rheoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid ac arddangosfeydd anifeiliaid, a hefyd yn penderfynu a oes angen ymyrryd yn y maes rasio milgwn yng Nghymru. 
  • Gan adeiladu ar waith blaenorol, byddwn yn parhau i weithio gyda Defra a Llywodraeth yr Alban i sicrhau gweithredu cyson lle bo hynny'n briodol.
  • Rydym yn bwriadu ymgynghori â'r cyhoedd ar y materion hyn. 
  • Rydym yn gweithio gyda'r Prosiect Trwyddedu Anifeiliaid a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu proses ar gyfer estyn a chryfhau'r model presennol ar gyfer hyfforddi swyddogion gorfodi wrth i reoliadau trwyddedu newydd gael eu cyflwyno. 
  • Mae swyddogion yn cadw golwg ar y diddordeb cynyddol yn rasio milgwn ac yn bwriadu cynnwys cwestiynau mewn unrhyw ymgynghoriad ar gynigion diwygiedig.

Microsglodynnu Cŵn a Chathod

  • Bydd cynigion i'w gwneud yn orfodol microsglodynnu cathod a chathod bach yng Nghymru yn defnyddio'r ymchwil a gynhaliwyd ar lefel y DU a gyhoeddwyd yn 2021. 
  • Ar ôl dadansoddi'r ymchwil, byddwn yn ystyried a oes angen unrhyw welliannau i'r rheoliadau cyfredol ar ficrosglodynnu cŵn a mesurau newydd posibl ar gyfer cathod a chathod bach. Byddwn yn ymgynghori'n llawn â'r cyhoedd ar unrhyw newidiadau.

Codau Ymarfer

  • Bwriad ein codau ymarfer yw annog pawb sy’n gyfrifol am anifeiliaid i gadw at y safonau gofalu uchaf. Maen nhw'n esbonio beth y dylai rhywun ei wneud i fodloni'r safonau gofal y mae'r gyfraith yn gofyn amdanynt. 
  • Rydym wedi sefydlu Gweithgor gyda gweinyddiaethau eraill y DU i ystyried cylch adolygu'r codau. Mae manteision amlwg i gydweithio i ddiweddaru codau. 
  • Mae'r adolygiad o'n Cod Ymarfer ar gyfer Lles Adar Hela a Fegir at Ddiben Chwaraeon wedi'i ohirio o hyd wrth i ni edrych ar y dystiolaeth o'r defnydd o gewyll ar gyfer bridio adar hela. Rydym wedi gohirio cyhoeddi ein Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Lles Moch.

Adran 3: Cydweithredu ar Bolisi y DU/Prydain Fawr

Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

  • Bil Llywodraeth y DU yw Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), o dan nawdd Defra. Mae'n gwneud darpariaethau i wneud newidiadau ynghylch lles anifeiliaid a gedwir gan gynnwys anifeiliaid fferm, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt a gedwir.
  • Mae Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol, mewn perthynas â'r holl gymalau a gynhwysir yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), wedi'u gosod yn Senedd Cymru, gan gynnwys gwahardd allforion byw, darpariaethau ynghylch cŵn sy'n ymosod ar dda byw / poeni da byw, mewnforio anifeiliaid anwes, cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes a safonau mewn swau.
  • Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â Defra a'r Gweinyddiaethau Datganoledig trwy is-grŵp Bil Anifeiliaid a Gedwir y Grŵp Polisi Lles Anifeiliaid (AWPG). 
  • Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) wedi cyrraedd y cam Adrodd yn Nhy'r Cyffredin. Mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi bod yn adolygu'r Bil a materion trafod allweddol wrth i ni aros am ddyddiad newydd ar gyfer y cam Adrodd. 
  • Cododd y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd, Lesley Griffiths, y Bil Anifeiliaid a Gedwir yng nghyfarfod y Grŵp Rhyng-Weinidogol ym mis Ionawr ac ers hynny mae wedi ysgrifennu at y Gwir Anrh Arglwydd Benyon yn Defra, i fynegi ein pryder nad yw pethau'n symud ac i annog Llywodraeth y DU i fynd â'r Bil y tu hwnt i'r cam adrodd. 

Lles Anifeiliaid wrth eu Cludo

  • Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar wahardd allforio gwartheg, defaid, moch, geifr a cheffylau byw i'w lladd, gan gynnwys ar gyfer eu pesgi i'w lladd wedi hynny, drwy'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).
  • Rydym yn cytuno â'r farn na ddylid cludo anifeiliaid oni bai bod hynny'n angenrheidiol a dylid cadw amser teithiau mor fach â phosibl. Bydd allforion at ddibenion heblaw lladd neu besgi, megis ar gyfer bridio neu i fynd i gystadlaethau a sioeau, yn parhau i gael eu caniatáu. Ni fydd dofednod yn dod o dan y gwaharddiad.
  • Mae tystiolaeth wedi dangos y gall teithiau hir iawn achosi straen gwres, dadhydradu, ac anafiadau corfforol i anifeiliaid sy'n cael eu cludo. 
  • Rydym bellach yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr - gan gynnwys grwpiau lles anifeiliaid a ffermio – i ddatblygu'r mesurau hyn ymhellach i helpu i wella lles anifeiliaid fferm wrth eu cludo.