Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cafodd ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2021. Mae'n nodi sut y byddwn yn gwireddu pedair ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu a'n blaenoriaethau eraill ar gyfer lles anifeiliaid.

Ein huchelgais yw bod pob anifail yng Nghymru yn byw bywyd o ansawdd da. Mae hwn yn amcan strategol yn ein Fframwaith ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid Cymru, sef y sylfaen y cafodd ein Cynllun Lles Anifeiliaid pum mlynedd ei ddatblygu arni. 

Mae'r canlynol yn disgrifio'r hyn sydd wedi'i wneud yn 2024, blwyddyn tri'r cynllun. Crynodeb o adroddiadau cynnydd ei flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn

Crynodeb

Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran rhoi ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid ar waith:

  • Daeth ein hymgynghoriad 12 wythnos ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid i ben ym mis Mawrth 2024. Cafodd crynodeb o'r ymatebion a'r datganiad ysgrifenedig eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024. Cyhoeddwyd ein hymateb i’r ymgynghoriad a’r camau nesaf ym mis Mehefin 2025.
  • Fel y cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025 gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, rydym yn paratoi ar gyfer gwaharddiad ar rasio milgwn cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.
  • Mae Prosiect Gorfodi Awdurdodau Lleol, neu Trwyddedu Anifeiliaid Cymru fel y daeth i gael ei alw, wedi hen ennill ei blwyf gydag wyth swyddog gorfodi rhanbarthol, dau swyddog cymorth ac un cydlynydd systemau wedi'u penodi. Hyd at fis Ionawr 2025, mae pedwar cwrs hyfforddi wedi'u cynnal ar gyfer 60 o swyddogion mewn 12 Awdurdod Lleol yng Nghymru, gyda 26 o'r swyddogion hyn yn cwblhau'r gofynion ychwanegol i ennill y cymhwyster ar gyfer gwerthwyr anifeiliaid anwes.
  • Mae'r rheoliadau sy'n gofyn am osod camerâu teledu cylch cyfyng ym mhob rhan o ladd-dy y ceir anifeiliaid byw ynddo wedi dod i rym.
  • Gwaherddir allforio gwartheg, defaid, geifr, moch a cheffylau byw i'w lladd, neu i'w pesgi, boed yn dechrau eu taith ym Mhrydain Fawr neu’n teithio trwyddi.
  • Cynhaliwyd ein hail gynhadledd aml-asiantaethol flynyddol ar berchenogaeth gyfrifol ar gŵn, gan ategu cyfres o weithdai a gynhaliwyd yn 2024. I weld Datganiad Ysgrifenedig am ganlyniadau'r gynhadledd, cliciwch yma.

Adran 1: Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu

Ymrwymiad 1 y Rhaglen Lywodraethu: Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes neu anifeiliaid ar gyfer eu saethu, ac arddangosfeydd anifeiliaid

  • Ym mis Mawrth 2024 cynhalion ni ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid. Gyda’r cais cynharach am dystiolaeth, dyma oedd cam cyntaf datblygu Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. Cafodd crynodeb o'r ymatebion a'r datganiad ysgrifenedig eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024.
  • Roedd yr ymgynghoriad yn un eang a chymhleth, gan rychwantu pedair thema – sefydliadau lles anifeiliaid, gweithgareddau anifeiliaid, arddangosfeydd anifeiliaid a rasys milgwn. Cynhwyswyd y categori olaf hwn i gydnabod diddordeb mawr a di-dor y cyhoedd yn lles milgwn rasio.
  • Roedd yr ymatebwyr yn cytuno y gallai llawer o sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd elwa ar drefn reoleiddio gyson neu ar osod safonau o dan Fodel trwyddedu neu gofrestru Cenedlaethol. Cafwyd consensws y dylai unrhyw drefniant rheoleiddio fod yn gymesur, yn addas i’r diben ac yn benodol i’r gweithgaredd, a bod angen fframwaith gorfodi cymwys, cyson gydag adnoddau digonol i’w ategu.
  • Rydym am gyflwyno Model Cenedlaethol ar gyfer lles anifeiliaid fesul cam, gan ganolbwyntio ar y meysydd hynny a allai elwa o gael eu rheoleiddio, o ystyried y dystiolaeth, y farn a'r wybodaeth a gyflwynwyd.
  • Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid, asiantaethau gweithredol, a'r trydydd sector i ddatblygu trefniant rheoleiddio.  
  • Fel y cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025, gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, rydym yn paratoi ar gyfer gwaharddiad ar rasio milgwn cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl. Rydym wrthi’n sefydlu Grŵp Gweithredu a fydd yn darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i’r Llywodraeth. Bydd yn cynrychioli gwahanol randdeiliaid ac yn rhoi cyfarwyddid er mwyn sicrhau lles cŵn rasio gydol y broses, a hefyd er mwyn cefnogi ymdrechion i leihau’r effeithiau ar gymunedau lleol a’r economi.
  • Fel rhan o’r datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ym mis Ebrill 2025 y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn ystod yr Hydref, a hynny er mwyn cyflawni’r ymrwymiad i wahardd rasio milgwn yng Nghymru.
  • Cafodd ein hymateb i’r ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, gweithgareddau ac arddangosfeydd, a’n camau nesaf, eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2025. 

Ymrwymiad 2 y Rhaglen Lywodraethu: Gwella'r cymwysterau i arolygwyr lles anifeiliaid er mwyn codi eu statws proffesiynol

  • A hwythau bellach wedi ennill eu plwyf, mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn dal i hyrwyddo'r nodau cyffredin o orfodi effeithiol, canllawiau a chefnogaeth gryfach, fydd yn arwain at ganlyniadau gwell i iechyd a lles anifeiliaid.
  • Hyd yma mae wyth swyddog gorfodi rhanbarthol, dau swyddog cymorth ac un cydlynydd systemau wedi'u penodi, gan greu safon uwch o arbenigedd i helpu Awdurdodau Lleol gydag achosion cymhlethach.
  • Mae swyddogion wedi cynnal 787 o archwiliadau gan arwain at gyflwyno 68 o Hysbysiadau Gwella o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae'r archwiliadau hyn wedi rhoi gwybodaeth am fridwyr cŵn sydd heb drwydded. Cafwyd 423 o alwadau gyda gwybodaeth rhwng Chwefror 2023 a Ionawr 2025 yn unig gan arwain at 132 o ymchwiliadau.
  • Mae'r tîm hefyd wedi gweithio ym mhorthladdoedd Cymru i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â'r cynllun teithio ar gyfer anifeiliaid anwes / trefniadau symud anifeiliaid anwes yn fasnachol. Ym mis Rhagfyr 2024, cafodd 215 o gerbydau eu harchwilio.
  • Trefnodd y tîm sesiynau hyfforddi ar gyfer 73 o filfeddygon, ar ôl gweld bod angen hyfforddiant i allu cynnal archwiliadau o sefydliadau bridio cŵn i sicrhau eu bod yn ffit i fridio cŵn. Cafodd y sesiynau hyn eu cynnal ledled y wlad a mawr fu'r croeso iddynt.
  • Ym mis Medi 2024, cafodd gwaith y tîm ei gydnabod yng Ngwobrau PawPrints RSPCA. Cyflwynwyd gwobr arbennig iddo, a chafodd Trwyddedu Anifeiliaid Cymru (ALW) eu canmol: 

"Ers ei sefydlu yn 2021, mae ALW wedi chwarae rhan drawsnewidiol wrth wella'r trefniadau gorfodi lles anifeiliaid ledled Cymru, yn enwedig wrth ddelio â bridwyr cŵn a mewnforwyr cŵn bach anghyfreithlon. Gyda'i dîm arbenigol i gefnogi awdurdodau lleol, mae ALW wedi helpu i sicrhau erlyniadau arwyddocaol a chanlyniadau cadarnhaol, gan osod safon newydd o ran cysondeb a rhagoriaeth yn y maes. Yn ogystal â gwella lles anifeiliaid, mae eu rhaglenni hyfforddi arloesol a'u gwaith cydweithredol yn golygu bod Cymru'n arweinydd ym maes gorfodi lles anifeiliaid ar lefel y DU." 

  • Datblygodd Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wefan a phorth ymgeisio, sy'n cael eu treialu gan ddau Awdurdod Lleol i ddarparu un pwynt canolog ar gyfer ymholiadau, ceisiadau a chanllawiau ynghylch bridio cŵn. Mae eisoes yn adnodd gwerthfawr, gyda 26 o geisiadau wedi'u gwneud a thri ymholiad wedi dod i law ers ei lansio.

Ymrwymiad 3 y Rhaglen Lywodraethu: Gwneud teledu cylch cyfyng yn ofynnol ym mhob lladd-dy

  • Mae'r rheoliadau sy'n gofyn am osod camerâu teledu cylch cyfyng ym mhob rhan o ladd-dy y ceir anifeiliaid byw ynddi wedi dod i rym. Cafodd Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 eu cymeradwyo gan y Senedd ym mis Mai 2024.
  • Daeth y rheoliadau i rym mewn dau gam. Daeth y gofyn i osod a gweithredu system CCTV a chadw recordiadau a gwybodaeth CCTV i rym ar 1 Mehefin 2024. Rhaid i berchenogion lladd-dai osod camerâu CCTV ym mhob man lle caiff anifeiliaid byw eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a'u lladd. Rhaid cadw'r lluniau am o leiaf 90 diwrnod. Daw'r troseddau a'r pwerau i archwilio, cymryd meddiant a gorfodi'r Rheoliadau i rym ar 1 Rhagfyr 2024.
  • Rhoddodd hynny gyfnod o chwe mis i'r Asiantaeth Safonau Bwyd weithio gyda lladd-dai i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau cyn iddyn nhw ddod i rym. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i helpu lladd-dai i gydymffurfio â'r rheoliadau. Bydd yr FSA yn defnyddio CCTV fel rhan o'i rôl orfodi bresennol mewn lladd-dai.
  • Rydym yn gwybod y gall CCTV wneud gwaith monitro a gorfodi yn fwy effeithlon. Bydd hyn yn helpu i wella hyder y cyhoedd bod safonau lles yn cael eu bodloni.  

Ymrwymiad 4 y Rhaglen Lywodraethu: Cyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir.

  • Rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i ystyried sut y gallwn wella eto ein safonau sydd eisoes yn uchel o ran lles anifeiliaid fferm.
  • Rydym wedi comisiynu'r Pwyllgor Lles Anifeiliaid, i weithio gyda Llywodraethau'r DU a'r Alban, i gynghori ar systemau di-gawell a systemau yn lle systemau cewyll. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu ar ein camau nesaf yn y sector ieir dodwy. 

Adran 2: Gwaith ar Bolisi yng Nghymru

Canllawiau Statudol Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021

  • Cafodd ein canllawiau statudol ar gyfer gwerthu anifeiliaid anwes eu cyhoeddi yn 2021.
  • Ym mis Rhagfyr 2024, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, cynhaliwyd tri chwrs hyfforddi i 60 o swyddogion o bob Awdurdod Lleol gan ddarparu deunydd am y gofynion o ran trwyddedu gwerthwyr anifeiliaid anwes. Bydd cwrs arall yn cael ei gynnal yn 2025.
  • Bydd Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a phartïon perthnasol eraill i ddatblygu modiwlau unigol ar gyfer gwahanol feysydd trwyddedu anifeiliaid wrth iddynt ddatblygu.

Diweddaru eto y canllawiau statudol ar gyfer Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

  • Mae canllawiau statudol gwell yn cael eu datblygu gyda chymorth tîm Trwyddedu Anifeiliaid Cymru i egluro a chryfhau agweddau gwahanol ar orfodi.
  • Gwnaed rhagor o argymhellion drwy'r gweithdai bridio cŵn ac ar berchenogaeth gyfrifol i helpu â'r adolygiad o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.

Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid a Sefydliadau Anifeiliaid

  • Daeth ein hymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid i ben ym mis Mawrth 2024.
  • Roedd yr ymgynghoriad yn un eang gan ennyn diddordeb mawr, gyda thros 1180 o ymatebion yn dod i law. Diolch i'r holl ymatebwyr am eu cyfraniad, a fydd yn ein helpu i ddatblygu Model Cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid yn y dyfodol.
  • O ganlyniad i'r diddordeb parhaus yn lles milgwn rasio, cynhwyswyd dau gwestiwn am filgwn yn ein hymgynghoriad.
  • Cafodd crynodeb o'r ymatebion a datganiad ysgrifenedig eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024. Cyhoeddwyd ein hymateb i'r ymgynghoriad a’r camau nesaf ym mis Mehefin 2025. 

Microsglodynnu Cŵn a Chathod

  • Mae ein gwaith cydweithredol ar Bridio Cŵn a Pherchenogaeth Gyfrifol wedi tynnu sylw’n effeithiol at faterion penodol ynghylch microsglodynnu cŵn. Byddwn yn ystyried newidiadau i wella'r drefn rheoli cronfeydd data a gorfodi, yn ogystal â rheoliadau newydd ar gyfer microsglodynnu cŵn a chathod yng Nghymru.
  • Bydd y cynigion i'w gwneud yn orfodol rhoi microsglodion ar gathod yn cael eu hystyried unwaith y bernir bod y ddeddfwriaeth a'r cronfeydd data presennol yn effeithiol.
  • Rydym yn parhau i weithio ar y cyd â swyddogion mewn gweinyddiaethau eraill i sicrhau bod unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn y drefn casglu a defnyddio data microsglodion yn diwallu anghenion y cyhoedd ac asiantaethau gorfodi fel ei gilydd. 

Bridio Cŵn a Bod yn Berchennog Cyfrifol ar Gŵn (RDB&O) 

  • Yn dilyn yr RDB&O: Cafodd cynhadledd ar Gŵn Peryglus ei chynnal yn 2023 lle daeth Awdurdodau lleol, yr heddlu ac ymgyrchwyr lles cŵn ynghyd a chynhaliwyd cyfres o weithdai trwy gydol 2024.
  • Canolbwyntiwyd ar nodi'r problemau a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg, cofnodi gweithredoedd a datblygu strategaethau i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Roeddynt yn gyfle i randdeiliaid rannu syniadau ac i gydweithio ar atebion, gan sicrhau bod y cynnydd yn parhau.
  • Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol RDB&O ar 24 Hydref 2024, o dan ofal Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig a Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru. Cafodd rhanddeiliaid wybod am eu gwaith a rhannwyd uchafbwyntiau a llwyddiannau RDB&O dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Cafodd datganiad ysgrifenedig ar hynt y gwaith rydym wedi’i gyflawni ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2024.

Adran 3: Cydweithredu ar Bolisi y DU/Prydain Fawr

Lles wrth Gludo / Gwahardd Allforion Byw  

  • Mae Deddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 yn gwahardd allforio gwartheg, defaid, geifr, moch a cheffylau byw i’w lladd, gan gynnwys eu pesgi i'w lladd, boed eu taith yn dechrau ym Mhrydain Fawr neu’n mynd trwyddi, i aelod-wladwriaethau'r UE a thrydydd gwledydd eraill.
  • Rydym yn cefnogi'r gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd a'u pesgi. Dim ond pan fydd angen y dylid cludo anifeiliaid, a dylai teithiau fod mor fyr ag y bo modd. Nid oes angen allforio anifeiliaid i'w lladd neu eu pesgi gan y gellid eu lladd neu eu pesgi yn y wlad hon.
  • Daeth Rheoliadau Gorfodi Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024, sy'n gwneud darpariaethau ar gyfer gorfodi'r gwaharddiad ar allforion byw, i rym ar 1 Ionawr 2025.
  • Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraethau'r DU a'r Alban, a rhanddeiliaid i ystyried sut y gallwn ddiogelu lles anifeiliaid yn well wrth eu cludo yn y wlad hon. 

Biliau Aelodau Preifat (PMBs)

  • Cafodd y Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) a'r Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygiadau) eu cyflwyno i Senedd y DU fel Biliau Aelodau Preifat mater unigol yn 2023. Yn sgil diddymu’r Senedd ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024, daeth holl fusnes y Senedd i ben a gwnaeth y ddau Fil gwympo.
  • Cafodd y ddau Fil eu hailgyflwyno ym mis Hydref 2024, eto fel Biliau Aelodau Preifat.
  • Mae Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) yn cynnwys darpariaeth i gyfyngu ar fewnforio masnachol a symud anfasnachol cŵn, cathod a ffuredau i’r DU o drydydd gwledydd, ar sail lles anifeiliaid.
  • Mae Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygiadau) yn cynnwys nifer o ddarpariaethau ar gyfer cyflwyno diwygiadau i Ddeddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953 i wella camau gorfodi mewn ymateb i achosion o gŵn yn tarfu ar dda byw.
  • Rydym yn llwyr gefnogi’r ddau Fil sy’n anelu at gyflawni diwygiadau pwysig y mae gwir eu hangen o ran lles anifeiliaid.

Trafod â'r Pwyllgor Lles Anifeiliaid

  • Mae'r Pwyllgor Lles Anifeiliaid (AWC) yn cynghori Llywodraethau ar les anifeiliaid fferm, anwes a gwyllt a gedwir gan bobl.
  • Rydym yn gofyn i'r AWC ynghyd â'r Llywodraethau Datganoledig eraill am gyngor. Dyma rai o'r papurau barn a'r cyngor a gyhoeddwyd gan AWC yn ystod 2024:

Barn ar arferion bridio cathod

Barn ar arferion atgenhedlu cŵn arbenigol

Barn ar ewyn nitrogen ehangu uchel ar gyfer difa dofednod

Cyngor ar drin ceffylau cyn eu lladd

Cyngor ar ddifa dofednod ar frys yr effeithir arnynt gan ffliw adar pathogenig uchel (HPAI)

Barn ar ddewisiadau amgen difa cywion

Barn ar les pysgod a ffermir ar adeg eu lladd

Ysbaddu a thorri cynffonnau ŵyn

  • Rydym yn parhau i weithio gyda Defra, Llywodraeth yr Alban a rhanddeiliaid i ystyried casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Lles Anifeiliaid ar effeithiau ysbaddu a thocio cynffonnau ar les ŵyn, yn ogystal ag ymchwil gan Goleg Gwledig yr Alban ar ddyfeisiau prototeip newydd. Rydym am weld polisi cyson ledled Prydain Fawr i sicrhau'r canlyniadau gorau i les ŵyn.
  • Mae ysbaddu a thorri cynffonnau yn brosesau poenus sy'n achosi poen uniongyrchol a pharhaus. Dylai ffermwyr defaid ystyried yn ofalus a oes rhaid gwneud y naill neu'r llall, gan drafod y mater â'u milfeddyg. Os oes angen at ddibenion lles neu reoli, yna rhaid eu cynnal yn unol â'r gyfraith.