Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Swyddi

O heddiw ymlaen, bydd unigolion a busnesau yng Nghymru yn elwa ar gynnydd o tua chwe gwaith i'r cymhorthdal sydd ar gael ar gyfer cyfleoedd hyfforddi achrededig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gyda Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei buddsoddiad yn y Rhaglen Sgiliau Hyblyg o £1.3 miliwn y flwyddyn i dros £7.5 miliwn, bydd cymorth ar gael i weithwyr fanteisio ar filoedd o leoedd unigol ar gyrsiau hyfforddi ar gyfer uwchsgilio neu ailsgilio.  

Mae'r ehangu hwn yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Prif Weinidog i weld Cymru sy’n cael ei gyrru gan swyddi a thwf gwyrdd, ac yn dilyn galw cynyddol gan gyflogwyr Cymru am gymorth i ddatblygu sgiliau gweithwyr mewn ymateb i ddiwydiannau sy'n newid a thechnolegau newydd. Bydd ffocws penodol ar gefnogi sectorau allweddol a sgiliau angenrheidiol megis: Peirianneg a Gweithgynhyrchu; Digidol/Seiber; sgiliau gwyrdd; ac arweinyddiaeth a rheolaeth.

Gall unrhyw gyflogwr wneud cais am y grant sydd yno i helpu busnesau i ymateb yn gyflym i fylchau sgiliau yn y farchnad, gyda Llywodraeth Cymru yn talu 50% o gostau hyfforddiant busnes (hyd at £50,000 y busnes y flwyddyn).

Lansiwyd y cynllun estynedig heddiw, ar ddiwrnod cyntaf wythnos Dysgu yn y Gwaith [dydd Llun, Mai 12] yn adeilad IQ Endoscopes (IQE), cwmni dyfeisiau meddygol arloesol newydd sydd wedi gweld drosto'i hun pa wahaniaeth y gall y cyllid ei wneud.

Mae IQE ar fin gosod ei ddyfais gyntaf ar farchnad y Deyrnas Unedig – endosgop fforddiadwy, di-haint a chynaliadwy a fydd yn galluogi diagnosis cynnar cyflym i helpu i leihau amseroedd aros cleifion a helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach. Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg wedi eu galluogi i gefnogi dros 170 o gyfleoedd hyfforddi technegol neu arweinyddiaeth a rheoli unigol i'w staff dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd Gemma Banks, Rheolwr Adnoddau Dynol yn IQE:

Mae cwmni bach fel ni yn ei chael hi'n anodd weithiau i ddenu lefelau penodol o brofiad a thalent o fewn y busnes, ond rydyn ni wedi gallu cynnig hyfforddiant ychwanegol i bobl sydd wedyn wedi llenwi bwlch sgiliau gwirioneddol ac angen gwirioneddol o fewn y busnes cyn iddo ddod yn broblem.

Yn ddiweddar, cwblhaodd Shaun O'Connell, technegydd peirianneg yn IQE, hyfforddiant CoSHH, ISH a Rheoli Sylweddau Peryglus drwy'r rhaglen a dywedodd:

Mae'r hyfforddiant wedi rhoi nifer o gyfleoedd i mi dyfu o fewn fy rôl ac rydw i bellach yn rheoli'r holl sylweddau peryglus rydyn ni'n eu defnyddio ac yn sicrhau bod y llawlyfr diogelwch labordy yn gyfredol o hyd. Mae wedi gwneud y labordy yn llawer mwy diogel ac yn lle mwy effeithiol i weithio.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Sgiliau:

Ar ôl cefnogi dros 8,000 o ymyriadau hyfforddi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rwy'n gyffrous am yr effaith y gallai Rhaglen Sgiliau Hyblyg estynedig fel hon ei chael yn y dyfodol.

Mae'r rhaglen wedi llwyddo oherwydd bod busnesau uchelgeisiol yng Nghymru yn buddsoddi ynddynt eu hunain i wella sgiliau eu gweithlu. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi eu huchelgais a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.  

Wrth i ni baratoi i gynnal uwchgynhadledd fuddsoddi ryngwladol fawr yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, mae'r cynllun estynedig hefyd yn cryfhau ein cynnig i gwmnïau sy'n dymuno buddsoddi yma.