Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy nag 11,000 o bobl ifanc wedi cael help i gael swydd yn ystod blwyddyn gyntaf rhaglen flaengar Llywodraeth Cymru i bobl ifanc, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Gweinidog yr Economi’n cyhoeddi’r adroddiad blynyddol cyntaf ar y Gwarant i Bobl Ifanc, y cynllun blaengar sy’n helpu pobl ifanc i gael gwaith ac sy’n lleihau diweithdra ymhlith pobl ifanc.
  • Mae’r Gweinidog yn cadarnhau rhagor o help i’r bobl ifanc sydd ar raglenni Twf Swyddi Cymru+, ac sy’n ei chael hi’n anodd yn yr argyfwng costau byw. Yn cynnwys costau teithio a phrydau am ddim.

Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc (YPG) yn cynnig help i bobl dan 25 oed yng Nghymru i gael swydd neu le mewn addysg neu hyfforddiant neu i fynd yn hunangyflogedig. Mae Gweinidogion wedi ymrwymo £1.4 biliwn y flwyddyn o gymorth i bobl ifanc Cymru o dan raglenni amrywiol yr YPG.

Mae’r YPG yn dod ag amrywiaeth o raglenni a mentrau ar gyfer pobl ifanc ynghyd i ddarparu’r math iawn o gymorth ar yr adeg iawn i ddiwallu anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru gan wella’u sgiliau a’u gwneud yn fwy cyflogadwy.

Yn y tymor hir, nod yr YPG yw sicrhau bod 90% o bobl 16 i 24 oed mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant erbyn 2050 – sef un o gerrig milltir cenedlaethol Llywodraeth Cymru i wella lles pobl Cymru.

Mae’r Gweinidog yn cyhoeddi heddiw “Adroddiad blynyddol cenhedlaeth Z y Warant Person Ifanc: 2022 i 2023”, y cyntaf mewn cyfres o adroddiadau ar genhedlaeth Z fydd yn disgrifio’r gwaith sy’n cael ei wneud i wireddu un o brif ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu.

Mae’r adroddiad yn dangos bod gwasanaethau cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn unig wedi gwneud dros 20,000 o ymyriadau, gyda thros 11,000 o bobl ifanc yn dechrau ar raglenni cyflogaeth ers lansio’r YPG ym mis Tachwedd 2021.

Mae’r Gweinidog yn lansio’r adroddiad yn ystod yr Wythnos Brentisiaethau Genedlaethol gan fod prentisiaethau’n rhan bwysig o’r YPG. Fel rhan o’i Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2023 i 2024, mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £18 miliwn yn rhagor mewn prentisiaethau i ddadwneud effeithiau chwyddiant uchel.

Mae’r Gweinidog yn cyhoeddi heddiw hefyd bod Llywodraeth Cymru’n cynyddu’r pecyn cymorth i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynlluniau’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Bydd hyn yn help i bobl ifanc dros yr argyfwng costau byw trwy leihau’r rhwystrau ariannol allai fod yn eu hatal rhag ymuno â’r rhaglen ac aros ynddi.

Mae’r cymorth ychwanegol yn cynnwys:

  • dyblu’r Lwfans Hyfforddi i £60
  • lwfans newydd ar gyfer prydau bwyd am ddim
  • trefniant dros dro i dalu 100% o’r costau teithio (os yn cael hyfforddiant)
  • ymestyn yr oed ar gyfer cofrestru ar y Rhaglen i 19 oed

Lansiodd Gweinidog yr Economi’r adroddiad pan ymwelodd ag ITEC, un o ddarparwyr dysgu Twf Swyddi Cymru+, yn eu canolfan hyfforddi ym Mhont-y-pridd. Cafodd weld yno y gwaith sy’n cael ei wneud i gryfhau iechyd meddwl a lles pobl ifanc. 

Dywedodd Saide Jones, 18 oed, sydd wedi cael help gan ITEC:

“Ar hyd fy amser yn ITEC, mae pawb wedi rhoi sut gymaint o help i fi. Mae ITEC wedi fy helpu i dyfu a gwella llawer agwedd ar fy mywyd, gan gynnwys cyfathrebu, fy hyder a’r ffordd wy’n meddwl yn wahanol am bethau. Maen nhw hefyd yn rhoi gwersi ynghylch iechyd meddwl, sydd wedi fy helpu’n fawr â fy iechyd meddwl a fy hunan-hyder fy hun. Dw i wedi dod yn bell o’r lle roeddwn i pan ddechreuais yma. Dw i’n teimlo mod i wedi tyfu.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i fuddsoddi ym mywydau’r bobl ifanc sydd angen help llaw i wireddu’u potensial.  Pa beth bynnag yw’r ansicrwydd sy’n ein hwynebu, gallwn fod yn siŵr o un peth – mae peidio â helpu pobl ifanc heddi yn golygu methiant economaidd fory.

“Mae’r adroddiad blynyddol cyntaf yn cadarnhau bod llawer wedi’i wneud i ddarparu ein Gwarant i Bobl Ifanc ond bod angen targedu’r help yn well i helpu’r rheini sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf.  Rydyn ni wedi cymryd camau pendant i wella’r ffordd rydyn ni’n cael hyd i’r bobl ifanc hynny sydd angen y cymorth ychwanegol fwyaf.

“Rydyn ni’n gwybod bod pobl ifanc yn ei chael hi’n anodd yn yr argyfwng costau byw.  Mae’n dda gen i gadarnhau felly ein bod yn camu i’r adwy ac yn cynyddu’r help rydyn ni’n ei roi iddyn nhw.  Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ymuno â’r rhaglenni ac aros ynddyn nhw, sydd mor bwysig i’w hargoelion am waith a’u llwyddiant yn y dyfodol.

“Mae’n fy ysbrydoli i glywed sut mae pobl ifanc, yn enwedig y rheini o gefndir tan anfantais, yn manteisio ar y cymorth, a chyda help ein partneriaid fel ITEC, yn edrych yn galonogol tua’r dyfodol.”

Dywedodd Gareth Matthews, Cyfarwyddwr ITEC:

“Rydyn ni’n falch iawn fy mod yn rhan o’r Gwarant i Bobl Ifanc, ac yn enwedig y rhaglen Twf Swyddi Cymru +.

“Mae’r Gwarant a’r cynnydd yn y cymorth i’r rhaglen yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn golygu newidiadau positif iawn i’r rhaglen.

“Rydym wedi bod yn gweld bod gan fwy a mwy o bobl 16-19 oed broblemau iechyd meddwl a gorbryder cymdeithasol sylweddol. Gwnaeth pandemig Covid y sefyllfa’n waeth gyda phobl yn gaeth i’w cartrefi ac yn teimlo’n ynysig. Mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu eu sefyllfa hefyd.

“P’un a yw person ifanc yn gwybod beth mae am ei wneud neu os oes angen help i feddwl am y camau nesaf, gallwn greu rhaglen arbennig o gymorth penodol. Gallai ei helpu i gael cymwysterau, trefnu profiad gwaith neu hyd yn oed cynnig help i ddechrau meddwl am yrfa a beth sy’n dod nesaf.”