Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Ionawr 2025.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) y DU yn gofyn am fewnbwn ar fframwaith rheoleiddiol a fydd yn anelu at gydnabod a defnyddio cludiant CO2 heb biblinell (NPT) yn ETS y DU.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad yn nodi cynigion ar gyfer fframwaith rheoleiddiol a fydd yn galluogi cyfranogwyr yn yr ETS i ddidynnu CO2 a gaiff ei ddanfon i storfa barhaol drwy NPT o’u allyriannau adroddadwy.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK
