Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun ar yr A55 gwerth £30 miliwn i wella diogelwch, amddiffyn rhag llifogydd yn well a darparu llwybr teithio llesol newydd yn gwneud cynnydd da, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru ar ôl ymweld â’r safle.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cynllun ar ffordd Aber i Dai’r Meibion yn gwella diogelwch a chydnerthedd ar hyd darn 2.2km o’r ffordd drwy gael gwared ar fynediad uniongyrchol oddi ar y ffordd, yn ogystal a chael gwared ar wyth bwlch yn y llain ganol sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i gerbydau amaethyddol araf groesi’r A55. Bydd hefyd yn amddiffyn y ffordd yn well rhag llifogydd, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud i fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd.

Mae pedair cilometr o lwybrau teithio llesol hefyd yn rhan o’r cynllun, a fydd yn annog rhagor o gerdded a beicio yn yr ardal.

Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan y contractwyr Alun Griffiths, sy’n cyflogi gweithlu lleol yn bennaf. Mae Griffiths yn hyfforddi dau brentis peirianneg ac yn cyflogi myfyriwr rheoli prosiectau graddedig am bythefnos ym mis Awst i’w helpu i ennill profiad gwaith.

Yn ystod yr ymweliad cyfarfu’r Gweinidog â Syrfëwr Meintiau dan Hyfforddiant, Aled Griffith, sy’n dod o Wynedd.

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:

“Mae’r cynllun mawr hwn ar yr A55 yn bwysig er mwyn gwella cydnerthedd a diogelwch ar y darn hwn o’r ffordd. Mae nifer o broblemau sydd angen sylw, fel y mannau croesi ar draws y ffordd a rhagor o lawiad o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae’r cynllun hefyd yn darparu yn well ar gyfer beicwyr a cherddwyr gyda phedair cilometr ychwanegol o lwybrau teithio llesol.

“Rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i gwrdd â rhai o’r bobl leol sy’n gweithio ar y prosiect. Mae’n dda gen i weld, yn ogystal a gwella diogelwch ar y darn prysur hwn o ffordd, mae’r cynllun hefyd yn darparu manteision economaidd i’r ardal.

Dywedodd Stephen Tomkins, Rheolwr Gyfarwyddwr:

"Fel cwmni a leolir yng Nghymru, mae’n fraint gan Griffiths gael y cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect proffil uchel hwn. Mae’r prosiect yn cyd-fynd yn dda â’r prif feysydd mae Griffiths yn canolbwyntio arnynt, gan gynnwys Teithio Llesol, Carbon Sero-net a Gwerth Cymdeithasol. Mae’r ffaith ein bod wedi cyflogi gweithlu lleol yn destun balchder inni. Mae 75% o’r rhain yn siaradwyr Cymraeg sydd wedi ymrwymo i adael gwaddol parhaus, sydd hyd yma wedi cyflogi tri phrentis lleol fel rhan o’n buddsoddi helaeth mewn Gwerth Cymdeithasol.

Dywedodd Aled Griffith, Syrfëwr Meintiau dan Hyfforddiant:

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael swydd yn lleol gyda Griffiths. Ymunais i ar adeg anodd iawn, bythefnos cyn y cyfnod clo cyntaf, a bu Griffiths yn gefnogol iawn, gan sicrhau y gallwn barhau yn y swydd. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus wrth gael lle ar gwrs gradd ym Mhrifysgol John Moores, ac mae Griffiths yn fy nghefnogi yn hyn o beth. Mae gweithio gyda chydweithwyr profiadol, a gweithio ar brosiectau heriol iawn wedi fy helpu i roi’r hyn rwy’n ei ddysgu yn y brifysgol a waith.

Disgwylir i’r cynllun £30 miliwn, sy’n cynnwys cyllid gwerth £14.7 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gael ei gwblhau erbyn haf 2022.