Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru Cylch Ariannu Cyffredinol Cyfnod 3

3. Y sail gyfreithiol

Mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn creu ac yn gosod telerau Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Nodau ac amcanion strategol Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Nod Cylch Ariannu Cyffredinol Cyfnod 3 yw cefnogi prosiectau sy'n gwneud y canlynol:

  • Cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru amgylchedd morol cynaliadwy sy'n wydn ac yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.
  • Cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru'r wyddoniaeth a'r dystiolaeth i lywio penderfyniadau yn y dyfodol yn sector morol, pysgodfeydd a dyframaethu Cymru, o ddata am rywogaethau i gydfodolaeth y sectorau morol.
  • Cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru amgylchedd morol bioamrywiol ac ecosystem ffyniannus a chynaliadwy.
  • Cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru sector bwyd môr cynaliadwy, proffidiol ac amrywiol sydd â marchnad ddomestig gadarn ynghyd â marchnad fyd-eang sy'n ehangu.

5. Diben y cynllun

Mae Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn gynllun ariannu i gefnogi twf sy'n amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy yn niwydiant bwyd môr Cymru ac annog cymunedau arfordirol Cymru i ffynnu. Mae'r cynllun yn darparu grantiau trwy gylchoedd ariannu.

Mae polisi cyffredinol y cynllun yn manylu ar restr graidd o 18 o weithgareddau ariannu y gellir eu defnyddio'n unigol neu gyda'i gilydd i osod sail ar gyfer cylch ariannu i fynd i'r afael â blaenoriaethau penodol o fewn y sector.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Rydych chi'n gymwys i wneud cais os ydych naill ai:

  • yn fenter/busnes/sefydliad morol, bwyd môr neu ddyframaethu yng Nghymru sydd naill ai’n:
    • o fusnes bach neu ganolig sy’n endid micro
    • o busnes bach neu ganolig nad yw’n endid micro
    • o busnes nad yw'n fusnes bach neu ganolig
    • o sefydliadau neu grwpiau o sefydliadau sy’n gweithredu ar y cyd er
    • budd nifer o fentrau neu sector.

Neu

Corff Sector Cyhoeddus yng Nghymru sy'n cynnwys:

  • Cyrff Cyfraith Gyhoeddus
  • y byd academaidd
  • cyrff cyhoeddus anadrannol
  • cyrff trydydd sector - anelusennol
  • elusen

Neu

Corff Sector Cyhoeddus nad yw'n Gymreig yn y DU ac mae Cymru yn elwa ar y prosiect yn sylweddol ac yn uniongyrchol.

(Mae'r isod yn esiamplau o gyrff sector cyhoeddus):

  • Cyrff Cyfraith Gyhoeddus
  • Y byd academaidd
  • Cyrff cyhoeddus anadrannol
  • Corff Trydydd Sector – anelusennol
  • elusen

Gweler canllawiau Cylch Ariannu Cyffredinol (Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru) ar-lein am ragor o fanylion.

8. Sectorau i’w cefnogi

  • Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth
  • Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol

9. Hyd y cynllun

Rhwng 07 Ionawr 2026 a 31 Mawrth 2027.

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

£1,850,000

11. Ffurf y cymorth

Grantiau uniongyrchol

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Nodwch yr isod am Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Mae Cylch Ariannu Cyffredinol Cyfnod 3 yn cwmpasu amrediad eang o 11 categori, gyda chyfanswm o 36 is-gategori, a bod gan rai is-gategorïau gyfyngiadau cymhwystra pellach.

Mae 11 categori sy'n cwmpasu cyfanswm o 36 is-gategori y gall ymgeisydd wneud cais yn eu herbyn. Mae gan bob is-gategori gyfyngiadau cymhwystra penodol pellach yn ogystal â'r meini prawf cymhwystra cyffredinol.

Dyma'r 11 categori:

  1. Arloesi
  2. Gwasanaethau cynghori
  3. Hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio
  4. Iechyd, diogelwch a llesiant
  5. Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio a chysgodfannau
  6. Cynyddu potensial safleoedd dyframaethu.
  7. Mesurau Marchnata
  8. Prosesu cynnyrch pysgodfeydd a dyframaethu er mwyn ychwanegu gwerth a gwella ansawdd cynhyrchion
  9. Cyfyngu ar effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol, ac addasu pysgota i warchod rhywogaethau
  10. Diogelu, adfer a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau morol.
  11. Effeithlonrwydd ynni

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae nifer o gyfraddau ymyrryd lluosog yn dibynnu ar faint y fenter a'r math o fenter sy'n gwneud cais:

(Y ganran a ddangosir yw'r gyfradd ymyrryd uchaf, h.y. canran y cyllid y mae'n rhaid i'r ymgeisydd ei ddarparu)

  • Busnes bach neu ganolig sy'n endid micro 80%
  • Busnes bach neu ganolig nad yw’n endid micro 50%
  • Preifat (nad yw'n fusnes bach neu ganolig) 30%
  • Budd ar y cyd neu fuddiolwyr cyfunol (e.e. sefydliadau cynhyrchwyr neu gymdeithasau pysgotwyr), sefydliadau'r Sector Cyhoeddus (gan gynnwys cyrff cyfraith gyhoeddus) ac elusennau –100%

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£100,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynglyn â gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch dros y

Ffôn: 0300 0604400 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm)

neu drwy E-bost: customerhelp@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400 

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image