Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun newydd ar gyfer cenhadaeth genedlaethol i godi safonau – Kirsty Williams

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi datgelu manylion cynllun i barhau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg y gall y genedl i gyd fod yn falch ohoni a bod a hyder ynddi.

Mae amcanion y cynllun hefyd yn cynnwys cyflwyno model atebolrwydd newydd a chreu ysgolion cadarn a chynhwysol sy'n ymrwymedig i sicrhau rhagoriaeth a llesiant eu disgyblion.

Mae'r cynllun yn nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i'w cymryd i wella'r system addysg o hyd, gan gynnwys:

  • Lleihau meintiau dosbarthiadau
  • Diwygio hyfforddiant athrawon
  • Cryfhau'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Sefydlu dull cenedlaethol o ddatblygu gyrfaoedd athrawon yn y tymor hir
  • Sefydlu Academi Genedlaethol newydd ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol
  • Lleihau’r fiwrocratiaeth ddiangen ar athrawon
  • Buddsoddi £1.1 biliwn i uwchraddio ansawdd adeiladau ysgolion.

Nododd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd amserlen ddiwygiedig ar gyfer cyflwyno'r Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru. Bwriedir dechrau ei gyflwyno'n statudol yn 2022 i roi mwy o amser i'r proffesiwn addysgu ac ysgolion i helpu i ddatblygu'r newidiadau, ac i baratoi ar eu cyfer.

Bydd y Cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn y dosbarthiadau meithrin hyd at Flwyddyn 7 yn 2022, ym Mlwyddyn 8 yn 2023, ym Mlwyddyn 9 yn 2024, ym Mlwyddyn 10 yn 2025 ac ym Mlwyddyn 11 yn 2026. Bydd pob ysgol yn cael gweld y Cwricwlwm newydd o 2020 ymlaen, i ganiatáu iddynt baratoi i'w gyflwyno yn llwyr yn 2022.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Rydym yn byw mewn byd sy'n newid yn gyflym, yn mynd yn fwy cystadleuol ac yn fwy cysylltiedig yn fyd-eang, ac sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae'n rhaid i ysgolion baratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi nad ydynt wedi'u creu eto a heriau nad ydynt wedi'u hwynebu eto. Nid yw addysg erioed wedi bod yn fwy pwysig ac wrth weithio gyda'r proffesiwn addysgu, byddwn yn parhau i godi safonau.

"Nod ein cynllun yw sicrhau bod gan bob person ifanc yng Nghymru gyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf ac i gyflawni ei llawn botensial. Drwy wneud dim, ni allwn gyflawni'r uchelgeisiau hynny. Mae athrawon ac addysgwyr ar draws ein system yn gweithio gyda'i gilydd i godi safonau ac i leihau'r bwlch cyrhaeddiad. Mae'n amser cyffrous i addysg yng Nghymru.

"Rydym i gyd yn rhannu'r cyfrifoldeb i ysbrydoli a herio'r genhedlaeth nesaf. Dyna pam y byddwn yn helpu athrawon i ddysgu ac i ddatblygu'n barhaus, yn cefnogi ein harweinwyr yn well, ac yn lleihau meintiau dosbarthiadau fel y gallwn godi safonau i bawb."

Wrth siarad am y Cwricwlwm newydd, ychwanegodd:

"Ers fy niwrnod cyntaf yn y swydd hon, rwyf wedi ymweld ag ysgolion ledled y wlad, wedi siarad ag amrywiaeth o athrawon, rhieni ac arbenigwyr ac wedi trafod ag undebau.

"Mae cyflwyno'r Cwricwlwm yn raddol yn ddewis cywir, a byddwn yn dechrau gwneud hynny yn 2022. Bydd y dull hwn, a’r flwyddyn ychwanegol, yn golygu y bydd gan bob ysgol yr amser i gyfrannu at ddatblygiad y Cwricwlwm ac i baratoi’n llwyr ar gyfer y newidiadau. Fel yr argymhellodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, byddwn yn dal ati i greu cwricwlwm ar gyfer y 21ain ganrif".