Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun arloesol newydd i sicrhau bod modd i bobl â dementia fyw mor annibynnol â phosibl.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia, gyda chefnogaeth o £10m ychwanegol y flwyddyn, yw creu ffyrdd newydd o ofalu, hyfforddi a chynyddu nifer y gweithwyr cymorth, cynyddu cyfraddau diagnosis a chryfhau'r cydweithio rhwng y gwasanaethau gofal cymdeithasol a thai. 

Yn ystod ymweliad ag Ysbyty George Thomas yn Nhreorci, fe wnaeth Mr Gething gyfarfod â gweithwyr cymorth a gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn ffyrdd newydd ac arloesol o ofalu am bobl sy'n byw â dementia. 

Mae'r prosiectau dan arweiniad y gymuned yn cynnwys gwaith sy'n pontio'r cenedlaethau ag ysgol leol a Grow Rhondda, prosiect garddio wedi’i leoli ar y safle. 
Ers 2015, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ychwanegol i gefnogi gwelliannau i ofal dementia, gan gynnwys cyflwyno gweithwyr cymorth dementia, cymorth therapi galwedigaethol mewn unedau iechyd meddwl pobl hŷn a thimau adnoddau hyblyg dementia sy'n gweithio yn ein hysbytai bro. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd y byddai'r Cynllun Gweithredu yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn dwyn ynghyd gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, y sector gwirfoddol a chymunedau er mwyn rhoi cymorth mor hyblyg â phosibl ac i sicrhau bod Cymru yn arwain y gwaith o ddarparu gofal arloesol ar gyfer dementia. 

Dywedodd: 

"Mae gen i weledigaeth glir i Gymru fod yn wlad sy'n deall dementia ac sy'n cydnabod hawliau pobl â dementia i gael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau. Mae'r cynllun hwn, gyda chefnogaeth o £10m ychwanegol y flwyddyn, wedi'i ddatblygu ar y cyd â'r rheini sydd wedi byw â dementia a bydd yn cyflymu'r broses o gyflawni'r weledigaeth honno. 

"Fel y nodwyd yn glir yn yr Adolygiad Seneddol, mae angen i ni edrych ar ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal. Heddiw, rydw i wedi gweld enghreifftiau ardderchog o ffyrdd newydd o ofalu am bobl sy'n byw â dementia yn y gymuned, fel gweithio gydag ysgolion lleol a phrosiectau garddio. Rydw i am weld syniadau llwyddiannus tebyg yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, a bydd y cynllun hwn yn helpu i gyflawni hynny. 

"Mae hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn codi ymwybyddiaeth o ffyrdd i leihau'r risg o ddementia, yn sicrhau bod y boblogaeth yn ehangach yn deall yr heriau o fyw â dementia ac yn gwella diagnosis a chymorth i deuluoedd a gofalwyr y rheini sy'n byw â’r cyflwr." 

Dywedodd Cyfarwyddwr Sirol Cymdeithas Alzheimer Cymru, Sue Phelps: 

Mae cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia Llywodraeth Cymru heddiw yn allweddol i'r 45,000 o bobl y mae dementia yn effeithio arnyn nhw a'u teuluoedd yng Nghymru. 

"Rydyn ni wedi ymgyrchu'n galed drwy ein hymgyrch #45000rheswm i gael cynllun sy'n cydnabod hawliau pobl y mae'r cyflwr yn effeithio arnyn nhw. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymrwymiad cychwynnol hwn o dair blynedd drwy'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yn arwain at y newidiadau hynny y mae pobl â dementia wedi dweud wrthym ni eu bod nhw eu hangen. Mae hyn yn cynnwys cael diagnosis amserol a mynediad at wasanaethau cymorth i alluogi pobl i fyw'n well â dementia.

"Mae'r gwaith go iawn yn dechrau nawr ac mae gweithredu'r Cynllun hwn ar lefel leol a chenedlaethol yn allweddol i wella profiadau pobl â dementia a'u teuluoedd. Er mwyn i hyn weithio, mae angen parhau i gynnwys a thrafod â phobl sy'n byw â'r cyflwr gan adeiladu a chryfhau ein cenedl sy'n deall dementia lle mae pawb yn chwarae rhan weithredol ac yn sefyll gyda'n gilydd yn erbyn dementia." 

Bydd Grŵp Sicrwydd Cyflenwi a Gweithredu ar Ddementia yn mesur cynnydd y cynllun a bydd yn cynnwys pobl sy'n byw â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Bydd y cynllun yn destun adolygiad ar ôl tair blynedd er mwyn sicrhau bod y camau yn parhau'n uchelgeisiol ac yn berthnasol.