Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun newydd i alluogi busnesau bach a chanolig, neu 'BBaChau', gael at gymorth iechyd a lles.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Gweinidogion yn darparu £8 miliwn i ddarparu'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith newydd ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y gwasanaeth yn darparu mynediad yn rhad ac am ddim at gymorth therapiwtig i weithwyr BBaChau neu'r hunangyflogedig. Bydd cymorth ar gael i bobl sy'n absennol o’r gwaith, neu sydd mewn perygl o fod yn absennol, oherwydd salwch meddyliol neu gorfforol, gan eu helpu i aros yn y gwaith neu i ddychwelyd. Bydd y cynllun hefyd ar gael i gyflogwyr yn y trydydd sector.

Bydd cymorth therapiwtig yn cael ei ddarparu ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol cyffredin, gan gynnwys ffisiotherapi, osteopathi, ciropodi a phodiatreg. Bydd cymorth iechyd meddwl hefyd yn cael ei gynnig, gan gynnwys cwnsela a chymorth i reoli straen.

Mae'r gwasanaeth yn adeiladu ar wasanaeth blaenorol a ariannwyd gan gyllid Ewropeaidd a oedd yn darparu cymorth mewn rhannau o ogledd Cymru a Bae Abertawe hyd at fis Rhagfyr 2022.

Bydd y cynllun newydd yn gweithredu ledled Cymru gyfan am y tro cyntaf, gan olygu y gallai hyd at 7,000 o bobl gael eu cefnogi.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

Mae busnesau'n gwerthfawrogi'r cysylltiad rhwng lles a gweithlu hapus a chynhyrchiol yn fwyfwy, gan gynnwys y manteision economaidd y mae buddsoddi mewn gweithgareddau sy'n hybu iechyd da yn eu cynnig i fusnes neu sefydliad.

Bydd y cynllun newydd hwn yn galluogi busnesau nad oes ganddynt wasanaethau iechyd galwedigaethol eu hunain i gael at gymorth pwysig i'w gweithwyr neu eu hunain. Rwy'n edrych ymlaen at weld busnesau llai, a'u gweithwyr, ledled Cymru yn elwa o gymorth y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith newydd, a fydd nawr ar gael ledled Cymru gyfan am y tro cyntaf.

Mae'r cynllun newydd yn cefnogi nodau Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau, a gafodd ei lansio yn 2022. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl â chyflwr iechyd hirdymor i mewn i waith neu i ddychwelyd iddo, drwy atal pobl rhag colli cyflogaeth drwy atal salwch, ymyrraeth gynnar a gweithleoedd iach.

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Fel rhan o'n gwaith i leihau anweithgarwch economaidd, rydym yn cymryd camau i gefnogi pobl i aros mewn gwaith a'r rhai sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith.

Bydd y cynllun hwn yn hanfodol er mwyn helpu i atal pobl rhag colli eu swydd oherwydd cyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio a bydd yn helpu pobl i aros mewn gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith yn gynt. Bydd hyn o fudd gwirioneddol i'r gweithiwr, y cyflogwr a'r economi ehangach.

Dywedodd David Evans, Rheolwr Cyffredinol Cwmni Da, busnes a fanteisiodd ar y rhaglen ranbarthol:

Ychydig cyn y Pandemig dechreuon ni ddod i adnabod RCS, y darparwr lleol, a'r gwasanaethau a'r cymorth roeddent yn eu darparu. Mynychodd nifer o staff gwrs ar-lein, ac mae'r cymorth rydym wedi'i gael ers hynny wedi bod yn wych.

Nid yn unig y gwnaeth y cwmni hyfforddi pedwar aelod o'n staff i fod yn hwyluswyr lles, roeddent hefyd ar ochr arall y ffôn i gynnig cyngor ymarferol a phroffesiynol. Dros y misoedd diwethaf rydym wedi sylweddoli bod angen inni hyfforddi dau neu dri arall fel hwyluswyr lles.

Rydym ni yng Nghwmni Da yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â'r rhaglen, a byddem yn ei hargymell i unrhyw gwmni sy'n ceisio cymorth a chyngor yn ymwneud â lles a dychwelyd i'r gwaith.