Cynllun newydd i Gymru i sicrhau gofal argyfwng cyflymach ac i helpu pobl i ddychwelyd adref yn gynt.
- cynllun newydd i Gymru i sicrhau gofal argyfwng cyflymach ac i helpu pobl i ddychwelyd adref yn gynt
- mwy o ofal yn y cartref neu yn y gymuned, gyda gofal yr un diwrnod lle bo'n bosibl ac uchelgais 72 awr pan fydd angen i glaf aros yn yr ysbyty
- ychydig dros £23 milliwn ar gael i gefnogi GIG Cymru a'i bartneriaid i gyflawni'r gwelliannau hyn
Bydd pobl ledled Cymru yn cael cymorth cyflymach mewn argyfwng ac yn cael eu helpu i fynd adref yn gynt o dan gynllun newydd Llywodraeth Cymru sydd wedi'i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026).
Mae Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru yn cwmpasu'r daith gyfan, o'r adeg pan fydd argyfwng yn codi, hyd at y driniaeth ac yna'r adferiad gartref.
Mae'n gosod 2 ddisgwyliad clir:
- mynediad cyflym at ofal argyfwng a gofal lle mae amser yn dyngedfennol
- aros yn yr ysbyty dim ond cyhyd â bod angen clinigol
Bydd mwy o bobl yn cael y gofal cywir gartref neu yn eu cymuned, gan osgoi teithiau diangen i adrannau argyfwng a derbyniadau i'r ysbyty.
Bydd y rhai sydd ag anghenion lle mae amser yn dyngedfennol yn cael cymorth i gyrraedd y gwasanaeth arbenigol cywir, fel gwasanaethau strôc, cyn gynted â phosibl.
Ar gyfer pobl sydd angen gofal acíwt yn yr ysbyty, bydd y 72 awr gyntaf yn canolbwyntio ar asesu, diagnosteg, triniaeth, penderfyniadau clinigol uwch ac adferiad.
Dylai mwy o bobl gael gofal yr un diwrnod, a phan fydd angen arhosiad acíwt yn yr ysbyty fe ddylen nhw gael mynd adref o fewn 72 awr pan fo hynny'n briodol yn glinigol.
Bydd y gwaith cynllunio ar gyfer adferiad a dychwelyd adref yn dechrau cyn gynted â phosibl, a bydd gwasanaethau'n gweithio dros saith diwrnod i leihau oedi diangen.
Mae'r cynllun yn cydnabod bod gan bobl anghenion gwahanol. Bydd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn gofal ac yn sicrhau bod pobl hŷn ac eiddil, pobl â dementia a'r rhai sy'n agosáu at ddiwedd oes yn derbyn gofal mwy personol, gyda chefnogaeth i aros neu wella gartref pryd bynnag y bo modd.
Nod Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru yw dileu gofal mewn coridorau ac mewn mannau anaddas eraill, gan sicrhau bod pobl yn cael gofal diogel gyda phreifatrwydd ac urddas.
Mae'r fframwaith yn gosod uchelgais i Gymru ddod yn Genedl o Achubwyr Bywydau erbyn 2029, gan roi'r hyder a'r sgiliau i fwy o bobl:
- adnabod ataliad y galon
- galw am help
- dechrau CPR
Bydd yn adeiladu ar waith ymatebwyr cyntaf cymunedol a gwirfoddolwyr, yn archwilio cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o CPR ymhlith plant a phobl ifanc, ac yn ystyried sut y gallai technoleg newydd, gan gynnwys dronau sy'n cario diffibrilwyr, helpu i achub bywydau.
Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn datblygu cynlluniau cymorth gweithredu a gwella gyda GIG Cymru a'i bartneriaid. Bydd y rhain yn gosod cyfrifoldebau clir i bob sefydliad.
Bydd hyd at £23.3 miliwn ar gael i gefnogi GIG Cymru a'i bartneriaid i gyflawni'r fframwaith ac i gyflymu gwelliannau ar draws y llwybr argyfwng-i-adferiad.
Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn ar gynnydd y gwaith, bydd mesurau clir yn cael eu datblygu gyda GIG Cymru, a bydd adolygiad yn cael ei gynnal yn 2030.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:
Pan fydd angen gofal argyfwng ar rywun, mi ddylai allu bod yn hyderus y bydd help yn cyrraedd yn brydlon, y bydd yn cael y gofal cywir, ac na fydd yn treulio mwy o amser yn yr ysbyty nag sydd ei angen.
Mae'r profiad hwn yn rhy anghyson i ormod o bobl heddiw, ac mae'n rhaid i hynny newid. Mae Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru yn nodi sut y byddwn ni'n gwneud hynny, gyda mwy o ofal yn agosach at y cartref, asesu a thrin yn gyflymach, a gwell cefnogaeth i gael pobl adref yn gynt.
Mae'n gosod uchelgais glir i gael gwared ar ofal mewn coridorau drwy wella llif cleifion a sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir yn y lle cywir, heb orfod aros mewn coridor ysbyty pan ellid osgoi hynny.
Rydyn ni hefyd eisiau i Gymru ddod yn Genedl o Achubwyr Bywydau, gan roi'r hyder a'r sgiliau i fwy o bobl weithredu pan fydd pob eiliad yn cyfrif.
Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr yn gweithio'n galed tu hwnt bob dydd. Byddwn yn eu cefnogi i gyflawni'r newidiadau hyn ac yn adrodd yn agored ar hynt y gwaith fel y gall pobl weld ble mae gofal yn gwella a ble mae angen gwneud mwy.
Dywedodd Dr Siobhan Lewis, Geriatregydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Eiddilwch yn GIG Cymru:
Rwy'n croesawu'r ffocws gwirioneddol ar ofal cyflym, cydgysylltiedig a chyfannol i bobl sy'n byw gydag eiddilwch ac anghenion eraill sy'n eu gwneud yn agored i niwed. Nid dyma'r prif ffocws bob amser yn ein hysbytai prysur ar hyn o bryd.
Rydyn ni eisoes yn gweld effeithiau poblogaeth sy'n heneiddio a phobl sy'n byw gyda chyflyrau meddygol lluosog yn ein mannau gofal acíwt, ac nid yw'r angen am ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn erioed wedi bod yn fwy. Rwy'n teimlo y bydd y fframwaith hwn yn hanfodol o ran cefnogi'r gwaith o gyflawni hyn i bobl Cymru.
