Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae cynlluniau uchelgeisiol i helpu GIG Cymru i leihau ei allyriadau yn gyflymach er mwyn gwneud y system iechyd a gofal yn fwy cynaliadwy yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae sefydliadau'r GIG eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol, gan leihau allyriadau o ffynonellau nad ydynt yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys adeiladau a thrafnidiaeth, bron i chwarter rhwng 2018 i 2019 a 2024.

Ond er gwaethaf y gwelliant hwn, mae allyriadau cyffredinol GIG Cymru wedi cynyddu yn ystod yr un cyfnod, yn bennaf o ganlyniad i allyriadau sy'n cael eu priodoli i gadwyn gyflenwi fawr y gwasanaeth iechyd.

Mae Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru wedi'i adnewyddu, a gyhoeddir yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, yn nodi map trywydd clir i'r GIG gyflawni ei uchelgeisiau hinsawdd a chyflawni'r targed cyfreithiol Sero Net 2050.

Bydd y cynllun yn helpu sefydliadau GIG Cymru i wneud y canlynol:

  • cynyddu effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni adnewyddadwy
  • hyrwyddo teithio mwy cynaliadwy gan staff a chleifion
  • gweithio gyda chyflenwyr i leihau'r effaith amgylcheddol
  • cyflawni cynaliadwyedd amgylcheddol
  • lleihau gwastraff
  • gweithio mor gynaliadwy â phosibl

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Rydyn ni'n ymdrechu i greu system iechyd fwy cynaliadwy a fydd yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd ac yn sicrhau manteision ehangach i iechyd y cyhoedd.

Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Gall y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru chwarae ei ran drwy gymryd camau syml, megis lleihau gwastraff, arbed ynni a gweithio mor gynaliadwy â phosibl, gan hefyd ganolbwyntio ar ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Bydd gwella cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol y Gwasanaeth Iechyd yn helpu'r sector cyhoeddus a Chymru i leihau ein hôl troed carbon a chyflawni ein hymrwymiadau Sero Net erbyn 2050.

Mae nifer o brosiectau cynaliadwyedd arloesol wedi rhoi hwb i ymdrechion i leihau allyriadau carbon yn GIG Cymru.

Mae mentrau cynaliadwyedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn arwain yr ymgyrch mewn unedau gofal dwys, gan hyrwyddo'r ddau nod o wella gofal cleifion a lleihau gwastraff ariannol ac amgylcheddol.

Enillodd y Tîm ICU Gwyrdd wobr Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang yng Ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru y GIG ac mae gwaith y tîm wedi'i gynnwys mewn canllawiau ymarferol a gynlluniwyd i helpu unedau gofal dwys i leihau eu hôl troed carbon.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r tîm wedi lleihau gwastraff plastig yn yr uned gofal dwys tua 2 tunnell y flwyddyn, gan arbed degau o filoedd o bunnoedd. Nod yr ymgyrch Menig i Ffwrdd yw lleihau faint o fenig nad ydynt yn ddi-haint sy'n cael eu gwisgo. 

Mae'r ymgyrch ar y trywydd iawn i arbed tua £15,000 eleni ynghyd ag arbed defnyddio plastig sydd gyfwerth â thua 490,000 o fenig (neu tua 30 pâr o fenig fesul claf y dydd) ym maes gofal critigol. 

Mae cynlluniau eraill yn cynnwys ailgylchu poteli a ddefnyddir i fwydo cleifion, cynnig dŵr tap yfed yn lle dŵr di-haint i gleifion a gosod goleuadau LED.

Jack Parry-Jones, ymgynghorydd mewn meddygaeth gofal dwys i oedolion a chyn-gadeirydd y Tîm ICU Gwyrdd, a oedd yn arwain nifer o'r mentrau a dywedodd:

Rydyn ni'n ceisio diogelu byd, a Chymru sy'n werth goroesi amdani a byw ynddi. Ein mantra mabwysiedig yw pobl, y blaned ac elw.

Pobl – gofal ardderchog i'n cleifion, eu perthnasau a'n staff. Y blaned – amgylchedd glân yng Nghymru gyda bioamrywiaeth wedi'i ddiogelu. Ac elw – darparu gofal iechyd darbodus sy'n seiliedig ar werthoedd.