Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd i wreiddio manteision Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn gwahanol sectorau a llywio ei ddylanwad i wella bywydau pobl ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wythnos ar ôl lansio'r Parth AI ar gyfer Gogledd Cymru, mae'r Cynllun AI i Gymru yn nodi sut y bydd pŵer trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial yn cael ei groesawu ledled Cymru i sbarduno twf economaidd, gwella gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg a Saesneg, ac arfogi pobl ledled Cymru gyda'r sgiliau i ffynnu mewn dyfodol lle mae AI yn chwarae rhan flaenllaw.

Bydd y Cynllun yn gweithredu fel map hirdymor ac yn sefydlu'r blociau adeiladu ar gyfer archwilio potensial AI mewn ffordd gyfrifol, foesegol a chydweithredol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cyflawni'n gyflym ar AI. Mae wedi:

  • lansio Parth Twf AI ar gyfer Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU
  • sefydlu Swyddfa AI i ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad ar drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus
  • ffurfio'r Grŵp Cynghori Strategol annibynnol ar AI i gryfhau ein hecosystem ar draws sectorau
  • buddsoddi mewn arloesi ym maes gwasanaethau cyhoeddus ac uwchsgilio'r gweithlu
  • datblygu canllawiau moesegol ar gyfer defnyddio AI mewn gweithleoedd sector cyhoeddus trwy bartneriaeth gymdeithasol

Mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru eisoes yn manteisio ar AI, o ddysgu wedi'i bersonoli mewn ysgolion, i awtomeiddio mewn llywodraeth leol, a chael diagnosis cyflymach yn y GIG.

Mae cynllun peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mewn partneriaeth â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), yn archwilio sut y gallai technoleg ysgrifennu AI leihau'r baich gweinyddol ar gyfer timau clinigol sy'n gweithio ym maes gwasanaethau niwroddatblygiadol plant.

Mae'r dechnoleg yn trawsgrifio ac yn crynhoi sgyrsiau clinigol, gan alluogi staff i dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar blant a theuluoedd, a llai o amser ar waith papur.

Mae adborth cynnar yn awgrymu y gallai fyrhau asesiadau a phrosesau adrodd, gan gynnal ansawdd a chywirdeb, gan helpu timau i ymateb yn gyflymach i deuluoedd sy'n aros am gymorth.

Dywedodd Kath Bowen, Arweinydd Gweithredol/Proffesiynau Perthynol i Iechyd ar gyfer y Gwasanaeth Asesu Niwroamrywiaeth Pediatrig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

Mae technoleg ysgrifennu AI wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr i'n gwasanaeth. Mae'n arbed oriau i staff bob wythnos, gan ein galluogi i weld mwy o blant a chanolbwyntio ar sgyrsiau ystyrlon gyda theuluoedd. Mae staff yn teimlo'n fwy presennol a chysylltiedig, ac mae teuluoedd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r adroddiadau, gan nodi eu cywirdeb a pha mor dda maen nhw'n adlewyrchu eu plentyn.

Mae'r cynllun peilot hwn yn dangos sut y gall AI wella cysylltiad rhwng pobl, a'n helpu i ddarparu gofal gwell, mwy ymatebol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae'r Cynllun AI i Gymru yn dangos ein huchelgais i fanteisio ar y cyfleoedd enfawr y mae AI yn eu cynnig i'n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, datgloi twf economaidd cynhwysol ac arfogi pobl â'r sgiliau i ffynnu mewn byd modern.

Rydym yn ymwybodol bod yn rhaid i ni lywio'r cyfleoedd hyn yn ofalus, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy'n dryloyw, yn gynhwysol ac yn ddiogel.

Yr wythnos diwethaf, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, fe wnaethom gyhoeddi'r Parth Twf AI cyntaf i Gymru a fydd yn sicrhau y gall rhanbarth y Gogledd elwa ar y manteision economaidd a gynigir gan AI.

Mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn hollbwysig – a byddwn yn ei hennill drwy bartneriaethau cryf, goruchwyliaeth gan bobl, gwaith teg, ac ymrwymiad ar y cyd i arloesi’n foesegol. Gyda'n gilydd, gallwn lunio dyfodol lle mae AI yn gweithio i bawb.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: 

Mae gan AI y potensial i drawsnewid sut mae'r GIG yn gweithio yng Nghymru. Gall technoleg ysgrifennu AI roi hwb i'n hymdrechion i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol drwy wneud y broses asesu yn gyflymach ac yn fwy effeithlon. Gall hefyd wella gofal cleifion a'u profiadau o driniaeth, gan ei fod yn caniatáu i staff dreulio mwy o amser gyda phlant a'u teuluoedd.