Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chynllun Hawliau Pobl Anabl, sy'n ymrwymiad deng mlynedd i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn a chyfartal ym mhob rhan o fywyd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cynllun yn nodi camau gweithredu ymarferol a nodau hirdymor i fynd i'r afael â rhwystrau yn ymwneud â chyflogaeth, trafnidiaeth, addysg, gofal iechyd, tai, byw'n annibynnol, mynediad digidol, a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r cynllun, a luniwyd o'r cychwyn cyntaf gan bobl sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd trwy waith y Tasglu Hawliau Anabledd, yn ymateb i heriau gwirioneddol sy'n wynebu pobl anabl mewn bywyd bob dydd. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae wedi'i gryfhau drwy gynnwys meysydd newydd fel rhieni a gofalwyr di-dâl, cynhwysiant digidol, a newid hinsawdd, ac mae'n cynnwys fframwaith clir i olrhain cynnydd a mesur effaith.

Bydd Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar sail Anabledd Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd a bydd Bwrdd Cynghori Allanol newydd, a arweinir gan bobl anabl, yn darparu cyngor ac arweiniad annibynnol ar weithredu'r Cynllun.

Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl. Yn ddiweddar, mae Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda David Chaffey, Swyddog Cynhwysiant Anabledd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i symud y sefydliad i statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Dywedodd David Chaffey:

"Mae fy mhrofiad bywyd fy hun wedi rhoi dealltwriaeth uniongyrchol o'r rhwystrau y gall pobl anabl eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau. Rwy'n falch o weithio i sefydliad sy'n credu bod cynhwysiant yn golygu creu'r amgylchedd cywir i bawb lwyddo, ac mae'r gefnogaeth a'r addasiadau rydw i wedi'u cael wedi fy ngalluogi i ffynnu yn fy rôl a chyfrannu at wneud ein gweithle yn fwy hygyrch i eraill.

"Rwy'n croesawu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn fawr. Mae ymrwymiad cenedlaethol clir i gydraddoldeb a chynhwysiant yn hanfodol: mae'n gosod disgwyliadau, yn annog atebolrwydd, ac yn anfon neges bwerus am werth cyfraniadau pobl anabl ym mhob agwedd ar fywyd."

Bydd Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i bobl anabl drwy ei hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' ym mis Ionawr, gan gynnwys taliad costau byw o £100 i'r rhai sy'n rhan o'r Cynllun Gostyngiad Band Anabl ar gyfer y Dreth Gyngor sydd hefyd yn derbyn Gostyngiad Treth Gyngor.

Dywedodd cyd-gadeirydd y Tasglu Hawliau Anabledd, yr Athro Debbie Foster:

"Mae'r Cynllun hwn yn benllanw 5 mlynedd o waith. Dechreuodd yn 2020 gyda'r adroddiad arloesol 'Drws ar Glo', a ysgrifennais ar y cyd â phobl anabl yn ystod y pandemig. Fe wnaeth ei argymhellion pendant ysgogi Llywodraeth Cymru i ymateb drwy sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Fe wnaeth y fenter newydd hon roi lleisiau a phrofiad bywyd pobl anabl yng nghanol y drafodaeth am bolisi. Fel cyd-gadeirydd y Tasglu, a enwebwyd gan bobl anabl, rwy'n hynod falch o'r hyn a gyflawnwyd gennym gyda'n gilydd ac yn diolch i bawb a gymerodd ran. Mae'r Cynllun yn symud y gwaith sylfaenol hwn ymlaen dros y 10 mlynedd nesaf ac edrychaf ymlaen at barhau i chwarae rhan yn hyn.  Yr hyn sydd ei angen ar bobl anabl yng Nghymru nawr yw datganiad cyhoeddus trawsbleidiol o'u hymrwymiad i'r Cynllun hwn a'r adnoddau sydd eu hangen i'w weithredu."

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan yng nghymdeithas Cymru ar sail gyfartal ac yn rhydd o rwystrau, ac i greu amgylchedd cynhwysol a hygyrch i bawb. Mae'r cynllun 10 mlynedd hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad i gynhwysiant a chyfranogiad gwirioneddol.

"Diolch i'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a phawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad, gan sicrhau bod y cynllun wedi'i seilio ar brofiad bywyd. Mae'n rhaid i ni nawr weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod y cynllun yn llwyddo a bod gwerthoedd hygyrchedd, cynhwysiant a chyd-gynhyrchu yn ganolog ym mhopeth a wnawn."