Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi dros £300,000 mewn cynllun peilot prentisiaethau coedwigaeth newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae fforestydd a choetiroedd yn rhoi ystod eang o gyfleoedd gyrfa sy’n gofyn am sgiliau arbenigol uwch fel torri coed, tocio coed, rheoli coetiroedd, cynhyrchu sglodion pren ac ailblannu coed.

Mae’r cynllun  peilot dwy flynedd hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’n allweddol i gyflwyno’r Cynllun Cyflogadwyedd ac mae wedi ei gynllunio i gyflenwi’r sgiliau a’r anghenion recriwtio sydd wedi eu nodi gan y sector coedwigaeth drwy:

  • Gefnogi hyd at 30 o swyddi newydd ym maes coedwigaeth
  • Annog a chefnogi arallgyfeirio ar ffermydddiversification
  • Cynyddu sgiliau sy’n ysgogi ffynonellau coed cynaliadwy
  • Creu rhwydwaith o gysylltiadau cyflogwyr.

Mae’r cyfleoedd hyn i greu swyddi yn hanfodol er mwyn paratoi’r sector ar gyfer yr ansicrwydd tebygol a ddaw yn sgil Brexit, a manteisio ar y cyfleoedd twf gwyrdd sydd wedi eu hamlinellu yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Coetiroedd a Choed, sef Coetiroedd i Gymru.

A hithau’n awyddus i dynnu sylw at y proffesiwn a’r llwybrau gyrfa posibl y mae’n ei gynnig, mae Eluned Morgan am annog mwy o ddysgwyr dros 16 oed i fod yn goedwigwyr.

Wrth lansio’r peilot yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, dywedodd:

“Mae’r buddsoddiad hwn mewn sgiliau coedwigaeth a chymorth cyflogaeth yn hanfodol os ydym am i bobl gydnabod rheoli fforestydd a choetiroedd fel  llwybr gyrfa posibl.

“Rydym yn dibynnu ar y diwydiant coedwigaeth i reoli ein coetiroedd yn gynaliadwy a rhoi adnoddau adnewyddadwy i ni. Byddai hynny’n amhosibl heb sicrhau bod y sgiliau cywir yn eu lle.”

Bydd Coleg Sir Gâr, sy’n arbenigwyr sydd wedi hen ennill eu plwyf yn y sector sgiliau coedwigaeth, yn cyflwyno’r rhaglen prentisiaethau, a fydd ar gael ledled De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.

Dywedodd David Davies, Pennaeth y Cwricwlwm Astudiaethau ar Dir yng Ngholeg Sir Gâr:

“Mae gwir angen gweithwyr sydd â’r sgiliau cywir yn y diwydiant. Gyda chynlluniau peilot fel hyn, gallwn annog mwy o bobl i ddod yn goedwigwyr.

“Byddwn yn cefnogi’r prentisiaid i gwblhau eu hastudiaethau Lefel 2 a 3 mewn Coed a Phren, Peirianneg ar Dir a Chadwraeth Amgylcheddol, gan roi’r sgiliau iddynt fynd ymhellach yn eu gyrfa yn y diwydiant coedwigaeth.”

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:

“Mae’n coetiroedd yn darparu adnoddau adnewyddadwy sy’n hanfodol i ddiwydiannau allweddol yng Nghymru, a bydd rhaid i ni sicrhau bod y coetiroedd hynny yn cael eu rheoli’n gywir.

“Yn ôl ym mis Mehefin, cyhoeddais ddiweddariad o’r strategaeth coetiroedd a choed, sy’n nodi’r math o goetiroedd yr ydym am eu gweld. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth arbenigol sydd yn y sector yn allweddol i gyflwyno’r strategaeth honno.”