Neidio i'r prif gynnwy

Negeseuon Allweddol

Mae’r cynllun peilot ar gyfer cynllunio i greu coetiroedd yn cynnig grantiau rhwng £1,000 a £5,000 ar gyfer datblygu cynlluniau creu coetiroedd newydd. Bydd y cynllun peilot yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu ein cynnig newydd i greu coetiroedd.

Rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddilysu cynlluniau creu coetiroedd i sicrhau eu bod yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth. Ar ôl dilysu cynllun, bydd yn gymwys i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gyfer plannu coed. Yn amodol ar y gyllideb sydd ar gael, rydym yn bwriadu agor cynllun cyllid creu coetir newydd ddechrau 2022, a fydd ar gael yn gyson drwy gydol y flwyddyn.

I gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, bydd angen i chi fod wedi eich cofrestru i fod â rheolaeth dros y tir ar system Rheoli Fy Nhir Taliadau Gwledig Cymru, pan fyddwch yn cyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb. Bydd gofyn i chi ddefnyddio cynllunydd creu Coetir Cofrestredig (cynllunydd cofrestredig) i greu Cynllun Creu Coetir, a byddem yn argymell eich bod yn trafod eich cais gyda chynlluniwr cofrestredig cyn gwneud Datganiad o Ddiddordeb.   Gallwch hefyd gytuno i’r cynlluniwr wneud Datganiad o Ddiddordeb ar eich rhan. 

Ar gyfer y cynllun peilot hwn, byddwn yn sicrhau bod y sampl o Ddatganiadau o Ddiddordeb a ddewisir yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau o wahanol faint. Mae cyllid ar gael i gefnogi o leiaf 500 hectar o gynlluniau creu coetiroedd newydd. Bydd uchafswm o 25 Datganiad o Ddiddordeb yn cael eu dewis.  Ar gyfer y peilot, dim ond Datganiadau o Ddiddordeb sy’n fwy na 2 hectar fydd yn gymwys i gael eu dewis. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn barod i gymryd rhan mewn gwerthusiad o’r cynllun peilot.

Ar ôl dilysu cynllun, bydd yn gymwys i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol am bum mlynedd o ddyddiad y dilysu. Bydd hyn yn caniatáu i reolwr tir wneud cais am gyllid creu coetiroedd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, heb fod angen rhagor o ddilysu.

Ochr yn ochr â’r cynllun peilot hwn, rydym wedi agor ffenestr newydd o gynllun Creu Coetir Glastir, a fydd yn darparu cyllid ar gyfer plannu coed a fydd yn digwydd cyn 31 Mawrth 2023. Bydd angen i chi benderfynu a ydych am wneud cais i’r ffenestr honno neu’r cynllun peilot hwn. Rydyn ni’n argymell eich bod yn dewis y cynllun hwn os nad ydych chi’n hyderus y gallwch chi gwblhau’r gwaith plannu i gyd erbyn 31 Mawrth 2023. Os byddwch yn gwneud cais am y ddau gynllun, bydd y Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer ffenestr 11 o Greu Coetir Glastir yn cael ei ystyried yn gyntaf. Os byddwch yn llwyddiannus yn ffenestr 11, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun peilot.

Bydd angen i chi ddilyn yr amserlen ganlynol yn y cynllun peilot:

Amserlen
Cam Dyddiad
Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i gymryd rhan Rhwng 30 Medi 2021 a 28 Hydref 2021
Cyflwyno Cynllun Creu Coetir i Taliadau Gwledig Cymru

8 wythnos ar ôl cadarnhau’r dewis o Ddatganiad o Ddiddordeb

Dilysiad CNC – caniatewch ddigon o amser cyn dyddiad dechrau delfrydol y gwaith Fel arfer, gellir cwblhau’r broses ddilysu o fewn 7 wythnos*
Gwneud hawliad Gellir cyflwyno hawliadau o 1 Mawrth 2022 ymlaen a rhaid eu cyflwyno erbyn 30 Mehefin 2022.

*  Gall cynlluniau mawr a/neu gymhleth gymryd llawer mwy o amser. Cofiwch y bydd eich cynllun yn mynd i giw yn y drefn y cafodd ei gyflwyno.

 

Adran A - Cyflwyniad

Fel rhan o’n cynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i Gymru blannu 43,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2030. I gyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno cynnig newydd i greu coetiroedd. Bydd y cynnig newydd hwn yn cynnwys cyllid ar wahân ar gyfer creu a dilysu cynlluniau creu coetiroedd newydd, er mwyn datblygu ffrwd reolaidd o brosiectau newydd a’n galluogi i fod yn fwy hyblyg wrth ddyrannu cyllid ar gyfer plannu coed. Bydd hefyd yn cynnwys cynllun plannu coetiroedd newydd sydd ar gael yn gyson drwy gydol y flwyddyn yn hytrach nag mewn ffenestri annisgwyl.

Yn amodol ar benderfyniadau ynghylch y gyllideb, bydd y cynnig newydd yn cael ei lansio ddechrau 2022. Bydd y cynllun peilot hwn yn helpu i ddatblygu’r cynnig hwnnw a bydd yn darparu cyllid i gefnogi o leiaf 500 hectar o gynlluniau creu coetiroedd newydd, a fydd wedyn yn gymwys i gael cyllid ar gyfer plannu yn y dyfodol.

Crynhoir y ffordd y bydd y cynllun peilot yn gweithio yma:

  • Gall unrhyw reolwr tir yng Nghymru wneud cais i gymryd rhan yn y cynllun peilot drwy gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar RPW Ar-lein.
  • Gall rheolwyr tir ddewis defnyddio cynlluniwr cofrestredig i gyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb, ond nid yw hyn yn hanfodol.
  • Dewisir cynlluniau ar sail sgorio’r Map Cyfleoedd Coetiroedd.
  • Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddefnyddio cynlluniwr cofrestredig i gwblhau Cynllun Creu Coetir, a fydd yn cael ei anfon at CNC i’w wirio i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r UKFS
  • Unwaith i gynllun gael ei ddilysu, bydd rheolwyr tir yn gymwys i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru am bum mlynedd o ddyddiad y dilysu.  Byddai angen i CNC ddilysu unrhyw newidiadau i’r cynllun ymhellach, ar gost y rheolwyr tir eu hunain.   Ni fydd y rhain yn gymwys i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru.
  • Bydd rheolwyr tir yn cael taliad sy’n seiliedig ar ardal y cynllun a ddilyswyd. Ni fydd taliadau’n cael eu gwneud ar gyfer cynlluniau nad ydynt yn cael eu dilysu, er bydd cymorth ar gael o hyd ar gyfer arolygon a oedd yn ofynnol.
  • Bydd cynlluniau wedi’u dilysu sy’n bodloni un o’r pedwar categori coetir a gefnogir yn gymwys i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gyfer plannu coed.
  • Bydd rheolwyr tir yn gyfrifol am roi gwybod i Taliadau Gwledig Cymru drwy eu cyfrif RPW Ar-lein os byddant yn dewis plannu’r coetir heb gyllid gan Lywodraeth Cymru, er mwyn ein galluogi i gael y datblygiadau diweddaraf o ran cynlluniau creu Coetiroedd newydd.
  • Y grant uchaf sydd ar gael ar gyfer pob Datganiad o Ddiddordeb yw £5,000.

Adran B – Cymhwysedd

I wneud cais am y cynllun peilot, rhaid i chi:

  • Fod wedi cofrestru fel cwsmer gyda Taliadau Gwledig Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer
  • Bod wedi cofrestru eich tir gyda System Adnabod Parseli Tir (LPIS) Taliadau Gwledig Cymru a bod â rheolaeth lwyr dros y tir hwnnw pan fyddwch yn cyflwyno eich Datganiad o Ddiddordeb. Does dim angen i chi fod yn ffermwr i wneud hyn. Oherwydd yr amserlen fer ar gyfer cynnal y peilot, nid ydym yn gallu ystyried parseli tir lle nad yw Rheoli Fy Nhir a’r holl ddogfennau ategol wedi cael eu cyflwyno cyn agor y ffenestr hon.
  • Gydag o leiaf 2 hectar o dir cymwys. Mae hyn yn fwy na’r maint plannu lleiaf yn sgil Creu Coetir Glastir oherwydd natur gyfyngedig y cynllun peilot hwn. Byddwn yn cadw golwg ar isafswm maint cynllun priodol y ffenestr lawn gyntaf.
  • Cadw rheolaeth dros y tir nes bod yr hawliad yn cael ei dalu am y cynllun creu coetir.
Gofynion Cymhwysedd Tir

Rhaid i dir cymwys fod:

  • Yn cynnwys parseli tir sy’n 0.1ha neu’n fwy o ran arwynebedd,  ac wedi’u lleoli yng Nghymru – nid yw’r term parsel tir yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn dir amaethyddol.
  • Nid yn goetir sy’n bodoli eisoes, mae hyn yn cynnwys ardaloedd a ddangosir ar Restr Goedwigaeth Genedlaethol Forest Research.

Os yw’r tir yn dir comin cofrestredig, rhaid rhoi’r naill gydsyniad neu’r llall o dan adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 neu roi cydsyniad ysgrifenedig ar yr amod nad yw cydsyniad o dan adran 38 yn ofynnol gan Weinidogion Cymru cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Pan fydd angen cydsyniad, mae angen cydsyniad Adran 38 wedi’i gymeradwyo cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.

Ffynonellau cyllid eraill

Wrth wneud cais am gyllid ar gyfer cynllun creu coetir, bydd angen i chi ystyried a fyddech chi’n gymwys i gael cyllid ar gyfer plannu coed yn y dyfodol.

Os oes gennych gontract Glastir Uwch neu Glastir Organig gyda Llywodraeth Cymru ar yr un tir, bydd angen i chi ystyried y canlynol:

Plannu yn ystod Contract GU gweithredol

Os bwriedir plannu cyn i gontract y GU ddod i ben, ni fydd unrhyw ardal ag opsiwn rheoli o fewn parsel ar gael i’w phlannu. Dim ond yr ardal sy’n weddill, nad ydyw o dan yr opsiwn rheoli, sy’n gallu cael ei hystyried ar gyfer cynnig plannu.

Wrth gyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb gyda’r ardal blannu mewn parsel, gwnewch yn siŵr nad yw ardal Opsiwn Rheoli GU wedi’i chynnwys.

Plannu ar ôl i Gontract GU ddod i ben

Os bwriedir plannu ar ôl i gontract GU ddod i ben, gellir sgorio’r parsel cyfan a’i ddewis. Os caiff ei ddewis a bod cynllun dilynol yn cael ei ddilysu, ni fydd unrhyw waith paratoi ar gyfer plannu a allai niweidio’r opsiwn rheoli, a gefnogir o dan gontract GU, yn gallu digwydd tan ar ôl i’r contract GU ddod i ben.

Gallai unrhyw waith a fyddai’n mynd yn groes i gontract GU gweithredol arwain at roi cosbau i unrhyw hawliadau am daliadau sy’n cael eu gwneud mewn perthynas â’r opsiwn hwnnw

Wrth gyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb gyda’r ardal blannu mewn parsel, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys unrhyw ardal o opsiwn rheoli GU a fydd yn cael ei phlannu o dan eich cynigion ar ôl i’ch contract GU ddod i ben.

Os oes gennych dir dan gontract Glastir Organig, rhaid i chi ofyn am gael tynnu’r tir o gontract Glastir Organig drwy eu cyfrif RPW Ar-lein. Yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, bydd y tir yn cael ei dynnu o’ch Contract Glastir Organig, a dim ond ar ôl gwneud hynny y gellir dechrau plannu.

Adran C – Cyllid sydd ar gael

Cyfraddau grant

Telir isafswm grant o £1,000 ar gyfer pob Cynllun Creu Coetir sy’n cael ei gwblhau. Ar gyfer ardaloedd o goetir dros 20 hectar, telir £50 ychwanegol am bob hectar cyfan, hyd at uchafswm o £5,000 am bob cynllun, i gynnwys unrhyw arolygon arbenigol. Er enghraifft, byddai cynllun o 35.5 hectar yn derbyn taliad o £1,750 (35 x £50).

Mae angen i CNC ddilysu’r cynllun cyn y gellir hawlio taliad. Os na chaiff y cynllun ei ddilysu’n llwyddiannus, ni wneir unrhyw daliad, er gellir hawlio cymorth ar gyfer arolygon arbenigol o hyd. Yr ardal gymwys i’w thalu fydd ardal y cynllun terfynol a gadarnheir, fel y’i gwiriwyd gan CNC. Gall hyn fod yn wahanol i’r ardal a gyflwynir yn y Datganiad o Ddiddordeb os bydd newidiadau’n digwydd yn ystod y broses ddilysu. Ni ddylid cynnwys ardaloedd o fannau agored wrth gyfrifo arwynebedd y coetir.

Arolygon arbenigol

Os oes angen arolwg cynefin neu rywogaeth arbenigol fel rhan o ddatblygu’r cynllun, gallwch hawlio 80% o gost yr arolwg hwn yn ogystal â’ch cais am gymorth ar gyfer y cynllun. Ar gyfer arolygon sydd â chyfanswm cost o lai na £5,000, bydd gofyn i chi gyflwyno un dyfynbris.  Ar gyfer unrhyw arolygon sydd â chyfanswm cost rhwng £5,000 a £24,999, bydd gofyn i chi gyflwyno tri dyfynbris ar gyfer yr arolwg i ddangos gwerth am arian. Bydd y taliad yn seiliedig ar 80% o’r dyfynbris isaf.  Gellir hawlio arolygon arbenigol ar gyfer y canlynol:

  • Arolwg ystlumod
  • Arolwg o Ddyfnder Mawn
  • Adar sy’n bridio
  • Llystyfiant / cynefinoedd

Y grant uchaf y gellir ei hawlio (gan gynnwys unrhyw arolwg arbenigol) yw £5,000.

Ni fyddwch yn gallu hawlio ar gyfer unrhyw arolwg y talwyd amdano cyn cael eich dewis yn llwyddiannus yn y Datganiad o Ddiddordeb.

Categorïau coetir

Bydd cynlluniau wedi’u dilysu sy’n bodloni un o’r pedwar categori coetir a nodir yn Nhabl 1 yn gymwys i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gyfer plannu coed. Yn y dyfodol, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn dewis newid y categorïau coetir, ond byddwn yn sicrhau bod cynlluniau sydd wedi’u dilysu cyn i’r categorïau gael eu newid yn dal yn gymwys i wneud cais am gyllid. Efallai y bydd ymgeiswyr yn dewis cwblhau cynllun nad yw’n perthyn i un o’r categorïau hyn, ond nid yw hyn yn debygol o allu gwneud cais am gyllid yn y dyfodol.

Tabl 1: Categorïau coetir a gefnogir
Categori coetir Y Fanyleb  
Coetir Cymysg Gwell 
  • Isafswm o 5 prif rywogaeth (o leiaf 10% o bob un) 
  • Isafswm o 25% o goed llydanddail yn cynnwys yr elfen llwyni prennaidd 
  • Isafswm o 10% o'r elfen llwyni prennaidd 
  • Dim mwy na 50% o un rhywogaeth 
  • Dwysedd stocio 2,500/ha
  • Eithrio Da Byw
Coetir Brodorol - Carbon 
  • Cymysgedd rhywogaethau brodorol  
  • Stoc plannu o darddiad addas
  • Caniatáu uchafswm o 20% o lwyni prennaidd 
  • Dwysedd stocio 2,500/ha 
  • Eithrio Da Byw
Coetir Brodorol - Bioamrywiaeth
  • Rhywogaethau brodorol – dylai’r gymysgedd fod yn frodorol i’r safle a chydymffurfio’n bennaf â mathau o Gynlluniau Gweithredu ar gyfer Cynefinoedd (er enghraifft derw uwchdirol, coed collddail cymysg ar diroedd isel), fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd yr amodau lleol yn gofyn am rywfaint o amrywiaeth o’r rhain. 
  • Stoc plannu o darddiad addas 
  • Caniatáu uchafswm o 20% o lwyni prennaidd 
  • Gwasgariad clystyrog o rywogaethau gyda bylchau amrywiol
  • Dwysedd stocio 1,600/ha 
  • Eithrio Da Byw
Amaeth-goedwigaeth– coed gwasgarog
  • 80 o goed yr hectar

Isafswm maint y gwaith plannu newydd

Isafswm maint y gwaith plannu newydd sy’n gymwys i gael cymorth yn y cam Datganiad o Ddiddordeb at ddibenion y cynllun peilot yw 2 hectar. Rhaid ffensio’r gwaith plannu newydd a rhaid i ddyluniad y coetir fod yn gyson ag UKFS. Nid oes cyfyngiad ar uchafswm maint y planhigion newydd a gaiff eu plannu.

Man agored

Gellir cynnwys tir agored gwasgarog a heb eu mapio (h.y. llai na 0.1ha) yn yr ardal blannu hyd at gyfanswm o 15% o’r arwynebedd cyfan.  Rhaid mapio ac eithrio ardaloedd o dir heb eu plannu a thir agored o 0.1ha neu fwy o’r ardal o goetir a ddefnyddir i gyfrifo gwerth y grant.  Mae angen nodi hyn yn y cynllun creu coetir.  Bydd angen i chi leihau’r bwlch rhwng coed mewn rhannau o’r safle i gyfrif am dir nad oes modd ei blannu, er mwyn sicrhau bod y nifer ofynnol o goed yn y contract yn cael eu plannu (gweler Tabl 2).

Tabl 2 – Bylchu ar gyfer canrannau amrywiol o ddwysedd stocio man agored o 2,500 o gyffion fesul hectar (cymysgedd carbon brodorol a choetir cymysg gwell)

Tabl 2 
% man agored bylchau m x m Cyffion/ha yn yr arwynebedd net
0% 2.00 2,500
5% 1.95 2,631
10% 1.90 2,777
15% 1.84 2,941 

 

Dwysedd stocio o 1,600 o gyffion yr hectar (Coetir Brodorol – Bioamrywiaeth)

Tabl 3
% man agored bylchau m x m Cyffion/ha yn yr arwynebedd net
0% 2.50 1,600
5% 2.44 1,684
10% 2.37 1,778
15% 2.30 1,882

Coed a llwyni gwasgarog sy’n bodoli eisoes

Mae gwerth amgylcheddol mawr i’r coed a’r llwyni gwasgarog sy’n bodoli eisoes ac ni ddylech eu clirio ar gyfer plannu coed newydd, ond dylech eu hymgorffori yn eich cynllun plannu.  Bydd angen i chi fapio llwyni prennaidd a choed gwasgarog yn yr un ffordd â thir agored os oes mwy na 0.1ha.

Adran D – Beth sy’n digwydd ar ôl i gynllun gael ei ddilysu?

Ar ôl dilysu cynllun, bydd yn gymwys i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol am bum mlynedd o ddyddiad y dilysu. Bydd hyn yn caniatáu i reolwr tir wneud cais am gyllid creu coetiroedd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Byddai’n dal yn ofynnol i geisiadau am gyllid yn y dyfodol fynd drwy broses ddethol i benderfynu pa gynlluniau sy’n cael y cyllid. Pe byddent yn cael eu dewis, byddai rheolwyr tir yn gallu plannu’r coetir heb unrhyw ddilysiad pellach. Bydd y cynllun wedi’i ddilysu yn parhau’n ddilys os bydd perchnogaeth tir yn cael ei throsglwyddo yn ystod y cyfnod pum mlynedd. Ni fydd yn rhaid i reolwyr tir blannu’r Cynllun Creu Coetir cyfan ar yr un pryd, ar yr amod bod pob ardal blannu yn bodloni gofynion y cynllun.

Bydd angen i Daliadau Gwledig Cymru gael y cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru o fewn 5 mlynedd i’r dilysiad. Fodd bynnag, os oedd y cynllun yn gofyn am gydsyniad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth), yna bydd angen dechrau gweithio ar y prosiect o fewn 5 mlynedd i roi caniatâd yr Asesiad.

I fod yn gymwys i gael cyllid, bydd angen i gynlluniau fodloni gofynion un o’r categorïau coetir (Coetir Cymysg, Brodorol – Carbon, Brodorol – Bioamrywiaeth, Amaeth-goedwigaeth). Byddai newidiadau i’r cynllun yn galw am ragor o ddilysu gan CNC. Ni fydd rhagor o gyllid ar gael os byddwch yn dewis newid y cynllun.

Ar ôl dilysu cynlluniau, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw manylion y cynllun. Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr bob blwyddyn i weld a yw’r cynllun wedi cael ei blannu neu a ydych yn bwriadu plannu yn y dyfodol. Bydd hyn yn ein helpu i bennu cyllidebau ar gyfer plannu coed yn y dyfodol.

Adran E – Sut i Wneud Cais

Gallwch wneud cais am y cynllun peilot drwy ddefnyddio system ar-lein Taliadau Gwledig Cymru. Os nad ydych chi wedi cofrestru’n barod, mae rhagor o fanylion wedi’u cynnwys isod ynghylch sut mae cofrestru. Bydd angen i chi ddilyn yr amserlen ganlynol yn y cynllun peilot:

Amserlen
Cam Dyddiad
Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i gymryd rhan Rhwng 30 Medi 2021 a 28 Hydref 2021
Cyflwyno Cynllun Creu Coetir i Taliadau Gwledig Cymru 8 wythnos ar ôl cadarnhau’r dewis o Ddatganiad o Ddiddordeb
Dilysiad CNC – caniatewch ddigon o amser cyn dyddiad dechrau delfrydol y gwaith Fel arfer, gellir cwblhau’r broses ddilysu o fewn 7 wythnos*
Gwneud hawliad Gellir cyflwyno hawliadau o 1 Mawrth 2022 ymlaen a rhaid eu cyflwyno erbyn 30 Mehefin 2022.

* Gall cynlluniau mawr a/neu gymhleth gymryd llawer mwy o amser. Cofiwch y bydd eich cynllun yn mynd i giw yn y drefn y cafodd ei gyflwyno.

 

Cyn gwneud cais

Cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn gwirio pa mor addas yw eich tir ar gyfer plannu coed drwy’r Map Cyfleoedd Coetir. Mae hwn yn yn dangos unrhyw gyfyngiadau neu sensitifrwydd sy’n gysylltiedig â safle plannu newydd ac mae ar gael yn Map Cyfleoedd Coetir.  Nid yw sensitifrwydd bob amser yn golygu nad yw plannu coed yn bosibl, ond mae’n golygu bod angen ystyried ffactorau ychwanegol neu ymgynghori yn eu cylch. Er na all y map fod yn derfynol, mae’n ddefnyddiol nodi ardaloedd lle mae’n debygol y bydd sensitifrwydd er mwyn i chi allu ystyried a mynd i’r afael â’r rhain ar ddechrau eich gwaith cynllunio. 

Byddem hefyd yn argymell eich bod yn siarad â chynllunydd coetiroedd cofrestredig, a fydd yn gallu rhoi cyngor ar y maint, y lleoliad a’r opsiwn plannu priodol ar gyfer eich cynigion. Ar ben hynny, gall eich cynlluniwr cofrestredig ofyn i CNC gynnal ymweliad dilynol â’r safle.

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb – RPW Ar-lein

Rhaid i chi gwblhau Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer cynllun peilot i gynllunio creu coetir drwy fynd ar RPW Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer yn barod, dylech fod wedi cael llythyr yn rhoi gwybod i chi am eich Cod Ysgogi er mwyn sefydlu eich cyfrif. Os nad yw’r wybodaeth hon gennych mwyach, ffoniwch y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004 a rhowch eich Cyfeirnod Cwsmer i’r gweithredwr. Byddant yn anfon Cod Ysgogi newydd atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein. Trowch at y canllawiau sut i gofrestru am fanylion pellach. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o fanylion am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid i gael rhagor o wybodaeth

Ar ôl cofrestru, gallwch gael mynediad at eich cyfrif RPW Ar-lein. Mae Datganiad o Ddiddordeb Cynllun Peilot Cynllun Creu Coetir ar gael yn adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif.

Bydd angen i asiantau sy’n gweithredu ar ran cleient gofrestru fel asiant Taliadau Gwledig Cymru. Os nad ydych chi wedi gwneud hyn eto, fe’ch cynghorir i lenwi copi papur neu ar-lein o’r ffurflen Manylion Cwsmer Undeb Ffermio / Asiant (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant atoch a Chod Ysgogi RPW Ar-lein. Bydd angen i chi hefyd lenwi Ffurflen Ganiatâd Cymdeithasau y gellir ei llenwi ar ôl i chi gofrestru ag RPW Ar-lein. Darllenwch ein canllawiau ar sut mae cofrestru.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am gwblhau eich Datganiad o Ddiddordeb, cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi, gan gynnwys y cymorth digidol sydd ar gael i chi.

Mae rhagor o fanylion am RPW Ar-lein ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y broses ddethol

Ar ôl i’r ffenestr gau, bydd Llywodraeth Cymru yn sgorio’r Datganiadau o Ddiddordeb. Mae’r sgôr yn cael ei chyfrifo ar sail ffiniau’r parseli tir sydd wedi’u cynnwys yn eich Datganiad o Ddiddordeb, a nifer o haenau data sy’n sgorio pob ardal yng Nghymru ar sail potensial coetiroedd i ddarparu manteision i’r cyhoedd, fel casglu carbon, atal llifogydd a gwella ansawdd aer. Gallwch ddod o hyd i’r haenau data hyn yn Map Cyfleoedd Coetir a gweld sut bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn sgorio.

Er mwyn sicrhau bod y cynllun peilot yn darparu cymorth ar gyfer o leiaf 500 hectar o waith plannu newydd ar draws amrywiaeth o brosiectau o wahanol faint, byddwn yn dewis y Datganiadau o Ddiddordeb sy’n cael y sgoriau uchaf yn y categorïau canlynol

  • 5 cynllun rhwng 2 a 10 hectar.
  • 10 cynllun rhwng 10 a 25 hectar.
  • 5 cynllun rhwng 25 a 50 hectar.
  • 5 cynllun sy’n fwy na 50 hectar.

Bydd hyn i gyd yn sicrhau bod o leiaf 500 hectar o gynlluniau creu coetiroedd yn cael eu cefnogi. Os nad oes digon o gynigion mewn categori penodol, byddwn yn dewis cynlluniau ychwanegol o’r categori nesaf (gan ddechrau o’r ardal fwyaf i’r lleiaf). Bydd uchafswm o 25 cynllun yn cael eu dewis i gyd.

Ar ôl dewis, bydd neges yn cael ei hanfon i’ch cyfrif RPW Ar-lein yn cadarnhau a ydych chi wedi cael eich dewis. Os nad ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn egluro’r rheswm ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Os caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei ddewis, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno Cynllun Creu Coetir i’w ddilysu. 

Cyflwyno’r Cynllun Creu Coetir

Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, bydd angen i chi ddefnyddio cynllunydd coetiroedd cofrestredig i gwblhau Cynllun Creu Coetir. Mae rhestr o gynllunwyr coetiroedd cofrestredig ar gael.

Bydd y cynllunydd coetiroedd yn ysgrifennu Cynllun Creu Coetir sy’n nodi’r cynnig ar gyfer y coetir newydd a sut bydd yn cael ei weithredu yn unol ag UKFS

Yn eich gohebiaeth, bydd ffeil siâp sy’n cynnwys y parseli tir a ddilysir yn eich Datganiad o Ddiddordeb, y bydd angen i’ch cynlluniwr cofrestredig eu defnyddio i lunio eich cynllun. 

Bydd angen newid y ffeil siâp gyda’ch bwriadau plannu a ffensio gan eich cynllunwyr cofrestredig drwy eu System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS). Bydd angen dychwelyd y ffeil siâp wedi’i diweddaru i Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â’r cynllun wedi’i gwblhau a’r holl ddogfennau ategol eraill.

Bydd templedi a chanllawiau creu coetir a chanllawiau mapio ar gael ar RPW Ar-lein. Ni allwn dderbyn templedi a mapiau cynlluniau eraill a fydd yn golygu nad yw eich Datganiad o Ddiddordeb yn gymwys, os cânt eu cyflwyno.

Rhaid cyflwyno eich ffeil siâp a chynllun wedi’i gwblhau i Lywodraeth Cymru drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Bydd eich cynllun yn cael ei anfon at CNC i gwblhau’r broses ddilysu er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni gofynion yr UKFS. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael isod.

Cyn cyflwyno, rhaid i chi, neu asiant awdurdodedig sy’n gweithredu ar eich rhan, a’ch cynlluniwr cofrestredig lofnodi’r cynllun wedi’i gwblhau. Wrth lofnodi datganiad eich cynllun, rhaid i chi sicrhau bod y cynllun wedi’i gwblhau ym mhob ffordd a’i fod yn adlewyrchu eich cynigion plannu arfaethedig yn gywir. Gallai methu â bodloni’r gofynion hyn arwain at Lywodraeth Cymru yn gwrthod y cynllun.

Gall eich cynlluniwr cofrestredig wneud cais i CNC gynnal archwiliad wrth ddesg, ac ymweliad dilynol â’r safle cyn cyflwyno’r cynllun wedi’i gwblhau i Lywodraeth Cymru. Dylech drafod yr adborth gyda’ch cynllunydd cofrestredig cyn penderfynu a ddylid cyflwyno’r Cynllun Creu Coetir wedi’i gwblhau.

Adran F – Dilysiad CNC

Bydd CNC yn sicrhau bod y Cynllun Creu Coetir yn cydymffurfio â’r UKFS.  Os nad yw’r Cynllun Creu Coetir yn bodloni’r gofynion hyn, bydd CNC yn ei ddychwelyd drwy Taliadau Gwledig Cymru i’r Cynllunydd Coetiroedd wneud newidiadau.

Safon Coedwigaeth y DU

Safon Coedwigaeth y DU yw safon coedwigaeth gynaliadwy’r DU. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan Forest Research: Safon Coedwigaeth y DU - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae rhai ardaloedd yng Nghymru yn cynnwys nodweddion sensitif sy’n galw am ystyriaeth ac ymgynghoriad arbennig wrth ddylunio Cynlluniau Creu Coetiroedd. Mae canllawiau CNC ar gyfer cynllunwyr coetiroedd ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Canllaw Cynllunwyr Creu Coetir Glastir. Wrth ddilysu cynlluniau, mae’n ofynnol i CNC gyflawni ei amcan Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar sut mae hyn yn berthnasol i goetiroedd, sydd ar gael yma: Creu coetiroedd: darparu tystiolaeth o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy | LLYW.CYMRU.

Gofynion penodol ar gyfer Cynlluniau Creu Coetiroedd

Mae angen i bob Cynllun Creu Coetir gydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU a rheolau peilot.  Dylai hyn gynnwys bodloni’r gofynion isod:

Ni ddylid plannu llarwydd, ynn na rhywogaethau eraill sydd mewn perygl uniongyrchol o glefyd.

Ni ddylai’r cynllun gynnwys tyfu coed Nadolig na chnwd biomas cylchdro byr.  Ni ellir defnyddio coed Nadolig fel cnwd blynyddol i sefydlu cnwd parhaol.  Mae cylchdro byr yn golygu llai nag 8 mlynedd. 

Ymgynghori

Mae Safon Coedwigaeth y DU yn nodi bod ymgynghori cyhoeddus a statudol yn agwedd bwysig ar y cynigion i greu coetiroedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â nifer o ymgyngoreion gorfodol, os yw sensitifrwydd yn dod o fewn neu wrth ymyl yr ardal creu coetir arfaethedig. Bydd gofyn i’r cynllunydd coetiroedd ddarparu ymatebion gan ymgyngoreion gorfodol fel rhan o’r cynllun (neu dystiolaeth nad ydynt wedi ymateb o fewn 28 diwrnod).

Bydd angen i gynllunwyr hefyd gael caniatâd gan sefydliadau perthnasol wrth blannu mewn safle dynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu ger Heneb Restredig (SAM). Efallai y bydd angen i chi gael cydsyniadau eraill hefyd os yw eich Datganiad o Ddiddordeb yn cael effaith bosibl ar nodwedd fel rhywogaeth a warchodir neu gorff dŵr. Mae Nodyn Cyfarwyddyd CNC GN002 yn rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch gyda phwy y dylid gwneud hyn, a pha gam o’r broses y dylid gwneud hyn.

Mae cysylltu â chymdogion sydd â diddordeb yn gynnar yn y broses o gynllunio i greu coetiroedd yn gyfle i roi gwybodaeth am y cynnig ac osgoi gwrthdaro posibl. Dylai hyn gynnwys ymgynghori ag unrhyw unigolion y mae eu heiddo’n cyd-ffinio â’r gwaith plannu newydd. Argymhellir cynnal digwyddiad cyfranogiad y cyhoedd ar gyfer cynlluniau creu coetiroedd, yn enwedig cynlluniau sydd wedi’u lleoli’n agos at gymuned.

Os yw’r cynllun creu coetir dros drothwy’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, rhaid i chi neu’r cynllunydd coetiroedd roi gwybod i’r Cyngor Cymuned neu’r Cyngor Plwyf am eich cynllun coetir cyn gynted ag y bo modd. Argymhellir hefyd eich bod hefyd yn ymgynghori â phartïon sydd â diddordeb e.e. cymdeithasau genweirio lleol a grwpiau cymunedol 'cyfeillion'.

Rhaid cwblhau pob ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno cynllun. Ni fydd Llywodraeth Cymru na CNC yn ymgynghori’n uniongyrchol â thrydydd partïon, ac eithrio pan na ellid datrys pryderon sy’n ymwneud â chyfranogiad y cyhoedd. Rhaid i chi, neu’r cynlluniwr cofrestredig sy’n gweithio ar eich rhan, gynnwys adroddiad ar gyfranogiad y cyhoedd ochr yn ochr â’r cynllun. Dylai hyn dynnu sylw at y ffaith eich bod chi neu’r cynllunydd coetiroedd wedi ymgynghori ag unigolion neu bartïon sydd â diddordeb, sut yr ymgynghorwyd â nhw (e.e. digwyddiad cyhoeddus, taflenni, o ddrws i ddrws), am faint o amser y cynhaliwyd yr ymgynghoriad a phwy ymatebodd. Rhaid darparu tystiolaeth i CNC bod ymgais resymol a chymesur wedi’i gwneud i gysylltu ag unigolion perthnasol, fel anfon llythyr a chaniatáu 28 diwrnod i ymateb.

Os nad oes modd mynd i’r afael â phryderon partïon sydd â diddordeb cyn cyflwyno, dylid eu cyflwyno gyda’r cynllun o hyd, ynghyd â’r rhesymau dros fethu â mynd i'r afael â nhw. Fel rhan o’r broses ddilysu, bydd CNC yn ystyried y pryderon ac o bosibl drwy drafod ag eraill, yn rhoi gwybod a yw’r pryder yn ddilys ai peidio.

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA)

Mae’r rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) yn golygu bod angen i CNC gael barn ar bob Cynllun Creu Coetir sydd ar neu dros drothwy’r EIA (Coedwigaeth) cyn y gellir bwrw ymlaen â’r gwaith plannu newydd. Ar ôl cwblhau’r gwaith dilysu, bydd y Tîm Rhaglen Coetiroedd yn trosglwyddo eich cynllun ac unrhyw ddogfennau ategol yn awtomatig i Wasanaeth Trwyddedu CNC, a fydd yn asesu’r prosiect ac yn ceisio rhoi gwybod i chi a fyddai angen cydsyniad EIA ar eich prosiect o fewn 28 diwrnod.

Gallai unrhyw achos o dorri Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) rhwng cyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb a dechrau’r contract arwain at dynnu’r cynnig o gontract yn ôl. Gellir cyfeirio unrhyw ddifrod amgylcheddol hefyd at yr awdurdod perthnasol mewn achosion o amheuaeth o dorri rheoliadau.

Adran G – Hawlio

Cynllun Creu Coetir

Ar ôl i CNC gadarnhau eich Cynllun Creu Coetir, bydd y cynllun wedi’i ddilysu yn cael ei anfon atoch chi drwy eich cyfrif ar RPW Ar-lein.  Bydd ffurflen hawlio yn cael ei hanfon atoch i’w llenwi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Unwaith y bydd wedi’i derbyn, bydd eich hawliad yn cael ei ddilysu a’i brosesu ac os yw’n gymwys, bydd y taliad yn cael ei brosesu a’i roi drwy BACS.

Dim ond os bydd CNC wedi cadarnhau’r cynllun wedi’i gwblhau y bydd taliadau’n cael eu gwneud. Bydd y swm a delir yn seiliedig ar arwynebedd terfynol y coetir yn y cynllun ar ôl dilysu.

Arolwg Arbenigol

Mae’n bosibl y bydd cymorth ar gyfer cost arolwg arbenigol ar ôl dethol yn cael ei ystyried, pan na fydd cynllun yn cael ei ddilysu gan CNC. Os nad yw cynllun yn cael ei gyflwyno neu os nad yw’n cael ei ddilysu gan CNC, bydd angen i’r ymgeisydd gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy ei gyfrif RPW Ar-lein i ofyn am ffurflen hawlio.

Bydd angen cyflwyno anfoneb a chyfriflen banc gyda phob hawliad am arolygon arbenigol, i ddangos eich bod wedi talu. 

Adran H – Gwerthuso a Chadw Cofnodion

Rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir. 

Bydd angen i chi hefyd fod yn barod i gymryd rhan mewn gwerthusiad o’r cynllun peilot, a allai gynnwys cyfweliad ar eich profiad o’r cynllun peilot.

Ar ôl gwerthu neu drosglwyddo tir sy’n rhan o’r cynllun wedi’i ddilysu, er mwyn i’r meddiannydd newydd wneud gwaith plannu, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru cyn gwneud cais am gostau plannu. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhannu copi o’r cynllun coetir â rheolwr tir nad yw’n ymgeisydd gwreiddiol.

Adran J - Apeliadau

Nid oes sail dros apelio os na fydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei ddewis.

Mae’r broses apelio yng Nghymru yn rhoi mynediad i chi at weithdrefn apelio annibynnol os ydych chi’n teimlo na wnaeth Llywodraeth Cymru wneud y penderfyniad cywir, yn unol â rheolau’r cynllun peilot ar gyfer creu coetiroedd. 

Bydd dau gam i’r broses apelio: 

  • Cam 1: adolygiad gan Taliadau Gwledig Cymru
  • Cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon gydag ymateb Cam 1) Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd a fydd wedyn yn gwneud y penderfyniad terfynol. 

Daw’r broses apelio i ben ar ôl cyhoeddi penderfyniad y Gweinidog. Ni chodir tâl am Gam 1 y broses, ond codir tâl yng Ngham 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Ad-delir y ffioedd hyn yn llawn os yw apêl Cam 2 naill ai’n rhannol neu’n gwbl lwyddiannus. 

Rhaid i chi apelio drwy lenwi’r ffurflen apelio newydd sydd ar gael ar eich cyfrif RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad penderfyniad, a allai effeithio ar eich taliadau. 

Mae rhagor o fanylion am y broses apelio ar gael gan y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid neu drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru.  

Adran K – Cwynion

Ymdrinnir â chwynion o dan God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gwynion. Mae rhagor o gyngor ar sut i gwyno ar gael gan y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid.

Adran L - Hysbysiad Preifatrwydd – Grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid grant.

Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid grant. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (h.y. defnyddio ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn ein helpu ni i asesu a ydych chi’n gymwys i gael cyllid.

Cyn i ni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Er mwyn cynnal y gwiriadau hyn, mae’n rhaid i ni brosesu data personol amdanoch chi drwy asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwysedd, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais ag awdurdodau Rheoleiddio, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyllid a Thollau EM, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Mae’n bosib y bydd aelod arall o’r cyhoedd yn gwneud cais am eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Byddwn yn cadw’r wybodaeth bersonol sydd wedi’i chynnwys mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich data personol yn cael ei gadw am 10 mlynedd ar ôl i ddyfarniad cymorth ddod i ben. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch chi;
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw;
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn amgylchiadau penodol);
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn amgylchiadau penodol);
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru.

Adran M – Manylion Cyswllt

Mae gwefan Llywodraeth Cymru: gov.wales/farming-countryside a chylchgrawn bob deufis Gwlad yn cynnwys gwybodaeth allweddol.  Dyma’r manylion cyswllt:

TALIADAU GWLEDIG CYMRU

Blwch Post 251
Caernarfon
LL55 9DA

Ffôn: 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

 

Cysylltiadau defnyddiol eraill:

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol (EIA, SoDdGA, GNG, ACA neu AGA)

CYFOETH NATURIOL CYMRU

d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Ffôn: 0300 065 3000

Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun-Gwe 8am 6pm)

Ymholiadau Cyffredinol: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

 

Ar gyfer ymholiadau CNC:

glastirqueries@naturalresourceswales.gov.uk

 

Ar gyfer Henebion Rhestredig / parciau a gerddi cofrestredig:

CADW
Llywodraeth Cymru
Plas Caeriw
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ

Ffôn: 01443 33 6000. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
Ffacs: 01443 33 6001
E-bost: cadw@gov.wales

 

Ar gyfer henebion sydd heb eu rhestru a nodweddion hanesyddol:

Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys

41 Broad Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7RR

Ffôn: 01938 553670
Ffacs: 01938 552179
E-bost: trust@cpat.org.uk
www.cpat.org.uk  

 

Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent
Heathfield House
Heathfield
Abertawe
SA1 6EL

Ffôn: 01792 655208
Ffacs: 01792 474469
E-bost: enquiries@ggat.org.uk
www.ggat.org.uk

 

Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd
Craig Beuno, Ffordd y Garth, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
Ffôn: 01248 352535
Ffacs: 01248 370925
E-bost: gat@heneb.co.uk
www.heneb.co.uk

 

Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed
Corner House, 6 Stryd Caerfyrddin, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6AG
Ffôn: 01558 823121
Ffacs: 01558 823133
E-bost: info@dyfedarchaeology.org.uk 
www.dyfedarchaeology.org.uk