Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

O dan Raglen Lywodraethu 2021 i 2026 mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dreialu Incwm Sylfaenol yng Nghymru. Ddydd Mercher, 16  Chwefror 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, drwy ddatganiad ysgrifenedig, y byddai Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru yn cael ei ddatblygu. Mae swyddogion wedi gweithio'n drawslywodraethol i ddatblygu cynigion ar sail gwersi a ddysgwyd o arbrofion incwm sylfaenol dros y byd a thrafodaethau â Gweinidogion ac amrywiaeth o arbenigwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi cael profiad helaeth o weithio'n agos gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Bydd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar bobl ifanc sy'n gadael gofal ac yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023. Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am o leiaf dair blynedd, gyda phob aelod o'r garfan yn cael taliad Incwm Sylfaenol o £1280 y mis (£1600, cyn treth) am gyfnod o 24 mis o'r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Mae Incwm Sylfaenol yn fuddsoddiad uniongyrchol yn y grŵp hwn o bobl ifanc, sy'n rhoi'r cyfle iddynt ffynnu ac yn diwallu eu hanghenion sylfaenol ar yr un pryd.

Bydd y peilot yn adeiladu ar y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc wrth iddynt adael gofal ac yn ychwanegu ato, ac yn asesu effaith y cymorth ychwanegol hwn arnynt. Bydd hefyd yn asesu buddiannau honedig Incwm Sylfaenol, gan ystyried a yw'r dull gweithredu hwn – cynnig taliad misol rheolaidd i bobl, heb amodau – yn cynnig dewis hyfyw arall yn lle'r modelau presennol o gymorth gan lywodraeth. Bydd y cynllun peilot yn rhoi gwersi gwerthfawr inni ynghylch a yw cynnig Incwm Sylfaenol yn arwain at effeithiau cadarnhaol i liniaru rhai o'r heriau allweddol y mae'r rhai sy'n gadael gofal yn eu hwynebu.

Mae llawer o bobl ifanc sy'n gadael gofal yn wynebu rhwystrau sylweddol sy'n eu hatal rhag pontio'n llwyddiannus i fyd oedolion sydd, yn eu tro, yn eu gwneud yn fwy tebygol o wynebu tlodi. Mae'r grŵp hwn o bobl o dan anfantais anghymesur ac maent yn fwy tebygol yn ystadegol o ddioddef problemau fel digartrefedd, dibyniaeth a phroblemau iechyd meddwl na'u cyfoedion. Ar gyfartaledd, maent yn tueddu i wneud yn waeth o’u cyferbynnu â’r boblogaeth brif ffrwd. Er enghraifft, gellir gweld hyn yn y lefelau is o ran eu cyrhaeddiad addysgol a’u presenoldeb mewn prifysgolion yn ogystal â chanlyniadau iechyd gwaeth a lefelau uwch o ddiweithdra , 2003.

Ystyriodd ymchwil ddiweddar gan Ofsted yn Lloegr farn pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ynghylch gadael gofal. Canfuwyd eu bod yn aml yn teimlo nad oeddent wedi cael eu paratoi’n ddigonol ynghylch sut i reoli arian ar ôl gadael gofal, er enghraifft nad oeddent yn ymwybodol o ba filiau y mae angen eu talu na sut i gyllidebu. Mewn rhai achosion, arweiniodd hyn at fynd i ddyled, colli tenantiaeth, neu fethu â fforddio bwyd neu gostau teithio. Roedd rhai o'r rhai a oedd wedi gadael gofal yn dal i fod mewn dyled flynyddoedd yn ddiweddarach. Pan ofynnwyd iddynt beth oedd yn gwneud iddynt deimlo'n anniogel pan oeddent yn gadael gofal am y tro cyntaf, poeni am arian oedd yr rheswm mwyaf cyffredin a gafwyd. Dywedodd rhai o'r rhai a oedd wedi gadael gofal eu bod wedi dechrau troseddu pan wnaethant adael gofal er mwyn cael arian, neu am nad oeddent yn gallu rheoli eu harian.

Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd rhaglen Bright Spots adroddiad yn dilyn 5 mlynedd o arolygon o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ynglŷn â sut roeddent yn teimlo am eu bywydau. Canfuwyd bod dirywiad sylweddol mewn llesiant ar ôl i bobl ifanc adael gofal. Canfuwyd, o gymharu â phlant mewn gofal, fod canran uwch o'r rhai a oedd wedi gadael gofal yn teimlo'n anhapus, yn anniogel ac yn teimlo’n ansefydlog yn y lle yr oeddent yn byw. Canfuwyd hefyd fod y rhai a oedd wedi gadael gofal yn gwneud yn waeth na'r boblogaeth gyffredinol ar amrywiaeth o fesurau. Er enghraifft, roedd gan fwy o'r rhai a oedd wedi gadael gofal fwy o bryder, roedd eu boddhad â bywyd yn is, roeddent yn teimlo'n unig ac roeddent yn llai tebygol o fod wedi ymddiried mewn pobl gefnogol yn ystod eu bywydau.

Yn aml, mae'n ofynnol i'r rhai sy'n gadael gofal fyw'n annibynnol yn llawer cynt na'u cyfoedion nad ydynt wedi bod mewn gofal.  Mae data 2021 yn dangos, er bod 19% o'r rhai a adawodd ofal wedi dychwelyd adref i fyw gyda'u rhieni neu rywun â chyfrifoldeb rhiant, bod llawer o bobl ifanc yn byw'n annibynnol neu'n lled-annibynnol gydag ystod amrywiol o gymorth. 

Y rheswm rydym yn bwriadu gweithio gyda'r garfan hon yn hytrach nac unrhyw grwpiau eraill sy’n wynebu tlodi a mathau eraill o anfantais, yw er mwyn deall yr heriau unigryw y mae'r rhai sy'n gadael gofal yn eu hwynebu ac a fyddai ymestyn yr amser y cânt eu cefnogi yn cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i bontio i fod yn oedolion. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i weld sut y gallai taliadau arian parod yn ogystal â chynlluniau i aildrefnu systemau eu cynorthwyo’n well i fyw y math o fywydau y maent eisiau eu byw.

Mae pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn grŵp y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis darparu buddsoddiad ychwanegol ynddo'n gyson. Gobeithiwn y bydd y cynigion yn annog y bobl ifanc sy'n dewis cymryd rhan i deimlo mwy o ryddid i fynd i mewn i addysg uwch ac aros yno neu gymryd eu hamser i ddod o hyd i swyddi o ansawdd sy'n talu'n dda.

Mae'r gwerthusiad arfaethedig o'r peilot yn cynnwys elfennau proses/gweithredu, effaith a gwerth am arian, er mwyn ystyried sut mae'r Incwm Sylfaenol wedi cyfoethogi bywydau'r bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.  Cyflawnir hyn drwy gomisiynu dau ddarn o waith ar wahân ond integredig.  Yn gyntaf, gwerthusiad cyfun o’r broses a’r effaith sy'n defnyddio cymysgedd o ddulliau ansoddol a meintiol.  Yn ail, astudiaeth ethnograffeg ansoddol fanwl. Mae a wnelo’r gwaith â’u profiad o’r rhaglen beilot Incwm Sylfaenol ac â’i heffeithiolrwydd.

Cost

Mae Gweinidogion wedi dyrannu £20 miliwn i gyflawni'r rhaglen beilot hon dros gyfnod o 3 blynedd.  Mae'r taliad sy'n cael ei wneud yn ddiamod i'r bobl ifanc yn y garfan ac nid oes unrhyw ofynion ynghlwm. Bydd y taliad gros yr un fath i bawb ac ni fydd yn cael ei newid yn ystod y peilot. Gwneir taliadau i unigolion ac nid i aelwydydd.

Cydweithredu

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, yn fewnol ac yn allanol yn ogystal â chyda sefydliadau'r trydydd sector fel Llamau a Lleisiau o Ofal.  Mae gan y ddau ohonynt berthynas agos â'r bobl ifanc. 

Buom yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol a Chynghorwyr Pobl Ifanc hefyd.

Yn ogystal, mae Grŵp Cynghori Technegol wedi cefnogi datblygiad y peilot, gydag arbenigwyr mewn gwahanol feysydd yn cyfrannu eu barn ar gynigion.

Mae'r bobl ifanc eu hunain yn cael y cyfle i fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio a chyflwyno'r peilot, ac mae sefydliadau'r trydydd sector wedi helpu i ddod â grŵp at ei gilydd i drafod yr opsiynau sydd ar gael a chynghori Llywodraeth Cymru, o’u profiad nhw, ar y ffordd orau o wneud pethau. Mae'r Gweinidog wedi cyfarfod â grŵp o bobl â phrofiad o fod mewn gofal, ac mae cydweithwyr o'r sefydliadau perthnasol wedi bod yn aelodau o Grŵp Gweithredol Llywodraeth Cymru ers dechrau'r prosiect ac yn darparu arweiniad a chyngor allweddol gydol y cyfnod cynllunio a chyflwyno.

Mae heriau sylweddol o ran cyflenwi gyda chynnig o'r math hwn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau rheolaidd gyda chydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi ynghylch y rhyngweithio â'r systemau budd-daliadau a threth.

Yr hirdymor

Pa dueddiadau, heriau a chyfleoedd hirdymor a allai effeithio ar y cynnig?

Mae mwy o blant sy'n derbyn gofal yn debygol o fod â phroblemau iechyd meddwl, ac anghenion addysgol ychwanegol neu arbennig ac maent yn llai tebygol o aros mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Gyda'r cymorth ariannol ychwanegol sydd ar gael drwy'r Peilot Incwm Sylfaenol, y gobaith yw y bydd hyn yn grymuso'r bobl ifanc i wneud eu dewisiadau eu hunain ar sut y maent yn defnyddio'r arian hwnnw i greu bywyd gwell ar gyfer y dyfodol.

Sut y mae'r cynnig yn rhwystro/lliniaru'r effeithiau gwael yn y tueddiadau hyn neu'n hwyluso / gwneud y defnydd gorau o'r effeithiau da?

Mae'r amcanion yn ymestyn y tu hwnt i oes y cynllun peilot. Bwriedir i’r effaith ar unigolyn sy'n cael incwm sylfaenol a chymorth cofleidiol ychwanegol barhau gydol ei oes, ymhell ar ôl i'r taliadau ddod i ben. Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc sy'n gadael gofal, er mwyn eu gosod ar drywydd gwahanol mewn bywyd i’r rhai y gallent fod wedi’u cymryd fel arall.

Bydd y cynllun peilot yn cael ei fonitro'n ofalus a bydd y gwerthusiad yn edrych ar yr effeithiau wrth i'r peilot fynd rhagddo yn ogystal â chymryd golwg tymor hwy i weld sut y gallai ymyriad o'r fath fod wedi torri cylchoedd negyddol fel tlodi ac iechyd gwael yn y dyfodol.

Atal

Fel rhan o'r cynllun peilot, byddwn yn ceisio deall yr heriau unigryw y mae'r rhai sy'n gadael gofal yn eu hwynebu ac a fyddai ymestyn yr amser y cânt eu cefnogi yn cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i bontio i fod yn oedolion.  Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i weld sut y gallai taliadau arian parod yn ogystal â chynlluniau i aildrefnu systemau eu cynorthwyo’n well i fyw y math o fywydau y maent eisiau eu byw, ac atal neu leihau patrymau o dlodi ac afiechyd.

Integreiddio

Deallwn nad oeddem yn gallu helpu pawb gyda'n cynllun peilot incwm sylfaenol, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagor o gefnogaeth i eraill a allai fod o ddiddordeb.

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol becyn cymorth gwerth dros £300 miliwn i bobl sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.  Y gobaith yw, drwy roi'r taliad Incwm Sylfaenol hwn i bobl ifanc sy'n gadael gofal, y bydd yn lleihau'r tebygolrwydd o ddibynnu ar fudd-daliadau yn y dyfodol ond hefyd yn annog cyfranogwyr i aros mewn addysg bellach gan gynyddu eu siawns o ddod o hyd i swyddi o ansawdd gwell yn y dyfodol.  

Cydweithio

Mae'r cynllun peilot wedi'i gynllunio ar y cyd â phartneriaid yn nhimau gadael gofal yr Awdurdod Lleol, yn ogystal â Lleisiau o Ofal a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal eu hunain.  Maent wedi ein helpu i ddeall rhai o'r problemau unigryw a wynebir gan y rhai sy'n gadael gofal ac mae sgyrsiau manwl wedi arwain at ddiwygio elfennau o’r ddarpariaeth yn unol â hynny.

Crëwyd grŵp ymarferwyr i gyfrannu nawr a thrwy gydol y peilot, gan asesu sut mae'r peilot yn mynd a chyfrannu at y gwerthusiad deinamig lle gellir gwneud newidiadau i'r broses pe bai hynny'n fuddiol.

Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda gwledydd ac ardaloedd eraill sydd wedi cynnal Cynlluniau Peilot Incwm Sylfaenol, gan gynnwys Ontario, y Ffindir a Santa Clara gan ddefnyddio'r gwersi y maent wedi'u dysgu yn ogystal â'u gwybodaeth a'u harbenigedd i helpu i lywio cynigion. 

Bydd gwrando ar lais a phrofiad y bobl ifanc eu hunain yn hanfodol i lwyddiant y gwerthusiad.  Caiff hyn ei ymgorffori yn y cynllun drwy ddefnyddio dulliau ansoddol wrth werthuso’r broses a’r effaith er mwyn deall sut mae bod yn rhan o'r peilot wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc.  O fewn manyleb y gwerthusiad byddwn yn gofyn am ddulliau o gynnwys pobl ifanc â phrofiad personol o fod mewn gofal wrth gynllunio a rheoli’r gwerthusiad.

Cynnwys

Rydym wedi gweithio gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i ddatblygu cynigion drwy Lleisiau o Ofal, sy'n sefydliad y mae’r unigolion hynny’n ymddiried ynddo.  Rydym wedi gofyn am eu hadborth wrth i gynigion ddatblygu ac wedi diwygio cynigion yn sgil eu hadborth.

Byddwn yn parhau i ystyried barn y garfan eu hunain wrth i ni symud ymlaen drwy'r peilot ac i addasu'r ffyrdd yr ydym yn gwneud pethau os nad ydynt yn gweithi.

Hawliau plant

Amcanion polisi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd eu Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol yn canolbwyntio ar y rhai sy'n gadael gofal sy’n perthyn i Gategori 3, sy'n cael eu pen-blwydd yn 18 oed o fewn cyfnod 12 mis i ddechrau'r peilot. Disgwylir i'r peilot ddechrau ym mlwyddyn ariannol 2022 i 2023. Ceir rhagor o wybodaeth am y categorïau perthnasol isod:

  • Person ifanc categori 1: plentyn sy'n: (a) 16 neu 17 oed (b) yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac (c) sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol am gyfnod o 13 wythnos, neu gyfnodau sy'n gwneud cyfanswm o 13 wythnos, a ddechreuodd ar ôl iddo neu iddi gyrraedd 14 oed ac a ddaeth i ben ar ôl iddo neu iddi gyrraedd 16 oed (y cyfeirir ato drwy'r cod cyfan fel person ifanc 16 neu 17 oed sy'n derbyn gofal).
  • Person ifanc categori 2: rhywun 16 neu 17 oed nad yw'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ac a oedd yn blentyn categori 1 (y cyfeirir ato drwy’r cod cyfan fel rhywun o dan 18 oed sy’n gadael gofal).
  • Person ifanc categori 3: rhywun a oedd yn blentyn categori 1 neu’n blentyn categori 2 ond sydd bellach yn 18 oed neu’n hŷn hyd at 21 oed (y cyfeirir ato drwy’r cod cyfan fel rhywun 18 oed neu drosodd sy’n gadael gofal).

Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am o leiaf dair blynedd, a phob aelod o'r garfan yn cael taliad incwm sylfaenol am gyfnod o 24 mis o'r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. 

Mae data gan Awdurdodau Lleol yn dweud wrthym y byddai tua 570 o bobl ifanc yn gymwys i gymryd rhan yn y peilot.

Defnyddiwyd yr asesiad effaith hwn fel rhan o ystod o dystiolaeth arall i ystyried effaith y peilot incwm sylfaenol a sut i’w weithredu.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Yn gyffredinol, mae’r rhagolygon ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yn llai cadarnhaol nag ar gyfer y bobl ifanc hynny sy'n byw gartref gyda rhiant neu rieni. Gwyddom fod pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn llai tebygol o ennill cymwysterau addysgol da, bod ganddynt fwy o anghenion o ran iechyd a llety, a’u bod yn fwy tebygol o gamddefnyddio sylweddau a dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.

Yn aml, mae'r rhai sy'n gadael gofal yn dechrau byw'n annibynnol yn llawer cynt na'u cyfoedion nad ydynt wedi bod mewn gofal.  Mae data 2021 yn dangos, er bod 19% o'r rhai a adawodd ofal wedi dychwelyd adref i fyw gyda'u rhieni neu rywun â chyfrifoldeb rhiant, bod llawer o bobl ifanc yn byw'n annibynnol neu'n lled-annibynnol gydag ystod amrywiol o gymorth.  Mae incwm sylfaenol yn fuddsoddiad uniongyrchol yn y grŵp hwn o bobl ifanc, sy’n rhoi'r cyfle iddynt ffynnu ac yn diwallu eu hanghenion sylfaenol ar yr un pryd.

Yn sgil trafodaethau manwl gyda Gweithwyr Cymdeithasol, Cynghorwyr Pobl Ifanc a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, mae gyda ni lawer o senarios gwahanol i’w hystyried yn y broses gynllunio, ac er ein bod wedi ceisio darparu ar gyfer senarios amrywiol, mae'n sicr na fydd modd rhagweld pob sefyllfa bosibl.  Bydd proses werthuso ddeinamig yn cael ei  gweithredu, sy'n golygu, os byddwn yn gweld nad yw rhai elfennau yn gweithio yn ystod y cyfnod monitro, y gallwn addasu a gwneud newidiadau.

Mae'r cynllun peilot wedi'i gynllunio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal mewn golwg.

Bydd rhai unigolion sy'n gadael gofal yn gyfarwydd â throi at yr Awdurdod Lleol am gymorth pan fo angen, fel Rhiant Corfforaethol, ond ni fydd pob Awdurdod Lleol yn darparu'r un cymorth unwaith y bydd yr unigolyn yn troi'n 18 oed.  Y rheswm rydym yn bwriadu gweithio gyda'r garfan hon yn hytrach nag unrhyw grwpiau eraill sy’n wynebu tlodi a mathau eraill o anfantais yw er mwyn deall yr heriau unigryw y mae'r rhai sy'n gadael gofal yn eu hwynebu, ac a fyddai ymestyn yr amser y cânt eu cefnogi yn cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i bontio i fod yn oedolion.

Gobeithiwn allu mesur hyn drwy fonitro'r canlyniadau ymhlith y rhai sy’n rhan o’r peilot, a ph’un a yw'n annog rhai i barhau mewn addysg uwch, a allai yn ei dro wella eu siawns o gael swyddi o ansawdd gwell yn y pen draw.  Gallai hefyd annog mwy o bobl ifanc i ymgymryd â phrentisiaethau, nad ydynt yn apelio yn aml oherwydd y cyflog isel.  Gallai'r taliad incwm sylfaenol ychwanegu at eu cyflog yn y sefyllfaoedd hynny.

Mae trafodaethau gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a Chynghorwyr Pobl Ifanc wedi ein helpu i ddeall yr heriau unigryw hynny, a thrwy ymgysylltu â'r rhai sy’n rhan o’r peilot, byddwn yn dysgu mwy wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen.

Gan ddefnyddio'r gwaith ymchwil hwn, sut rydych chi'n rhagweld y bydd eich polisi yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, yn gadarnhaol ac yn negyddol? Cofiwch y gall polisïau sy'n canolbwyntio ar oedolion effeithio ar blant a phobl ifanc hefyd.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn ystyried effeithiau gwahanol eich polisi ar y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc: blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd, oedolion ifanc; plant ag anghenion dysgu ychwanegol; plant anabl; plant sy'n byw mewn tlodi; plant du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; Sipsiwn, Roma a Theithwyr; mudwyr; ceiswyr lloches; ffoaduriaid; siaradwyr Cymraeg; plant â phrofiad o fod mewn gofal; plant LHDTC+. Noder nad yw hon yn rhestr gyflawn, ac nad un profiad unffurf a fydd gan bawb o fewn y carfanau hyn.

Bydd y cynllun peilot incwm sylfaenol yn rhoi dechrau gwell mewn bywyd i'r garfan a ddewiswyd, gan ddarparu incwm gweddus i helpu i roi mwy o hyblygrwydd iddynt allu parhau mewn addysg neu gymryd eu hamser i ofalu am eu teulu neu chwilio am waith o ansawdd da.

Bydd Cyngor ar Bopeth yn cael ei ariannu fel rhan o'r peilot, a fydd yn cynnig sesiynau ymwybyddiaeth ariannol i'r rhai sy’n rhan o’r peilot, a chyfle i asesu p’un a fyddant yn well eu byd.  Efallai y byddai'n well i rai unigolion cymwys aros ar Gredyd Cynhwysol os ydynt yn hawlio budd-daliadau anabledd, neu os oes ganddynt ddibynyddion.

Bydd rheoli eu cyllid eu hunain yn eu grymuso i wneud eu dewisiadau eu hunain ynghylch sut y maent yn gwario eu harian, ac yn eu paratoi’n well ar gyfer bywyd.  Bydd y bobl ifanc yn dal i gael cymorth gan eu Hawdurdod Lleol a'u Cynghorwyr Pobl Ifanc hyd nes y byddant yn 21 oed, neu’n 25 oed os ydynt yn aros mewn addysg.  Bydd unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddynt yn dal i gael sylw drwy'r prosesau presennol, felly, boed yn help gyda sgiliau coginio, prynu eitemau ar gyfer eu tŷ a gwersi bywyd eraill.

Efallai y bydd y bobl ifanc hynny a fydd yn troi'n 18 oed o drwch blewyn i ddyddiad dechrau a diwedd y peilot yn teimlo ei bod yn annheg eu bod wedi colli’r cyfle, ond byddant yn dal i allu manteisio ar yr holl gymorth ariannol sydd ar gael.

Bydd y bobl ifanc hynny'n dal i allu cael gafael ar y cymorth ychwanegol sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a chaiff yr wybodaeth hon ei darparu iddynt.

Mae’n bosibl hefyd y gallai'r rhai sy’n rhan o’r peilot gael eu targedu am eu bod yn cael yr incwm ychwanegol hwn, a bydd y canllawiau diogelu a ddilynir eisoes gan Awdurdodau Lleol yn parhau i fod yn berthnasol i'r grŵp hwn. 

Y gobaith yw y bydd plant ifanc iawn sy'n ddibynnol ar y rhai sy’n rhan o’r peilot yn elwa ar effeithiau’r cynllun fel yr amlinellir uchod.  Yn gyffredinol, mae canlyniadau cadarnhaol i rieni yn golygu gwell cyfle i'w dibynyddion, gan eu bod am i’w magwraeth hwythau fod yn un gadarnhaol.

Pa waith yn cynnwys plant a phobl ifanc ydych chi wedi'i ddefnyddio i lywio eich polisi? Os nad ydych wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, esboniwch pam

Mae Cynghorwyr Pobl Ifanc a Gweithwyr Cymdeithasol wedi ein hysbysu y byddai llawer o'r bobl ifanc hyn wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, ac wedi cael profiad o fyw mewn tlodi.

Efallai y bydd prosesau dysgu yn arafach na’r arfer ymhlith rhai o’r unigolion hyn, sy'n amlygu ymhellach yr angen i ymgorffori'r cymorth ychwanegol. 

Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal drwy Lleisiau o Ofal Cymru, ac mae'r unigolion hyn wedi gallu rhannu eu profiadau o adael gofal yn onest ac yn agored.  Eu prif bryderon oedd y byddai rhai pobl yn gwastraffu'r arian ac na fyddent yn talu eu rhent ac, o ganlyniad, yn mynd yn ddigartref yn y pen draw.  Roeddent hefyd yn pryderu am gael eu targedu a'u hecsbloetio am gael yr arian ychwanegol hwn.

Rhannwyd y pryderon hyn â Chynghorwyr Pobl Ifanc a Gweithwyr Cymdeithasol hefyd, ac mae adran benodol yn y ddogfen ganllaw sy'n tynnu sylw at y protocolau diogelu presennol. 

Yn y bôn, dylid trin incwm sylfaenol fel unrhyw fudd-dal arall, fel pe bai un o'r bobl ifanc hyn yn cael swydd amser llawn ac yn ennill cyflog tebyg i hyn.  Nid oes angen i’r prosesau cyfredol newid, ond gallai darparu dolenni hwylus i'r prosesau diogelu presennol atgoffa'r rhai sy'n gweithio agosaf gyda'r grŵp hwn o’r drefn.

Mae cynrychiolwyr o'r fforwm gadael gofal a fynychir gan Weithwyr Cymdeithasol a Chynghorwyr Pobl Ifanc wedi bod mewn trafodaethau gydag arweinwyr polisi ac wedi mynegi eu barn ar ran y bobl ifanc y maent yn gyfrifol amdanynt.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu effaith

Gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd gennych, pa effaith y mae eich polisi’n debygol o'i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?

Erthyglau neu Brotocol Dewisol y Confensiwn

Yn gwella (X)

Yn herio (X)

Esboniad

Erthygl 12 (parch at safbwyntiau’r plentyn): Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi eu safbwyntiau, eu teimladau a'u dymuniadau mewn perthynas â phob mater sy'n effeithio arnynt, ac i'w safbwyntiau gael eu hystyried a'u cymryd o ddifrif. Mae'r hawl hon yn berthnasol bob amser, er enghraifft mewn achosion o fewnfudo, penderfyniadau ynghylch llety neu fywyd cartref y plentyn o ddydd i ddydd.

X  

Wrth ddatblygu'r peilot, rydym wedi gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed a bod eu barn yn cael ei defnyddio i helpu i lywio polisi. Fel rhan o'r broses werthuso, bydd barn pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn elfen bwysig o gynllunio sut y caiff y peilot ei werthuso, gan sicrhau ein bod yn holi pobl ifanc ynghylch beth sy'n bwysig. Mae cymryd rhan yn y peilot yn rhywbeth gwirfoddol, felly yn y pen draw dewis y person ifanc yw cymryd rhan, derbyn yr incwm sylfaenol, manteisio ar y ddarpariaeth gymorth ehangach ac ymgysylltu ag unrhyw ymchwil gysylltiedig.

Erthygl 15 (rhyddid i ymgysylltu): Mae gan bob plentyn yr hawl i gyfarfod â phlant eraill ac i ymuno â grwpiau a sefydliadau, cyn belled nad yw hyn yn cadw pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau.

X  

Gobeithio y byddai'r arian ychwanegol a ddarperir gan y peilot yn annog pobl ifanc i gymdeithasu’n fwy ac mewn gwahanol grwpiau. Yn achos y rhai sydd â dibynyddion, efallai y gallant fforddio mynd â'u plant i fwy o gylchoedd chwarae, ardaloedd chwarae meddal, a grwpiau babanod eraill i gymdeithasu a dysgu drwy chwarae.

Erthygl 31 (hamdden, chwarae a diwylliant): Mae gan bob plentyn yr hawl i ymlacio, chwarae a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol a chelfyddydol.

X  

Mae arolygon o bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi dangos mai un maes anodd i blant mewn gofal yn aml yw’r ffaith na allant fforddio gwneud yr un pethau â'u ffrindiau ac ymgysylltu â'u cymunedau. Drwy ddarparu incwm sylfaenol, y bwriad yw rhoi'r un cyfleoedd i'r rhai sy'n gadael gofal ag sydd gan eu cyfoedion i gymdeithasu ac ymgysylltu â'u cymunedau.

Erthygl 17 (mynediad at wybodaeth gan y cyfryngau): Mae gan bob plentyn yr hawl i gael gwybodaeth ddibynadwy o amrywiaeth o ffynonellau, a dylai llywodraethau annog y cyfryngau i ddarparu gwybodaeth y gall plant ei deall.

Rhaid i lywodraethau helpu i amddiffyn plant rhag deunyddiau a allai eu niweidio. Mae'n hanfodol bod gwybodaeth am y peilot ar gael yn rhwydd i'r plant mewn gofal a allai fod yn gymwys.

X  

Byddwn yn cynhyrchu canllaw penodol i bobl ifanc i sicrhau bod yr wybodaeth yn rhywbeth y gall y plant ei ddeall yn hawdd.  Byddwn yn gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y ffordd orau o rannu'r wybodaeth honno a pha lwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol fyddai fwyaf priodol.

Erthygl 6 (bywyd, goroesi a datblygiad): Mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i ofalu bod plant yn goroesi ac yn datblygu i'w llawn botensial.

X  

Y gobaith yw y bydd yr arian ychwanegol y bydd yr incwm sylfaenol yn ei ddarparu yn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg bellach, ac yn sicrhau dewisiadau gwell o ran maeth, a hynny i unrhyw ddibynyddion sydd gan y rhai sy’n cymryd rhan yn y peilot hefyd.

Erthygl 26 (nawdd cymdeithasol): Mae gan bob plentyn hawl i fanteisio ar nawdd cymdeithasol. Rhaid i lywodraethau ddarparu nawdd cymdeithasol, gan gynnwys cymorth ariannol a budd-daliadau eraill, i deuluoedd sydd ei angen.

X  

Mae taliadau'r cynllun incwm sylfaenol hwn yn uwch nag unrhyw gynllun incwm sylfaenol arall ledled y byd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu'r taliad ar lefel a fydd yn helpu i roi dechrau gwell mewn bywyd i'r grŵp hwn sy’n arbennig o agored i niwed, ac mae'n gobeithio y bydd canlyniadau'r peilot yn darparu tystiolaeth i gefnogi cynllun o'r fath i’r dyfodol.

Erthygl 27 (safon byw ddigonol): Mae gan bob plentyn y yr hawl i safon byw sy’n ddigon da i fodloni eu hanghenion corfforol a cymdeithasol, a chefnogi eu datblygiad. Rhaid i lywodraethau helpu rhieni na allant fforddio darparu hyn.

X  

Fel uchod, y gobaith yw y bydd y taliad uwch a ddarperir yn galluogi unigolion i gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau corfforol a chymdeithasol heb i’r gost fod yn gymaint o rwystr.

Erthygl 28 (hawl i addysg): Mae gan bob plentyn yr hawl i gael addysg. Rhaid i addysg gynradd fod yn rhad ac am ddim, a rhaid i wahanol fathau o addysg uwchradd fod ar gael i bob plentyn. Rhaid i ddulliau disgyblu mewn ysgolion barchu urddas plant a'u hawliau. Rhaid i wledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

X  

Gall darparu incwm sylfaenol gynnig cyfleoedd i'r rhai sy'n gadael gofal ddatblygu eu haddysg, addysg ran-amser ac amser llawn, prentisiaethau ac ati.

Dylech ystyried a yw unrhyw rai o Hawliau Dinasyddion yr UE (y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb) yn ymwneud â phobl ifanc hyd at 18 oed.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r peilot a byddant yn cael gwybod am y dyddiadau cychwyn.  Maent mewn cysylltiad â Lleisiau o Ofal a gallant ymgysylltu â’r tîm neu ddatgysylltu ar unrhyw adeg, ond mae eu mewnbwn wedi bod yn amhrisiadwy wrth lywio'r cynigion.

Mae fersiynau o'r canllawiau wedi'u creu yn benodol i bobl ifanc, ac maent wedi'u rhannu gydag Awdurdodau Lleol, yn ogystal â fersiwn fideo fer sydd wedi'i hanelu'n uniongyrchol at bobl ifanc.

Monitro ac adolygu

Amlinellwch pa fecanwaith monitro ac adolygu y byddwch yn ei roi ar waith i adolygu'r Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant

Bydd y cynllun peilot yn cael ei werthuso'n fanwl, a bydd hynny'n ystyried sut mae'r rhai sy’n cymryd rhan yn manteisio ar y rhyddid a ddaw yn sgil incwm rheolaidd, diamod. Byddwn yn dysgu beth mae'r math newydd hwn o gymorth wedi'i olygu i'r bobl ifanc, a beth mae wedi'u galluogi i'w gyflawni.

Mae'r gwerthusiad arfaethedig yn cynnwys elfennau proses/gweithredu, effaith a gwerth am arian, er mwyn ystyried sut mae'r incwm sylfaenol wedi cyfoethogi bywydau'r bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.  Cyflawnir hyn drwy gomisiynu dau ddarn o waith ar wahân ond integredig. Yn gyntaf, gwerthusiad cyfun o’r broses a’r effaith sy'n defnyddio cymysgedd o ddulliau ansoddol a meintiol. Yn ail, astudiaeth ethnograffeg ansoddol fanwl. Mae a wnelo’r gwaith â’u profiad o’r rhaglen beilot incwm sylfaenol ac â’i heffeithiolrwydd.

Bydd gwrando ar lais a phrofiad y bobl ifanc eu hunain yn hanfodol i lwyddiant y gwerthusiad. Caiff hyn ei ymgorffori yn y cynllun drwy ddefnyddio dulliau ansoddol wrth werthuso’r broses a'r effaith er mwyn deall sut mae bod yn rhan o'r peilot wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc. O fewn manyleb y gwerthusiad byddwn yn gofyn am ddulliau o gynnwys pobl ifanc â phrofiad personol o fod mewn gofal wrth gynllunio a rheoli'r gwerthusiad.

Effaith ar y Gymraeg

A yw'r cynnig yn cysylltu'n glir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg Cymraeg 2050, Miliwn o Siaradwyr a'r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2017 i 2021?

Mae'r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol wedi'i anelu at grŵp o tua 500 o bobl sy'n gadael gofal, a fydd yn derbyn taliad misol am 24 mis o'r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed.

Y gobaith yw y bydd y taliad hwn yn ei gwneud yn bosibl i'r rhai sy'n gadael gofal i gyflawni eu dyheadau mewn bywyd ac yn rhoi'r hyblygrwydd iddynt barhau ag addysg neu hyfforddiant i allu cyflawni'r hyn a ddymunant. 

Fel rhan o'r cymorth a ddarperir gan Cyngor ar Bopeth a Lleisiau o Ofal, bydd unigolion yn cael eu hannog i ystyried dysgu neu gadw gafael ar eu sgiliau yn y Gymraeg. Sylweddolir bod sgiliau yn y Gymraeg, waeth beth fo’r lefel, yn help i bobl ifanc adeiladu dyfodol disglair drwy gael gwaith o ansawdd da mewn ystod eang o leoliadau.

Ymysg y grŵp peilot o bobl sy'n gadael gofal efallai bod unigolion sydd wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym eisiau sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn ymwybodol o’u hopsiynau o ran parhau a’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg a’r opsiynau i gael sgiliau ac achrediad ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol os ydynt yn dymuno hynny. Mae’n allweddol bod y bobl ifanc hyn yn ymwybodol o werth sgiliau yn y Gymraeg. Bydd gofyn i gynghorwyr sy’n gweithio ar y prosiect gyfeirio pobl at fudiadau cyfrwng Cymraeg, fel y Mentrau Iaith, yr Urdd, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru er mwyn rhoi cymorth iddynt i ganfod cyfleoedd cyfrwng Cymraeg fel profiad gwaith a gwirfoddoli o fewn eu cymunedau.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?

Dylech nodi eich ymateb i'r canlynol wrth ateb y cwestiwn hwn, yn ogystal â chynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?

Gan fod y cynllun peilot ar gyfer grŵp bach wedi'i dargedu, ni chredir y caiff effaith sylweddol ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.  Y gobaith yw y bydd rhai o'r garfan yn dilyn gwersi addysg bellach neu wersi Cymraeg os oes angen, a allai, o ganlyniad, gael effaith yn ei dro ar eu teuluoedd eu hunain ond ni fyddai'r effaith ar y gymuned ehangach yn sylweddol naill ai'n gadarnhaol nac yn negyddol.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar addysg Gymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?

Y gobaith yw y bydd rhai o'r garfan yn mynd ymlaen i addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo hynny'n bosibl, a byddant yn cael eu hannog i wneud hynny gan y rhai sy'n darparu elfen gymorth y peilot.  Ond mae maint bach y peilot yn golygu ei fod yn annhebygol o gael unrhyw effeithiau cadarnhaol nac andwyol.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? (ee iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, amgylchedd, llywodraeth leol ac ati.)

Mae’n annhebygol o gael effaith y naill ffordd neu'r llall.

Sut y byddwch yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg a'u bod yn gallu cael mynediad atynt a'u defnyddio mor rhwydd â gwasanaethau Saesneg? Pa dystiolaeth/data y gwnaethoch eu defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau â diddordeb yn y Gymraeg?

Rydym wedi casglu data ar aelodau o'r garfan sy'n ystyried y Gymraeg fel eu hiaith gyntaf ar hyn o bryd, ac er bod y niferoedd yn fach iawn mae'r holl wybodaeth a ffurflenni cais wedi'u paratoi'n ddwyieithog ac mae’r dewis iaith wedi cael ei wirio cyn mynd ati i weithio â nhw.    

 

Casgliad

Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi bod yn rhan o gyfarfodydd gyda swyddogion a Gweinidogion, gan rannu eu barn onest am y cynigion, ac maent wedi cyfrannu’n fawr at y penderfyniadau terfynol a wnaed ynghylch y peilot hwn. Aeth rhai pobl ifanc a fydd yn cymryd rhan yn y peilot i ddigwyddiad lle buont yn rhannu eu profiadau ac yn trafod sut y byddai’r taliadau incwm sylfaenol yn eu helpu i’r dyfodol. 

Mae’r uchod a’r asesiadau effaith llawn yn darparu rhagor o wybodaeth am yr effeithiau cadarnhaol a negyddol ar y grwpiau canlynol:

  • plant a’u cynrychiolwyr
  • pobl sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • siaradwyr Cymraeg
  • grwpiau arbenigol

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Mae’r ffocws ar broses werthuso barhaus, ddeinamig drwy gydol cyfnod y peilot wedi bod yn allweddol erioed, a bydd hyn yn golygu bod modd gwneud newidiadau pan fo’u hangen. Os nad yw elfennau penodol yn gweithio, rydym wedi bod yn glir y byddwn yn eu newid ar unwaith i sicrhau’r profiad gorau posibl i’r rheini sy’n cymryd rhan.

Prif nod y gwerthusiad fydd deall p’un a yw’r peilot incwm sylfaenol wedi gweithio, sut, pam, i bwy a beth oedd y gost. Er mwyn gwneud hyn, bydd gofyn i’r gwerthusiad ddisgrifio a chofnodi prosesau’r peilot; nodi canlyniadau’r peilot; awgrymu gwelliannau ac arbedion; a phrofi effeithiolrwydd y buddsoddiad a’r ymyriad.