Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cynllun Peilot Sgiliau Deallusrwydd Artiffisial

3. Y sail gyfreithiol

Deddf Llywodraeth Cymru 2006, adran 60(1).

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Trwy weinyddu grant hyfforddiant hyblyg, ein cenhadaeth yw grymuso cyflogwyr yng Nghymru i uwchsgilio eu gweithwyr mewn meysydd sgiliau sy'n ymwneud â deallusrwydd artiffisial. Bwriad hyn yw ysgogi gwell cynhyrchiant, effeithlonrwydd a phroffidioldeb gan ddarparu budd economaidd parhaol i'r genedl, yn ogystal â sicrhau rhagor o gymorth a chydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector deallusrwydd artiffisial.

5. Diben y cynllun

Trwy roi cymhorthdal ar gyfer costau hyfforddi cymwys, bydd y Cynllun Cymhorthdal Peilot Sgiliau Deallusrwydd Artiffisial yn helpu cyflogwyr yng Nghymru i fynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu yn eu busnesau o ran sgiliau deallusrwydd artiffisial. Bydd hyn yn gwella sgiliau a galluoedd gweithwyr yn y sector hwn sy'n ehangu'n gyflym, a fydd hefyd yn galluogi'r unigolion hynny i ddatblygu eu gyrfaoedd ymhellach.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Caiff cwmnïau hyfforddi o'r sector preifat a'r trydydd sector sy'n gweithredu yn y sector deallusrwydd artiffisial yn unrhyw ran o Gymru wneud cais am y cymhorthdal, os ydynt yn dymuno helpu cyflogwyr i uwchsgilio eu gweithwyr o ran arferion gorau, moeseg a defnyddio deallusrwydd artiffisial.

8. Sectorau i’w cefnogi

  • Gweithgynhyrchu
  • Gwybodaeth a chyfathrebu
  • Gweithgarwch proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
  • Gweithgarwch gweinyddol a gwasanaethau cymorth
  • Addysg
  • Y celfyddydau, adloniant a hamdden

9. Hyd cyfnod y cynllun

25 Chwefror 2026 tan 25 Chwefror 2028.

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

£2,000,000

11. Ffurf y cymorth

Grant uniongyrchol.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae'r costau cymwys yn cynnwys yr hyfforddiant a ddarperir gan y darparwr hyfforddiant sy'n ymgeisio ac arholiadau cysylltiedig. Mae'n amodol ar gais ac arfarniad llawn, gan gynnwys gwiriadau diwydrwydd dyladwy sy'n sicrhau bod y cwmni sy'n ymgeisio a'r hyfforddiant arfaethedig yn bodloni gofynion cymhwystra'r cynllun. Bydd llythyr dyfarnu grant gan Lywodraeth Cymru yn cael ei anfon at ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn nodi telerau ac amodau llawn y dyfarniad.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Gellir gwneud dyfarniadau hyd at uchafswm o £50,000 fesul cyflogwr mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Daw'r cymhorthdal ar ffurf grant uniongyrchol i'r ymgeisydd a chaiff ei dalu ar gyfradd safonol o 75% o gostau hyfforddi cymwys, ni waeth beth yw maint y busnes.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£50,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm Sgiliau Hyblyg drwy e-bostio: dfesrm@gov.wales

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image