Rydym eisiau eich barn ar gynlluniau rheoli pysgodfeydd (CRhP) ar gyfer rhywogaethau pelagig y Môr Iwerddon a rhywogaethau dyfnforol y Môr Iwerddon.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn gofyn am farn ar:
- CRhP arfaethedig ar gyfer rhywogaethau dyfnforol y Môr Iwerddon i ddyfroedd Gogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru
- CRhP arfaethedig ar gyfer rhywogaethau pelagig y Môr Iwerddon i ddyfroedd Gogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru
- yr asesiad effaith rheoleiddiol, a
- yr adroddiad amgylcheddol ar yr FMP
Mae’r rhein yng nghyd-ymgynghoriad rhwng Llywodraethau Cymru, Gogledd Iwerddon a'r DU.
O dan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (ar gov.uk), cyhoeddodd y pedwar awdurdod polisi pysgodfeydd y DU Y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd. Mae'r datganiad hwn yn cynnwys rhestr o CRhP i'w cyhoeddi dros gyfnod o 6 blynedd.
Mae'r ymgynghoriad ar FMP dyfnforol ar gyfer Môr Iwerddon yn cael ei gynnal ar daera-ni.gov.uk.
Mae'r ymgynghoriad ar FMP pelagig ar gyfer Môr Iwerddon yn cael ei gynnal ar daera-ni.gov.uk.
