Neidio i'r prif gynnwy

Cyn penwythnos y Pasg, mae’r Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas wedi pwysleisio pwysigrwydd safonau fel rhan annatod o ddatblygiad twristiaeth a’r ddarpariaeth dwristaidd yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Croeso Cymru yn dechrau cyflwyno canllawiau Sicrwydd Ansawdd diwygiedig yn fuan – sef argymhellion adolygiad a gynhaliwyd gan sefydliadau twristiaeth cenedlaethol Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a’r AA. Cynhaliwyd yr adolygiad oherwydd y newid yn nhueddiadau busnesau ac ymwelwyr – gyda mwy o ddefnydd o gynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr, dulliau archebu ar-lein a systemau sgorio adolygiadau defnyddwyr yn ogystal â’r llety mwy amrywiol sydd bellach ar gael.  

Bydd y newidiadau i’r cynlluniau yn golygu bod cynlluniau sicrwydd ansawdd yn berthnasol ac yn darparu gwybodaeth yn ogystal â chefnogi busnesau a defnyddwyr mewn marchnad fyd-eang sy’n gyfnewidiol a chystadleuol.    

Yn dilyn adborth gan gwsmeriaid a’r diwydiant, bydd y cynlluniau diwygiedig yn rhoi mwy o bwyslais ar safon y profiad a llai o bwyslais ar ddarparu cyfleusterau.  Mae’r broses o gyflwyno meini prawf newydd ar gyfer y sectorau â gwasanaeth a hunan-arlwyo yn dechrau fis Ebrill 2018 gyda’r nod o gynyddu’r cyfraniad at y gwahanol gynlluniau.  

Fel rhan o’r newid Sicrhau Ansawdd, bydd Croeso Cymru yn cyflwyno arwyddion a deunyddiau newydd i alluogi busnesau i arddangos eu graddfa seren i’r gwesteion.  Bydd y gyfres o ddeunyddiau newydd, sydd wedi’u diweddaru i adlewyrchu brand Cymru Wales, yn cynnwys placiau seren newydd; tystysgrifau cyfoes; a bathodynau a logos digidol.  Nid oes angen i fusnesau ofyn am ddeunyddiau newydd – cânt eu cyhoeddi a’u cyflwyno dros yr haf; ac mae cwsmeriaid yn cael eu hargymell i chwilio am logo y Ddraig Goch ar westai, tai Gwely a Brecwast, tai llety a thai bynciau pan fyddant yn archebu, fel nod ansawdd y gellir ymddiried ynddo.  

Wrth ymweld â Lake Vyrnwy Hotel heddiw [dydd Llun 26 Mawrth] dywedodd y Gweinidog Twristiaeth: 

“Mae safon yn hanfodol i lwyddiant twristiaeth yng Nghymru yn y dyfodol -  ac y un ffordd o sicrhau ein bod yn bodloni y disgwyliadau a’r galw gan gwsmeriaid yn ogystal â helpu’r diwydiant i ymdrechu i fod y gorau y gall fod – yw trwy ein cynllun Sicrwydd Ansawdd.  Er ei fod yn cael ei gydnabod bod angen i’r cynlluniau newid, y farn gyffredinol hefyd ar draws pob sefydliad twristiaeth cenedlaethol yw bod cynnig asesiad annibynnol o gyflesuterau a gwasanaethau yn parhau i fod yn bwysig.  Mae ein cynlluniau graddio yn gysylltiedig â hyder – hyder yn yr hyn sydd gennym i’w gynnig, hyder yn sut yr ydym yn ei gynnig a hyder y bydd y rhai sy’n ymweld â Chymru yn cael profiad cofiadwy, o safon uchel.  

“Rwy’n falch iawn o fod yn y canolbarth heddiw – ar ddechrau yr hyn fydd gobetihio yn Basg prysur i’r diwydiant.  Yr argraff yr wyf wedi ei gael dros y misoedd diwethaf yw o ddiwydiant sy’n llawn ymroddiad a brwdfrydedd ac rwy’n credu y gallwn, trwy weithio mewn partneriaeth, adeiladu ar y llwyddiant yr ydym wedi’i gael dros y blynyddoedd diwethaf.  Rwyf hefyd wedi cyfarfod yn ddiweddar â chadeiryddion y Ffora Twristiaeth Rhanbarthol, ac rwyf yn hyderus y bydd y strwythur hwn yn gweithio i ddatblygu a marchnata twristiaeth yn y dyfodol.  Cefais y cyfle heddiw i roi sicrwydd i gydweithwyr yn y canolbarth nad oedd gennyf unrhyw fwriad o newid y strwythur hwn.  Rwy’n dymuno Pasg prysur a llewyrchus i’r diwydiant.”  


Dywedodd Anthony Rosser, UKHospitality Cymru: 

"Mae'r cynllun diwygiedig yn cydnabod y safon uchel y mae’r diwydiant lletygarwch yn darparu ledled Cymru ac y mae prosiect sy'n gweithio tuag at gynnal a chadw safonau hyn i'w groesawu, gyda’r  pwyslais ar adlewyrchu profiad yr ymwelwyr  yn hytrach na chyfleusterau yn unig.

"Mae unrhyw gynllun sy'n ceisio darparu mwy o gefnogaeth ar gyfer y diwydiant i wella a datblygu i'w groesawu,  fel y gallwn barhau i fuddsoddi yn ein busnesau.  Mae hyn yn  hanfodol i ddenu ymwelwyr ac er mwyn cynnal ac adeiladu ar ein cyfran o’r farchnad  wrth wynebu i cystadleuaeth gynyddol yn y DU a thramor."


Meddai Adrian Barsby, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru: 

“O ystyried y newidiadau enfawr yr ydym wedi’i weld dros y ddeng mlynedd ddiwethaf i’r ffordd y mae ein cwsmeriaid yn ymchwilio ac yn archebu eu gwyliau, rydym yn croesawu’r adolygiad a’r gwelliant hwn i’r cynllun Sicrwydd Ansawdd, y bu disgwyl mawr amdano.  Mae rhoi mwy o bwyslais ar y profiad o gymharu â’r cyfleusterau materol yn unol â disgwyliadau cwsmeriaid heddiw.  Er fod pob un ohonom yn cydnabod bod cwsmeriaid yn dibynnu mwy a mwy ar adolygiadau ymwelwyr ar-lein, nid yw’r rhain yn rhoi yr un sicrwydd â’r arbenigedd a roddir gan weithwyr twristiaeth proffesiynol Croeso Cymru. Mae’r cynllun Sicrwydd Ansawdd yn cynnig y sicrwydd sylfaenol ychwanegol hwnnw i’r darpar gwsmer eu bod yn gwneud y dewis iawn.  Rydym yn edrych ymlaen at y manteision diamheuol y bydd hyn yn ei roi inni.”