Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi datblygu cynllun talebau cyfryngu, lle cynigir cyfraniad o hyd at £500 fesul achos/teulu i gostau cyfryngu achos trefniadau plant.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi datblygu cynllun talebau cyfryngu, lle cynigir cyfraniad o hyd at £500 fesul achos/teulu i gostau cyfryngu achos trefniadau plant, gan annog pobl i geisio datrys eu hanghydfodau y tu allan i’r llys lle bo hynny’n briodol.

Diben y cynllun yw hyrwyddo manteision cyfryngu a dargyfeirio materion i ffwrdd o’r llysoedd teulu lle bo hynny’n briodol. Bydd y cynllun yn cynnig cyfraniad ariannol o hyd at £500 y teulu i gyfranogwyr y cyfryngu tuag at gyfanswm costau eu cyfryngu. Bydd y taliad hwn yn cael ei wneud yn uniongyrchol i ddarparwyr cyfryngu gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol sy’n gweinyddu’r cynllun ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cyn cadarnhau i gleientiaid bod taleb ar gael, rhaid i gyfryngwyr wneud cais am ddyraniad talebau, a derbyn cyfeirnod achos gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol – mae hyn er mwyn sicrhau mai dim ond pan fydd arian ar gael y caiff talebau eu dyrannu. Mae gwybodaeth lawn am y cynllun talebau ar gael ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol.