Neidio i'r prif gynnwy

Adran C: tir o dan gynlluniau eraill

Glastir: Tir Comin

Nid yw tir sy'n dir comin cofrestredig yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig, ac eithrio tir comin unig borwr sydd wedi'i gofrestru yn system adnabod parseli tir RPW.

Mae tir a ddefnyddir fel tir comin ond nad yw’n dir comin cofrestredig yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi’n Organig. Ond os oes gennych gontract Glastir – Tir Comin eisoes ar dir o'r fath, bydd cyfyngiadau yn berthnasol. Ni chewch ddatgan diddordeb ar gyfer gwaith fydd yn newid amodau rheoli contract Glastir – Tir Comin sydd gennych eisoes.

Bellach wedi newid i:

Glastir: Tir Comin

Nid yw tir sy'n dir comin cofrestredig yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig, ac eithrio tir sydd wedi'i gofrestru yn system adnabod parseli tir RPW.

Nid yw tir a ddefnyddir fel tir comin ond nad yw’n dir comin cofrestredig yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig, ac eithrio tir comin unig borwr sydd wedi'i gofrestru yn system adnabod parseli tir RPW.

Ond os oes gennych gontract Glastir – Tir Comin eisoes ar dir o'r fath, bydd cyfyngiadau yn berthnasol. Ni chewch ddatgan diddordeb ar gyfer gwaith fydd yn newid amodau rheoli contract Glastir – Tir Comin sydd gennych eisoes.