Rydym am sefydlu cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Rydym am sefydlu cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru. Bydd hyn yn gwella cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol presennol ac yn creu unffurfiaeth ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr.
Mae'r gwaith yn rhan o gydweithrediad y Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru. Mae cyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau hefyd yn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Byddai'r cynigion yn gofyn am ddeddfwriaeth newydd os cânt eu datblygu. Mae datblygu polisi i ddeddfwriaeth a gweithredu yn broses sy'n cymryd amser. Mae'n annhebygol y bydd mesurau yn dod i rym am sawl blwyddyn, os cânt eu cymeradwyo gan y Senedd. Rydym yng nghamau cynnar y broses. Bydd opsiynau posibl ynghylch sut y bydd y cynllun yn gweithredu yn cael eu harchwilio'n fanylach yn dilyn canlyniadau'r ymgynghoriad.
Cynlluniau trwyddedu a chofrestru mewn gwledydd eraill
Mae llawer o leoedd yn defnyddio cynllun trwyddedu, ardystio neu gofrestru i annog tegwch ar draws y sector llety ymwelwyr. Yn y DU, cymerwyd gwahanol ddulliau ac maent ar wahanol gamau datblygu.
Enghreifftiau o gynlluniau eraill
Gogledd Iwerddon
Rhaid i bob darparwr llety twristiaeth dderbyn ardystiad gan Tourism NI cyn y caniateir iddynt ddechrau gweithredu. Darganfod mwy: Tourism Northern Ireland: Accommodation, getting started
Yr Alban
Rhaid i unrhyw un sy'n gweithredu gosodiad tymor byr cyn 1 Hydref 2022 wneud cais am drwydded erbyn 1 Hydref 2023. Mae angen trwydded ar fusnesau newydd nad ydynt yn gweithredu cyn 1 Hydref 2022 cyn iddynt gymryd unrhyw archebion neu dderbyn unrhyw westeion. Darganfod mwy: Mygov.scot: Overview of short-term let licences
Lloegr
Yn dilyn galwad am dystiolaeth yn haf 2022, cynhaliodd yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun cofrestru ar gyfer gosodiadau tymor byr yn Lloegr rhwng 12 Ebrill 2023 a 7 Mehefin 2023.
Ynys Manaw
Mae'n rhaid i bob llety i ymwelwyr a darparwyr llety digwyddiadau dros dro gofrestru. Darganfod mwy: Visit Isle of Man: Accomodation
Guernsey
Mae'n rhaid i bob darparwr llety ymwelwyr gael trwydded. Darganfod mwy: Guernsey Legal Resources: Tourist (Amendment) Law, 1967
Jersey
Rhaid i eiddo a ddefnyddir fel gwestai, tai gwestai, unedau hunanddarpar neu wersyllfeydd fod wedi'u cofrestru fel llety i dwristiaid. Darganfod mwy: gov.je: Registration of holiday accommodation
Ffrainc
Ar lefel genedlaethol, mae cofrestru unrhyw lety i dwristiaid yn rhwymedigaeth gyfreithiol
Yr Almaen
Ar lefel genedlaethol, rhaid cofrestru rhenti gwyliau gyda swyddfa gofrestru'r trigolion lleol
Byddwn yn dysgu o'r enghreifftiau hyn wrth ddatblygu cynigion ar gyfer cynllun trwyddedu ar gyfer Cymru. Byddwn hefyd yn adolygu pa wersi y gellir eu dysgu o gynllun Rhentu Doeth Cymru.
Cefndir
Mae'r Cytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo i gynllun trwyddedu statudol ar gyfer gosod gwyliau. Mae hyn yn rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â'r effaith negyddol y gall ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ei chael ar argaeledd a fforddiadwyedd tai i bobl leol yn ein cymunedau. Ym mis Gorffennaf 2022, cadarnhaodd y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru gynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, gan gynnwys gosodiadau tymor byr. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol cael trwydded gyda'r nod o godi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth.
Gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Rhagfyr 2022 a 17 Mawrth 2023: Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru, i ofyn am farn ar y cynllun trwyddedu statudol arfaethedig ar gyfer pob llety ymwelwyr yng Nghymru. Ymatebodd mwy na 1,500 o unigolion a sefydliadau i'r ymgynghoriad.
Rydym wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar sut y gallai cynllun o'r fath weithio yng Nghymru. Cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori atodol ym mis Mai 2023 a oedd yn canolbwyntio ar dynnu tystiolaeth am elfennau penodol o'r cynllun. Cynhaliwyd y digwyddiadau a hwylusir yn annibynnol yng nghanolbarth, gogledd a de Cymru. Roedd mynychwyr yn cynrychioli cymdeithasau twristiaeth cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn ogystal â chynrychiolwyr o:
- awdurdodau lleol,
- asiantau teithio ar-lein,
- undebau ffermio a chefn gwlad a chymdeithasau, a
- asiantaethau hunanddarpar.
Cyn y ddau ymarfer ymgynghori hyn, penodwyd contractwr i gynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid allweddol. Roedd hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff sy'n cynrychioli'r sector a gweithredwyr llety ymwelwyr. Bu'r sesiynau hyn yn archwilio nifer o opsiynau a sut y gellid bwrw ymlaen ag unrhyw gynllun a'i weithredu yng Nghymru.
Diben a manteision y cynllun
Pwrpas y cynllun yw sicrhau bod pob darparwr llety ymwelwyr yn bodloni set gyson o safonau. Bydd y cynllun yn helpu i sicrhau diogelwch ymwelwyr ac yn hybu hyder defnyddwyr yn y diwydiant.
Mae manteision eraill y cynllun yn cynnwys:
- Creu unffurfiaeth - byddai'r cynllun yn darparu'r llwyfan i sicrhau bod pob gweithredwr yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
- Iechyd a diogelwch ac amddiffyniadau eraill - byddai'r cynllun yn darparu lefel ychwanegol o ddiogelwch i westeion.
- Gwybodaeth - bydd cronfa ddata gynhwysfawr, nad yw ar gael ar hyn o bryd, yn cael ei datblygu yn manylu ar bwy sy'n gweithredu yn y diwydiant.
- Llwyfan ar gyfer cyfathrebu – bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill (er enghraifft, awdurdodau lleol) yn gallu cyfathrebu ar faterion sy'n ymwneud â rheoleiddio, darparu cyngor ar arfer gorau neu fodloni safonau penodol a chynghori ar gymorth arall sydd ar gael.
- Hyder defnyddwyr - byddai'r cynllun yn cyfleu neges glir iawn i ddefnyddwyr bod y sector yng Nghymru yn cael ei reoli'n dda, yn ddiogel ac yn gyfreithlon.
- Sylfaen bwysig ar gyfer meysydd polisi eraill – megis datblygu treth ymwelwyr a'r gwaith ar ail gartrefi.
Y cynigion
Rydym yn cynnig bod yn rhaid i bob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru fodloni gofynion penodol er mwyn cael trwydded. Bydd penderfyniadau terfynol ar sut mae'r cynllun yn cael ei redeg yn cael eu gwneud yn dilyn ystyriaeth lawn o ymatebion i'r ymgynghoriad.
Mae rhai pryderon wedi eu codi ynghylch y pwysau gweinyddol ac ariannol y gallai'r cynllun ei roi ar fusnesau ac awdurdodau lleol. Rydym yn ymwybodol y bydd angen i'r cynllun fod yn gymesur, a byddwn yn defnyddio mewnwelediad o'r ymgynghoriadau i lunio sut y bydd y cynllun yn cael ei gyflawni.