Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun trwyddedu i wella safonau hylendid a diogelwch triniaethau arbennig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyd-destun

Mae cynllun trwyddedu gorfodol ar waith ar gyfer y triniaethau arbennig a ganlyn yng Nghymru:

  • aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych)
  • tyllu’r corff (gan gynnwys y glust)
  • electrolysis
  • tatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol a microlafnu)

Mae’n bwysig bod mesurau atal a rheoli heintiau effeithiol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y triniaethau hyn. Gall peidio â dilyn mesurau o’r fath gynyddu’r risg o heintiau i gleientiaid a deiliaid trwyddedau. Gallai hyn arwain at gymryd camau cyfreithiol.

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Pwrpas y cynllun trwyddedu yw:

  • gwella safonau hylendid a diogelwch
  • sicrhau bod safonau o’r fath yn gyson ar draws Cymru
  • helpu i amddiffyn iechyd cleientiaid
  • helpu cleientiaid i ddewis unigolion trwyddedig sy’n gweithredu o safleoedd a cherbydau cymeradwy

Trwydded triniaeth arbennig

Rhaid i berson sy’n cyflawni unrhyw un o’r 4 triniaeth arbennig ddynodedig wneud cais am drwydded triniaeth arbennig. Rhaid iddynt wneud cais i’w hawdurdod lleol. Mae hyn yn gymwys i bob unigolyn a oedd wedi’u cofrestru yn flaenorol i gyflawni triniaethau o’r fath, a phob ymgeisydd newydd. Mae hefyd yn gymwys i unigolion sy’n rhan o unrhyw gynllun arall yn y DU sydd eisiau gweithio yng Nghymru.

Tystysgrif cymeradwyo mangreoedd a cherbydau

Mae'n rhaid i unigolion wneud cais i'w hawdurdod lleol am dystysgrif gymeradwyo os ydynt:

  • yn gyfrifol am fangre neu gerbyd a ddefnyddir ar gyfer y triniaethau hyn
  • yn rheoli busnes triniaeth arbennig

Tystysgrif cymeradwyo safleoedd a cherbydau

Rhaid i unigolion wneud cais i’w hawdurdod lleol am dystysgrif gymeradwyo os ydynt:

  • yn gyfrifol am safle neu gerbyd a ddefnyddir ar gyfer y triniaethau hyn
  • yn rheoli busnes triniaeth arbennig

Y gofynion sy’n gysylltiedig â gwneud cais 

Bydd angen i unigolion fodloni meini prawf penodol cyn gwneud cais am drwydded neu dystysgrif gymeradwyo os ydynt:

  • yn ymarferydd unigol
  • yn gyfrifol am safle neu gerbydau

Awdurdodau lleol sy’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer y cynllun a gallant egluro wrthych yr hyn y mae angen i chi ei wneud.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein canllawiau ein hunain i helpu pobl i gydymffurfio â’r cynllun.

Cyfnod pontio ar gyfer ymarferwyr a busnesau sydd wedi cofrestru â’u hawdurdod lleol

Mae’r cyfnod pontio ar gyfer ymarferwyr a busnesau sydd wedi’u cofrestru o dan yr hen gynllun cofrestru bellach wedi dod i ben. Mae awdurdodau lleol wedi asesu pob un ond ychydig o geisiadau sy’n weddill ac wedi eu trosglwyddo i’r cynllun newydd.

Rhaid i unrhyw un a gafodd wybod am y trefniadau pontio ond na wnaeth gais wneud cais yn awr fel ymarferydd neu fusnes newydd.  Os byddant yn parhau i ymarfer, byddant yn destun camau gorfodi awdurdodau lleol.

Pobl, safleoedd a cherbydau: ymarferwyr neu fusnesau newydd

Bydd angen i unigolion sy’n ymarferwyr neu fusnesau newydd:

  • wneud cais am drwydded ar gyfer eu hunain
  • fod â thystysgrif gymeradwyo ar gyfer y safle neu cerbyd y byddant yn gweithredu ohono

Ni allant ddechrau ymarfer na defnyddio’r safle neu cerbyd i ddarparu triniaethau arbennig nes bod eu hawdurdod lleol wedi prosesu eu cais.

Pobl a cherbydau sy’n rhan o gynlluniau eraill yn y DU

Mae cynlluniau gweithdrefnau arbennig eraill sy’n cynnwys rheolau gwahanol ar waith yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a bwrdeistrefi Llundain. Rhaid i unrhyw un sydd wedi’i drwyddedu neu ei gofrestru rhywle arall gydymffurfio â rheolau Cymru.  Rhaid iddynt gael trwydded Gymreig a/neu dystysgrif cymeradwyo cerbyd cyn y gallant weithio yng Nghymru.

Dewis deiliad trwydded

Wrth ddewis artist tatŵ, neu ymarferydd aciwbigo, tyllu’r corff neu electrolysis, gwnewch yn siŵr:

  • bod ganddynt drwydded triniaeth arbennig
  • bod gan eu safle neu gerbyd dystysgrif gymeradwyo

Gallwch wirio hyn ar y gofrestr genedlaethol neu ofyn am gael gweld eu tystysgrif.

Arddangos trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo

Rhaid i ddeiliaid trwydded arddangos eu trwydded yn eu prif le gwaith neu wisgo eu trwydded laniard. Rhaid i safleoedd a cherbydau cymeradwy hefyd arddangos eu tystysgrif gymeradwyo.

Cofrestr genedlaethol

Mae cofrestr genedlaethol wedi’i chreu i roi cyhoeddusrwydd i bob deiliad trwydded ddilys yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys deiliaid tystysgrif safleoedd a cherbydau cymeradwy.

Nod y gofrestr yw rhoi hyder i’r cyhoedd bod pob unigolyn sy’n ymddangos ar y gofrestr wedi’i drwyddedu neu ei gymeradwyo i weithredu yng Nghymru.

Mae awdurdodau lleol yn diweddaru’r gofrestr hon wrth iddynt roi trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo.