Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: Cefnogi’r Sector Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu

Mae Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru yn gynllun ariannu i gefnogi twf amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy yn niwydiant bwyd môr Cymru ac annog cymunedau arfordirol Cymru i ffynnu.

Mae'r cynllun hwn wedi'i deilwra er mwyn cefnogi buddiannau Cymru yng chyd-destun newydd y Deyrnas Unedig a'r cyd-destun rhyngwladol. Mae cydbwysedd wedi’i daro rhwng parhad â thueddiadau’r gorffennol, rhywfaint o gysondeb â Gweinyddiaethau eraill y DU ac edrych ymlaen at fanteisio ar gyfleoedd newydd. Yn weithredol, bydd y cynllun yn hyblyg i ganiatáu i Lywodraeth Cymru addasu i flaenoriaethau sy'n newid gan hefyd symud ymlaen at gyflawni ein nodau strategol.  

Adran A: Nodau Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru

Bydd Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru ar gael ar gyfer ceisiadau am gyllid i hwyluso gweithgareddau sydd o fudd i Gymru a/neu barth morol Cymru. Mae'r cynllun ar gyfer unigolion a sefydliadau yn y sector breifat, y sector gyhoeddus a'r trydydd sector i gael cymorth ariannol.

Nodau'r cynllun yw:

  • Rhoi cyfle a hyblygrwydd i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ariannol dros ystod eang o feysydd pwnc o fewn sectorau morol, pysgodfeydd a dyframaethu Cymru.
  • Buddsoddi'n strategol er budd hirdymor y sectorau.
  • Addasu i heriau a chyfleoedd tymor byr.
  • Cefnogi ein cynhyrchwyr bwyd môr, ein cymunedau arfordirol a'r amgylchedd morol i ffynnu gyda'i gilydd.

Mae'r nodiadau cyfarwyddyd hyn yn cynnwys yr wybodaeth gyffredinol am Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru. Gan fod hwn yn gynllun amlflwydd, a fydd yn cynnwys sawl cylch a’i uchelgeisiau'n ymdrin ag ystod eang o bosibiliadau cyllid, mae'r manylion a ddarperir yn y ddogfen hon yn gwasanaethu fel canllawiau cyffredinol yn unig. Bydd canllawiau penodol ychwanegol pellach yn cael eu cyhoeddi ar gyfer pob cylch ariannu i'w darllen ar y cyd â'r nodiadau cyfarwyddyd cyffredinol hyn.

Darllenwch y ddogfen hon yn ofalus ynghyd â'r llyfryn canllaw penodol ar gyfer y cylch ariannu dan sylw. Os byddwch wedyn yn ystyried y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun hwn, gweler 'Gwneud cais am gyllid o dan WMFS' yn adran D y llyfryn hwn ar y cyd â’r llyfryn canllaw penodol ar gyfer y cylch ariannu.

Dyluniad y cynllun

Mae'r cynllun ei hun yn cynnwys Rheoliadau, sylfaen polisi eang a chylchoedd ariannu cyfnodol sy'n targedu amcanion polisi penodol. Y cylchoedd ariannu yw’r agwedd ddeinamig ar y cynllun. Mae'r cynllun yn defnyddio pwerau newydd i Weinidogion Cymru sydd yn Neddf Pysgodfeydd y DU 2020 ac mae'n gyson â'r fframwaith polisi newydd.

Mae'r cynllun wedi'i ddylunio fel hyn i sicrhau bod trefniadau ariannu Llywodraeth Cymru yn diogelu'r sector yn y dyfodol, ac i lywio'r newidiadau parhaus o fewn y diwydiannau Morol a Bwyd Môr o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae'r dull gweithredu hwn hefyd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â chanlyniadau anrhagweladwy pandemig Covid a digwyddiadau rhyngwladol aflonyddgar diweddar.

Mae polisi cyffredinol y cynllun yn manylu ar restr graidd o 18 o weithgareddau cyllid y gellir eu defnyddio'n unigol neu eu cyfuno i ffurfio'r sail ar gyfer cylch ariannu i fynd i'r afael â blaenoriaethau penodol o fewn y sector.

At ddibenion y canllawiau hyn, bydd y gweithgaredd neu'r gweithgareddau a ariennir gan gais yn cael eu cyfeirio atynt fel prosiect.

Gweithgareddau y gellir eu hariannu o dan y cynllun

  1. Gweithgareddau sy'n hyrwyddo arloesi.
  2. Gweithgareddau sy'n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
  3. Gweithgareddau sy'n hyrwyddo cyfalaf dynol, rhwydweithio.
  4. Gweithgareddau sy'n gwella hylendid, iechyd, diogelwch a llesiant.
  5. Gweithgareddau sy'n cefnogi busnesau i arallgyfeirio.
  6. Gweithgareddau sy'n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol andwyol.
  7. Gweithgareddau sy'n sefydlu neu'n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a dŵr croyw.
  8. Gweithgareddau sy'n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i'r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
  9. Gweithgareddau sy'n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
  10. Gweithgareddau sy'n cyfrannu at ddatblygu safleoedd dyframaethu yn gynaliadwy.
  11. Gweithgareddau sy'n cefnogi marchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
  12. Gweithgareddau sy'n arwain at gynhyrchion, prosesau neu systemau rheoli a threfniadaeth newydd neu well.
  13. Gweithgareddau sy'n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
  14. Gweithgareddau sy'n cyfrannu tuag at gadwraeth, adfer neu wella ecosystemau dyfrol a bioamrywiaeth.
  15. Gweithgareddau sy'n cyfrannu at ddylunio a gweithredu mesurau cadwraeth.
  16. Gweithgareddau sy'n cefnogi cynllunio gofodol morol ar gyfer defnyddio adnoddau morol ac arfordirol yn gynaliadwy.
  17. Gweithgareddau sy'n cyfrannu at liniaru’r newid yn yr hinsawdd neu ei effeithiau.
  18. Gweithgareddau sy'n cynnal neu'n gwella iechyd a lles anifeiliaid.

Cylchoedd Ariannu

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) fydd yn cyflenwi pob cylch ariannu a'i nod yw cyflawni amcanion polisi penodol.

Gall cylchoedd ariannu fod ar gyfer gweithgareddau penodol a diffiniedig iawn (er enghraifft cais cost safonol ar gyfer offer penodol) neu'n agored i ystod eang o weithgareddau i gyflawni amcan polisi penodol (er enghraifft proses ymgeisio dau gam). Bydd fformat y cylchoedd ariannu a'r meini prawf ymgeisio yn cael eu nodi yng nghanllawiau penodol y cylch ariannu.

Gallai cylchoedd ariannu sy'n mynd i'r afael ag amcanion polisi unigol neu amcanion polisi lluosog ariannu un neu fwy o weithgareddau o'r rhestr uchod. Y bwriad yw i'r amcan polisi i fod yn berthnasol i gymaint o weithgareddau ag sydd eu hangen. Er enghraifft, gallai cylch ariannu i fuddsoddi mewn busnesau dyframaethu cynaliadwy ariannu arloesedd, hyfforddiant a marchnata.

Mae nifer y cylchoedd ariannu a fydd yn agored ar unrhyw adeg yn ddarostyngedig i ddisgresiwn Gweinidogion Cymru. Gan fod amcan pob cylch ariannu yn gallu amrywio, byddai'r canlynol yn cael ei deilwra i amcan unigol y cylch ariannu:

  • Meini prawf cymhwystra
  • Cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad
  • Proses ymgeisio a meini prawf
  • Gofynion cydymffurfio
  • Hyd y cyfnod ymgeisio.

Bydd gan bob cylch ariannu ei amcanion polisi penodol, meini prawf cymhwystra ac amodau cyllido a fydd wedi'u nodi'n glir yn llyfryn canllaw penodol y cylch ariannu pan fydd y cyfnod ymgeisio yn agor. Pan fydd y cylchoedd ariannu dan y cynllun yn agor, bydd hynny’n cael ei hysbysebu'n briodol, er enghraifft, drwy wefan Llywodraeth Cymru, y cyfryngau cymdeithasol a thrwy rwydweithiau rhanddeiliaid.

Adran B: Cymhwystra

Pwy all wneud cais?

Yn ddibynnol ar nodau penodol y cylch ariannu, byddai'r meini prawf cymhwystra yn wahanol. Bydd angen i brosiectau fod mewn perthynas â Chymru neu Barth Cymru o Barth Economaidd Neilltuedig y DU (fel y'i diffinnir gan UNCLOS) neu gychod pysgota Cymru.

Bydd y manylion cymhwystra i'w gweld yn llyfryn canllaw penodol y cylch ariannu a fydd yn cael ei gyhoeddi pan fydd y cylch ariannu yn cael ei agor.

Pwy na fydd yn gallu gwneud cais?

Efallai y bydd gan bob cylch ariannu feini prawf anghymhwystra penodol ac ychwanegol i'r rhestr isod, a fydd yn cael eu nodi yn ei ganllawiau penodol.

Nid ydych yn gymwys i wneud cais am gyllid na'i dderbyn os ydych:

  • Wedi eich cael yn euog o dwyll o dan unrhyw gynllun grant arall
  • Wedi torri mesurau cadwraeth neu reoli yn ddifrifol o fewn y 12 mis blaenorol
  • Wedi eich rhestru gan Wladwriaeth y faner, y Blaid sy’n rhoi cymhorthdal, y Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO) neu Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol perthnasol, neu Drefniant ar gyfer pysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio (IUU) yn unol â rheolau a gweithdrefnau'r Wladwriaeth, y Blaid, y sefydliad, neu’r trefniant hwnnw ac yn unol â chyfraith ryngwladol; neu
  • Wedi eich cael yn euog o drosedd sy'n cael ei hystyried yn 'dor-cyfraith ddifrifol' (gan gynnwys unrhyw bysgota IUU neu dwyll anghyfreithlon), yn y 12 mis cyn gwneud cais.

Gweithgareddau cymwys

Bydd hyn yn benodol i bob cylch ariannu.

Gweithgareddau anghymwys

Ni fydd y gweithgareddau a ganlyn yn gymwys am gyllid o dan Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru:

  • Unrhyw beth sy'n effeithio'n negyddol ar stociau pysgod sydd mewn cyflwr o orbysgota
  • Gweithgareddau a fyddai'n effeithio'n negyddol ar orbysgota stociau pysgod
  • Gweithrediadau sy'n cynyddu capasiti pysgota llong bysgota, neu ar gyfer offer sy'n cynyddu gallu llong bysgota i ddod o hyd i bysgod, ac eithrio lle maen nhw'n diwallu nodau polisi cyhoeddus cyfreithlon megis gwella diogelwch neu gynaliadwyedd
  • Pysgota am stociau pysgod a reolir gan Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol neu Drefniant nad yw'r DU yn aelod ohonynt, neu’n wlad nad yw’n aelod cydweithredol o'r Sefydliad neu'r Trefniant hwnnw
  • Pysgota neu weithgareddau sy’n ymwneud â physgota a gynhelir heb ganiatâd Gwladwriaeth y faner lle bo angen ac, os yn gweithredu yn nyfroedd Gwladwriaeth arall, heb ganiatâd y Wladwriaeth honno
  • Llongau pysgota sy'n mewnforio
  • Trosglwyddo cychod pysgota o Gymru i Wladwriaethau eraill, gan gynnwys drwy greu mentrau ar y cyd
  • Cynyddu capasiti mannau dal pysgod ar longau pysgota trwyddedig
  • Pysgota archwiliadol,
  • Treillrwydo â phwls
  • Yr un math o offer ar gyfer yr un cwch os ydych eisoes wedi cael cymorth drwy'r cynllun
  • Trosglwyddo perchnogaeth o fusnes,
  • Ailstocio uniongyrchol oni bai y darperir yn benodol ar ei gyfer fel mesur cadwraeth neu yn achos ailstocio arbrofol
  • Ymgymeriadau statudol neu orfodol – ni ellir ariannu eitemau na gwasanaethau sy'n ofynion statudol neu orfodol o'r gyfraith ac is-ddeddfau
  • Costau ataliol neu gynnal a chadw wedi'u trefnu
  • Costau cynnal a chadw a chostau gorfodol unrhyw gerbydau
  • Prynu neu brydlesu cerbydau nad ydynt yn cael eu defnyddio'n unig i gyfrannu’n uniongyrchol at y prosiect
  • Llog ar ddyled
  • Prynu tir neu dai sy'n werth mwy na 10% o gyfanswm gwariant eich prosiect
  • Costau gweithredu eich busnes
  • Ad-daliadau benthyciadau ar unrhyw eitem(au) rydych chi wedi'u prynu
  • Costau unrhyw eitem(au) a brynwyd gyda benthyciad tan y caiff y benthyciad ei ad-dalu (nid yw hyn yn cynnwys eitemau ar brydles os yw eich llythyr cynnig yn caniatáu arian ar eu cyfer)
  • Unrhyw gostau sydd wedi eu hariannu'n llawn neu'n rhannol drwy grant amgen
  • Unrhyw gostau y gallech eu hadennill yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy wneud hawliad ar bolisi yswiriant neu drwy geisio am ddigollediad neu iawndal
  • Cost am unrhyw eitemau a brynwyd cyn cael cydnabyddiaeth bod eich cais am gyllid wedi’i dderbyn gan RPW.

Efallai y bydd gan bob cylch ariannu weithgareddau anghymwys ychwanegol i'r rhai a restrir uchod, a fydd yn cael eu nodi yn ei ganllawiau penodol.

Adran C: Cyfradd Ymyrraeth

Eich cyfrifoldeb chi yw cael gafael ar arian cyfatebol a'i ddarparu, fel benthyciadau busnes neu adnoddau arian parod. Bydd angen tystiolaeth o'r ffynhonnell gyllid hon fel rhan o'r broses ymgeisio.

Mae'r gyfradd ymyrraeth yn ddibynnol ar eich math o fusnes neu sefydliad fel y manylir yn y tabl isod gyda'r gyfradd uchaf wedi'i rhestru.

 

Ymgeisydd/Math o Brosiect

Y gyfradd ymyrraeth uchaf

BBaCh preifat (endid micro)

Busnes sydd ag unrhyw ddwy o'r nodweddion canlynol yw endid micro: a) trosiant o £632,000 neu lai; b) £316,000 neu lai ar ei fantolen; neu c) 10 gweithiwr neu lai ar adeg y cais.

 

80%

BBaCh preifat (BBaCh nad yw'n endid micro)

Busnes sydd ag unrhyw ddwy o'r nodweddion canlynol yw BBaCh: a) trosiant o lai na £36 miliwn; b) £18 miliwn neu lai ar ei fantolen; ac c) 250 o weithwyr neu lai ar adeg y cais.

 

50%

Preifat (Busnes nad yw’n BBaCh)30%
Preifat – sefydliadau defnyddwyr morol sy'n gweithredu mewn modd cyfunol (ee sefydliadau cynhyrchwyr a chymdeithasau pysgotwyr etc)75%
Cyrff cyhoeddus100%
Prosiectau o fudd cyhoeddus drwy rannu canlyniadau. Gallai enghreifftiau o fudd cyhoeddus gynnwys prosiectau sy'n cyfrannu at uchelgais 2050 Cymru Sero Net a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.  Gallai hyn olygu cydweithio rhwng cyrff cyfraith gyhoeddus, endidau preifat, cyrff trydydd sector, etc.

 

100%

Cydymffurfio â Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymorthdaliadau

Ers gadael awdurdodaeth reoleiddio'r UE, mae gwariant ar bysgodfeydd a'r rhan fwyaf o bynciau cysylltiedig wedi gorfod cydymffurfio â chytundeb Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar gymorthdaliadau a mesurau gwrthbwysol (ASCM) a rhwymedigaethau'r DU o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE (TCA).

Cafodd Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022. Bydd hyn yn gosod y rheolau ar gyfer cymorthdaliadau pan ddaw i rym.

Fe wnaeth yr WTO gytundeb newydd i wahardd rhai cymorthdaliadau ar gyfer pysgota ym mis Mehefin 2022. Pan fydd mewn grym ni fydd Llywodraeth Cymru'n gallu rhoi arian ar gyfer pysgota stociau sy'n cael eu gorbysgota. Mae cymorthdaliadau ar gyfer unrhyw un y canfyddir eu bod yn pysgota mewn ffordd IUU wedi’u gwahardd.

Mae gofynion adrodd tryloywder gwahanol i WTO, y Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau, cytundebau rhyngwladol eraill megis y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a phob cytundeb masnach. Efallai y bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi ar gofrestr o'r sawl sy'n derbyn cyllid cyhoeddus os yw'r cyllid yn bodloni'r meini prawf i’w datgelu i’r cyhoedd.

Adran D: Gwneud cais am gyllid o dan WMFS

Taliadau Gwledig Cymru fydd yn prosesu ceisiadau ar gyfer yr WMFS.

Bydd pob cylch ariannu yn nodi ei broses ymgeisio yn ei ganllawiau.

RPW Ar-lein

Er mwyn gwneud cais i unrhyw gylch ariannu Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru, bydd angen cofrestru ar Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.  Os oes gennych eisoes Gyfeirnod y Cwsmer (CRN) dylech fod wedi derbyn llythyr yn nodi eich Cod Actifadu i sefydlu eich cyfrif. Os nad oes gennych hyn mwyach, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (dydd Llun i dydd Gwener 9:00 – 16:00) a dweud wrth y gweithredwr eich CRN.  Bydd yn anfon Cod Actifadu newydd atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gofrestru ar-lein. Cyfeiriwch at ganllawiau RPW Ar-lein: Sut i gofrestru am ragor o fanylion. Mae modd gwneud y rhan helaeth o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Ond mae'n bosib y bydd angen rhagor o fanylion ar Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Ar ôl cofrestru, gallwch gael mynediad i'ch cyfrif RPW Ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cofrestru ar gyfer RPW Ar-lein neu am gwblhau eich cais, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Bydd yn gallu rhoi cyngor, gan gynnwys y cymorth digidol sydd ar gael i chi.

Mae manylion pellach am RPW Ar-lein ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Byddwch yn cael gwybod p'un a yw eich datganiad o ddiddordeb a/neu gais (ar gyfer pob cam) wedi'i ddewis ai peidio drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Adran E: Amodau’r Grantiau

Caiff amodau'r grantiau eu nodi ym mhob llyfryn penodol y cylchoedd ariannu.

Adran F: Cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Gellir cyflwyno ymholiadau drwy RPW Ar-lein unrhyw bryd.

Mynediad i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol

Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol nad ydych yn teimlo sy'n cael eu diwallu gan ein cyfleusterau, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Yna bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i wneud trefniadau i ateb eich gofynion.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Gwefan Llywodraeth Cymru

Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf am y Môr a Physgodfeydd i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.