Neidio i'r prif gynnwy

Costau prosiect uwch

Ar 22 Gorffennaf, mabwysiadodd Senedd a Chyngor Ewrop y mesurau argyfwng a gynigiwyd gan y Comisiwn ar 13 Ebrill a gwnaethant ddarparu hyblygrwydd ychwanegol o dan EMFF i gefnogi'r sectorau pysgodfeydd a dyframaethu y mae’r gwrthdaro yn Wcráin wedi effeithio'n ddifrifol ar eu gweithgarwch.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai'r buddiolwyr fod yn profi oedi a/neu gostau prosiect uwch oherwydd aflonyddwch ar y farchnad/masnach a achosir gan y gwrthdaro hwn. Mae cyfradd gyfnewid diweddaraf yr ewro: sterling wedi cynyddu cronfeydd yr UE sydd ar gael yn y rhaglen ac felly, mewn ymateb i aflonyddwch ar y farchnad/masnach a chostau uwch, gall Taliadau Gwledig Cymru (RPW) nawr ystyried ailwerthuso cyllid grant a gymeradwywyd yn flaenorol lle mae costau'r prosiect wedi cynyddu o ganlyniad i'r gwrthdaro.

I ofyn am gynnydd mewn cyllid grant, anfonwch e-bost i Flwch Post EMFF  emffcommunications@llyw.cymru  a gofyn am ffurflen ailwerthuso prosiect.

Ceisiadau i estyn y dyddiad hawlio terfynol y tu hwnt i 30 Mehefin 2023

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod oherwydd amodau presennol y farchnad ac effeithiau tymor hwy pandemig Covid-19, y gallai'r buddiolwyr hefyd fod yn gweld oedi wrth gyflawni a chwblhau prosiectau. Mewn ymateb i hyn, bydd RPW yn ystyried unrhyw geisiadau am estyniad i'r dyddiad hawlio terfynol o 30 Mehefin 2023 i 30 Medi 2023.

Sylwch, rhaid i holl wariant y prosiect gael ei ysgwyddo a'i dystiolaethu erbyn y dyddiad hawlio terfynol a gymeradwywyd ar gyfer eich prosiect.

I ofyn am estyniad i brosiect, anfonwch e-bost i Flwch Post EMFF  emffcommunications@llyw.cymru a gofyn am ffurflen ailwerthuso prosiect.

Rheolau Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus – Gwrthdaro Buddiannau

Rhaid i brosiectau ddilyn arferion agored a theg wrth brynu unrhyw nwyddau a/neu wasanaethau, mewn perthynas â'r holl eitemau sy'n cael eu hariannu gan grant.

Rhaid esbonio unrhyw wrthdaro buddiannau tybiedig neu gwirioneddol rhyngoch chi a'r cyflenwyr sy'n darparu dyfynbrisiau, er enghraifft cyrchu dyfynbrisiau gan gwmnïau cysylltiedig, yn y dogfennau tendro cystadleuol ategol. Lle gall gwrthdaro fodoli, rhaid cymryd camau lliniarol a'u dogfennu. Gall methu â chydymffurfio arwain at gosbau ariannol.

Mae manylion llawn y prosesau a’r dystiolaeth sy’n ofynnol i’w gweld yn Rhaglen Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014 i 2020: canllaw technegol i dendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus.

Dangosyddion Canlyniadau Prosiect

Mae Rhaglen Weithredol EMFF yn gosod y Dangosyddion Allbynnau a Chanlyniadau y mae disgwyl i brosiectau a gefnogir adrodd yn eu herbyn.

Disgrifir y Dangosyddion Canlyniadau a'u gofynion tystiolaeth yn Nodiadau Canllaw'r Cynllun ar gyfer pob mesur ac maent wedi'u cynllunio i ddangos y manteision neu'r effeithiau sy'n deillio o bob prosiect a gefnogir.

Rhaid i bob buddiolwr sy'n derbyn cyllid grant EMFF ddarparu tystiolaeth i gefnogi'r targedau 'Dangosyddion Canlyniadau' sy'n berthnasol i'w prosiect, a bydd RPW yn cysylltu â buddiolwyr prosiect yn uniongyrchol ar gyfer y dystiolaeth sydd ei angen.

Y ganolfan gyswllt i gwsmeriaid

Mae Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar gael i’ch helpu ac i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am eich prosiect. Mae’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar agor fel a ganlyn:

Cyfnod

Oriau agor

Dydd Llun i ddydd Gwener

9am tan 4pm

Lle bo'n bosibl, dylid cyflwyno ymholiadau arferol am brosiect drwy eich cyfrif RPW ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyfnod y Nadolig

Ni fydd y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn derbyn galwadau ffôn rhwng 26 Rhagfyr a 2 Ionawr 2023. Fodd bynnag, gallwch barhau i gyflwyno ymholiadau drwy eich cyfrifon RPW ar-lein yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.

Dyddiadau cyhoeddi

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Rhagfyr 2022

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Rhagfyr 2022