Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Gallwch drosglwyddo hawliau BPS trwy eu Gwerthu, eu Lesio neu drwy Ewyllys, a gallwch eu trosglwyddo heb dir neu â thir.

Wrth Drosglwyddo Hawliau trwy eu Gwerthu neu eu Lesio, rhaid i’r sawl sy’n cael yr hawliau fodloni’r gofynion Ffermwyr Actif, fel y’u diwygiwyd o 2021, adeg eu trosglwyddo.  Nid oes angen bodloni’r gofynion Ffermwr Actif os ydy’r hawliau’n cael eu trosglwyddo trwy Ewyllys.

Gallwch lesio neu fod yn berchen ar hawliau unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ond os gwnaethoch sefydlu’ch hawliau yng Nghymru, Lloegr yr Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid eu defnyddio i hawlio taliad yn y wlad honno (neu ranbarth o fewn y wlad honno).

Sut i roi gwybod i Lywodraeth Cymru eich bod yn Trosglwyddo Hawliau

Rhaid rhoi gwybod ar-lein bod Hawliau’n cael eu Trosglwyddo, a hynny trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein.  Os nad ydych wedi cofrestru eto gydag RPW Ar-lein, cyfeiriwch at wefan Llywodraeth Cymru i sut i gofrestru canllawiau neu cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.  Os nad oes gennych god defnyddio, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriad.

Bydd Llywodraeth Cymru wedi cynnal archwiliad i weld a ydy’r trosglwyddiad yn ddilys, cyn gwrthod neu ganiatáu’r cais.

Y sawl sy’n gwerthu neu’n rhoi’r hawliau ar les sydd i gyflwyno’r hysbysiad.  Os ydych yn defnyddio Asiant neu Arwerthwr i drosglwyddo hawliau a’ch bod am iddo allu rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, bydd angen ichi gadarnhau trwy’ch cyfrif RPW ar-lein eich bod wedi rhoi caniatâd iddo wneud hynny.  Y rolau sydd eu hangen arnyn nhw i allu cyflwyno’r hysbysiad yw “Rheoli Hawliau”; “Cwblhau Cais”  a “Cyflwyno Hawliadau”.  Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael gwybodaeth am y rolau ar-lein a sut i’w creu: www.llyw.cymru/rpwarlein

Y Gofynion o ran bod yn Ffermwr Actif

Rhaid i’r sawl sy’n derbyn yr hawliau fod yn ffermwr a bodloni’r gofynion Ffermwr Actif fel y’u diwygiwyd o 2021 adeg trosglwyddo’r hawliau.  Nid oes yn rhaid bodloni’r gofynion  Ffermwr Actif fel y’u diwygiwyd o 2021 os ydy’r hawliau’n cael eu trosglwyddo iddo trwy Ewyllys.

Os oedd y sawl sy’n derbyn yr hawliau’n bodloni’r diffiniad o ffermwr ac yn bodloni’r gofynion Ffermwr Actif fel y’u diwygiwyd o 2021 ar gyfer cynllun 2023, at ddibenion prosesu’r trosglwyddiad, roedd yn bodloni’r gofynion hynny ar ddyddiad trosglwyddo’r hawliau.  Fodd bynnag, os bydd ei amgylchiadau o ran y gofynion Ffermwr Actif fel y’u diwygiwyd o 2021 wedi newid ers cyflwyno SAF 2023, dylai roi gwybod inni’n ysgrifenedig am y newid.  Byddwn yn archwilio ei SAF 2024 i wneud yn siŵr ei fod yn dal i fodloni’r diffiniad o ffermwr a’r gofynion Ffermwr Actif fel y’u diwygiwyd o 2021.

Os na wnaeth derbynnydd yr hawliau gyflwyno SAF 2023 neu os nad yw’n bodloni’r diffiniad o ffermwr neu’r gofynion Ffermwr Actif fel y’u diwygiwyd o 2021, fel rhan o’r broses ddilysu ar gyfer trosglwyddo hawliau caiff ffurflen Ffermwr Actif ei hanfon ato.

Os gwelir nad yw derbynnydd yr hawliau (eu gwerthu neu eu lesio iddo) yn bodloni’r gofynion Ffermwr Actif fel y’u diwygiwyd o 2021, ni fydd y trosglwyddiad yn ddilys.  Caiff yr hawliau eu rhoi yn ôl i drosglwyddwr yr hawliau a chyfrifoldeb hwnnw fydd bodloni gofynion defnyddio’r hawliau.  O beidio â gwneud, caiff yr hawliau eu trosglwyddo i’r Gronfa Genedlaethol.

I gael rhagor o fanylion am y diffiniad o ffermwr a’r gofynion Ffermwr Actif, darllenwch Lyfryn Rheolau'r SAF.

Y cyfnod hysbysu

Mae’r cyfleuster hysbysu am drosglwyddo hawliau ar gyfer 2024 ar gael nawr ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gael gwybod erbyn 15/05/2024 os yw’r sawl sy’n eu derbyn am hawlio taliad arnyn nhw ym mlwyddyn 2024 y cynllun. 

Rheolau defnyddio’r BPS

Mae holl hawliau’r BPS, gan gynnwys y rheini o’r Gronfa Genedlaethol, yn gorfod bodloni’r rheolau defnyddio dwy flynedd.

Am ragor o fanylion ynghylch y rheolau defnyddio, darllenwch Lyfryn Rheolau SAF  ar https://llyw.cymru/ffurflen-cais-sengl.

Tystiolaeth ddogfennol

Os ydy’r hawliau’n cael eu trosglwyddo trwy ewyllys, rhaid ichi ddarparu tystiolaeth ddogfennol os nad ydych eisoes wedi gwneud.  Er enghraifft, Grant Profiant gyda chopi o’r ewyllys neu dystiolaeth bod yr hawliau wedi’u trosglwyddo ar ôl marwolaeth heb ewyllys.

Ildio hawliau

Cewch ildio’ch hawliau unrhyw bryd, er enghraifft, os ydych wedi rhoi’r gorau i ffermio.  Os ydych am ildio’ch hawliau, defnyddiwch eich cyfrif RPW Ar-lein neu ysgrifennwch at y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid gan roi’r manylion ac esbonio beth ydych am ei ildio.

Estyn/dod â chytundeb y les i ben

Ar ddiwedd cytundeb lesio, bydd yr hawliau’n mynd yn ôl i’r sawl wnaeth eu rhoi ar les.

Os daw’r les i ben yn gynnar neu os ydych am ei hestyn, rhaid i’r sawl sy’n rhoi’r hawliau ar les roi gwybod i’r RPW am hynny trwy ei gyfrif RPW Ar-lein neu drwy ysgrifennu at y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Pan ddaw’r cytundeb lesio hawliau i ben, caiff yr hawliau BPS fynd yn ôl i’r sawl wnaeth eu rhoi ar les cyn belled â’i fod yn ffermwr actif.  Os bydd am gynnal gweithgareddau ffermio, gall gyflwyno Ffurflen Cais Sengl er mwyn cael defnyddio’r Hawliau BPS hynny i hawlio taliad.

Os nad yw’r sawl wnaeth roi’r hawliau ar les yn ffermwr actif, bydd yr hawliau’n mynd i’r Gronfa Genedlaethol ar ddiwedd y les.

Os na chaiff yr Hawliau BPS eu defnyddio o leiaf unwaith mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd ar ôl diwedd y les, cymerir yr Hawliau BPS neu rai ohonyn nhw a’u rhoi i’r Gronfa Genedlaethol.  Cymerir y rhai rhataf gyntaf.

Tynnu hysbysiad yn ôl

Os bydd trosglwyddwr yr hawliau (gwerthu neu lesio) am dynnu’r cais i drosglwyddo’r hawliau yn ôl, neu newid y cais hwnnw, caiff wneud hynny, cyn belled nad yw’r trosglwyddiad wedi’i gadarnhau.

I wneud hynny, bydd angen Cyfeirnod y Cwsmer (CRN), manylion yr hawliau sy’n cael eu trosglwyddo a’r newidiadau i’r manylion hynny, neu rhaid dweud yn glir ei fod am dynnu’r cais yn ôl.

Os daw’r cais ar ôl trosglwyddo’r hawliau, ni fyddwn yn gallu atal y trosglwyddiad. 

Adfer hawliau sydd wedi’u trosglwyddo ar gam

Bydd yn rhaid ichi ildio hawliau BPS sydd wedi’u trosglwyddo ichi os:

  • Na ddylai’r hawliau fod wedi’u trosglwyddo yn y lle cyntaf, e.e. nid yw’r ffermwr sy’n trosglwyddo wedi defnyddio’i holl Hawliau BPS o leiaf unwaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf;
  • Ydy archwiliadau’n dangos bod y ffermwr a drosglwyddodd yr hawliau ichi heb gydymffurfio â rheolau’r cynllun BPS, gan gynnwys heb gynnal digon o weithgareddau ffermio neu fethu’r prawf ffermwr actif.

Bydd gofyn i’r ffermwr sy’n derbyn yr hawliau dalu yn ôl unrhyw arian a gafodd ar yr hawliau pan oedden nhw yn ei feddiant.

Os ydych yn lesio hawliau i ffermwr arall ac os nad yw’r ffermwr hwnnw wedi cadw at y rheolau defnyddio gyda’r hawliau hyn, caiff yr hawliau eu cymryd oddi arno a’u rhoi i’r Gronfa Genedlaethol.  Rhoddir y rhataf gyntaf.  Ni fydd yr Hawliau BPS hynny ar gael i’w rhoi yn ôl i’r sawl wnaeth eu rhoi ar les.

Os ydych yn ystyried trosglwyddo hawliau, rydyn ni’n eich cynghori i ofyn barn broffesiynol annibynnol ynghylch sut orau i ddiogelu’ch hunan yn y math hwn o sefyllfa.

Trefniant preifat rhwng dau ffermwr yw trosglwyddiad.  Nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golledion a ddaw i ran y sawl sy’n trosglwyddo neu sy’n derbyn hawliau.

Cadarnhad

Caiff llythyr ei anfon at y trosglwyddwr a’r derbynnydd i gadarnhau bod yr hawliau wedi’u trosglwyddo.

Trefn apelio

Mae’r “Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig” yn caniatáu i chi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud  y penderfyniad cywir.  

Mae dwy ran i’r broses apelio:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb i Gam 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond codir am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Caiff yr apelydd ei ad-dalu’n llawn os bydd Cam 2 yr apêl naill ai’n llwyddiannus neu rannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg.  Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllaw.

Y Drefn Gwyno

Byddwn yn delio â chwynion yn unol â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu

Y Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gallwch gysylltu hefyd â:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: www.ombwdsmon-cymru.org.uk

Cysylltiadau

RPW Ar-lein

Cysylltwch â gwasanaeth RPW Ar-lein drwy Borth y Llywodraeth sef www.gateway.gov.uk, neu os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer RPW Ar-lein, ewch i www.llyw.cymru/RPWArlein. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio RPW Ar-lein ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.

Ymholiadau – y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Croeso ichi ofyn eich cwestiwn trwy RPW Ar-lein unrhyw bryd.

Mynediad at swyddfeydd Taliadau Gwledig Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn ateb eich gofynion, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I weld yr wybodaeth ddiweddaraf am amaethyddiaeth a materion gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn: www.llyw.cymru/ffermio. Bydd cyfle ichi gofrestru arni am daflen e-newyddion Gwlad.