Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn gweithio gyda mudiadau gwirfoddol, yn eu cynorthwyo a’u hariannu.

Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ionawr 2014

1. Cyflwyniad

Y sefyllfa statudol

Gwneir y Cynllun hwn o dan Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud cynllun sy’n amlinellu sut maent yn bwriadu hybu, wrth gyflawni eu swyddogaethau, fuddiannau mudiadau gwirfoddol perthnasol. Dangosir Adran 74 isod. Mae’r Cynllun hwn yn defnyddio’r term “trydydd sector” yn hytrach na sector gwirfoddol a “chynllun y trydydd sector” yn hytrach na chynllun y sector gwirfoddol.

Section 74

  1. The Welsh Ministers must make a scheme (“the voluntary sector scheme”) setting out how they propose, in the exercise of their functions, to promote the interests of relevant voluntary organisations.
  2. In this section “relevant voluntary organisations’’ means bodies (other than local authorities or other public bodies) whose activities:
    1. are carried on otherwise than for profit, and
    2. directly or indirectly benefit the whole or any part of Wales (whether or not they also benefit any other area).
  3. In determining the provision to be included in the voluntary sector scheme, the Welsh Ministers must consider how they intend to exercise such of their functions as relate to matters affecting, or of concern to, relevant voluntary organisations.
  4. The voluntary sector scheme must specify:
    1. how the Welsh Ministers propose to provide assistance to relevant voluntary organisations (whether by grants, loans, guarantees or any other means),
    2. how the Welsh Ministers propose to monitor the use made of any assistance provided by them to relevant voluntary organisations, and
    3. how the Welsh Ministers propose to consult relevant voluntary organisations about the exercise of such of their functions as relate to matters affecting, or of concern to, such organisations
  5. The Welsh Ministers:
    1. must keep the voluntary sector scheme under review, and
    2. may from time to time remake or revise it.
  6. Before making, remaking or revising the voluntary sector scheme, the Welsh Ministers must consult such relevant voluntary organisations as they consider appropriate.
  7. The Welsh Ministers must publish the voluntary sector scheme when they make it and whenever they remake it; and, if they revise the scheme without remaking it, they must publish either the revisions or the scheme as revised (as they consider appropriate).
  8. If the Welsh Ministers publish a scheme or revisions under subsection (7) they must lay a copy of the scheme or revisions before the Assembly.
  9. After each financial year the Welsh Ministers must:
    1. publish a report of how the proposals set out in the voluntary sector scheme were implemented in that financial year, and
    2. lay a copy of the report before the Assembly.

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud Cynllun. Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ddatganiad o fwriad Gweinidogion Cymru i ddatblygu eu perthynas â’r Trydydd Sector ac nid yw Deddf 2006 yn datgan bod ganddo unrhyw effaith rwymol. Efallai y bydd amgylchiadau pan na ellir cyflawni’r bwriadau.

Cafodd y Cynllun ei ddiwygio’n ffurfiol ddiwethaf yn 2004. Yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru; Parhad a Newid: Adnewyddu’r Berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru, (Mai-Awst 2013); cafodd y Cynllun hwn a’i Atodiadau eu diwygio i ddiweddaru’r fframwaith polisi sy’n sail i’r berthynas hon.

Mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl i bob aelod o’r Cabinet, Dirprwy Weinidog a swyddog hybu buddiannau’r Trydydd Sector yn eu gwaith a’u prosesau penderfynu, a byddant yn:

  • Cynnal trefniadau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon â’r Trydydd Sector (Pennod 3)
  • Cynnal trefniadau ar gyfer cynnal cymunedau a gwirfoddolwyr (Pennod 4)
  • Cynnal trefniadau i gynnal seilweithiau sy’n galluogi’r Trydydd Sector i ffynnu (Pennod 5)
  • Ymdrechu i lynu wrth y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector a geir fel Atodiad i’r Cynllun hwn
     

Y cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yn rhaid i’w fframwaith polisi Trydydd Sector gynnwys mesurau i gynorthwyo’r sector fel yr amlinellwyd yn is-adran (4) (a) y ddeddfwriaeth uchod. Bydd lefel yr adnoddau ariannol a fydd ar gael yn penderfynu faint o gymorth o’r fath y gellir ei ddarparu ar ffurf grantiau ac ati, a bydd angen i gronfeydd gael eu targedu yn ôl blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod ei rôl i sicrhau bod gan y Trydydd Sector fynediad teg a rhesymol at arian cyhoeddus.

Yn ei holl swyddogaethau, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu a chynnal gweithdrefnau i sicrhau arferion gorau cydnabyddedig wrth weinyddu ei chynlluniau grant a rhai'r asiantaethau hynny sy’n gweinyddu cronfeydd ar ei rhan.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal, yn defnyddio, ac yn hyrwyddo’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn Atodiad A, sy’n amlinellu’r prif egwyddorion a fydd yn sail i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Trydydd Sector yn ogystal â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn disgwyl ei gael yn ôl gan y Trydydd Sector.

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector a’r telerau ac amodau’n cael eu cyhoeddi ar yr adeg pan wneir y grant ac mae’n egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro’r defnydd a wneir o unrhyw gymorth a roddir ganddi i fudiadau perthnasol.

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn cael ei fonitro gan Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn rhan anhepgor o’r Cynllun. Oherwydd hynny, os caiff y Cod ei ail lunio neu ei ddiwygio rhaid gwneud hynny’n unol â gofynion statudol adran 74.

Diffinio’r Trydydd Sector

Mae Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel yr amlinellwyd ym Mhennod Un uchod) yn diffinio ‘relevant voluntary organisations’ fel:

…bodies other than local authorities (or other public bodies) whose activities:

  • are carried on otherwise than for profit, and
  • directly or indirectly benefit the whole or any part of Wales (whether or not they also benefit any other area

Mae ‘y Trydydd Sector’ yn cael ei ddefnyddio yn y Cynllun hwn a chan Lywodraeth Cymru fel disgrifiad cynhwysol ac eang iawn o ystod o fudiadau sy’n rhannu cyfres o werthoedd a nodweddion. Cydnabyddir yn gyffredinol bod mudiadau Trydydd Sector:

  • yn gyrff annibynnol, anllywodraethol
  • wedi eu sefydlu’n wirfoddol gan bobl sy’n dewis trefnu eu hunain; yn cael eu ‘gyrru gan werth’ a’u cymell gan amcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol, yn hytrach na gwneud elw’n unig
  • wedi ymrwymo i ail-fuddsoddi eu gweddill ariannol i hybu eu nodau cymdeithasol er budd pobl a chymunedau yng Nghymru

Hyd yn oed gyda’r ymagwedd hon sy’n seiliedig ar werthoedd cyffredin, mae ystod eang o fudiadau sy’n rhan o’r Trydydd Sector, gan gynnwys cymdeithasau cymunedol, grwpiau hunangymorth, mudiadau gwirfoddol, elusennau, mudiadau ffydd, mentrau cymdeithasol, busnesau cymunedol, cymdeithasau tai, ymddiriedolaethau datblygu, mudiadau cydweithredol a chydfuddiannol.

Mae Almanac Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 2013 yn dangos bod y Trydydd Sector yng Nghymru yn cynnwys:

  • 33,000 o fudiadau
  • 230,000 o ymddiriedolwyr
  • 1.13m o wirfoddolwyr a phobl sy’n helpu yn eu cymuned 51,000 o gyflogeion
  • 1.15    Mae ymchwil gan WCVA yn dangos bod incwm y Trydydd Sector yn
  • £1.6 biliwn yn 2013, a’i fod yn cael ei ategu gan 2.4% o gyllideb Llywodraeth Cymru

Mae strwythurau, ffurfiau a hunaniaeth gyfreithiol mudiadau Trydydd Sector hefyd yn amrywio’n sylweddol. Maent yn cynnwys mudiadau anghorfforedig, elusennau cofrestredig ac anghofrestredig, cwmnïau cyfyngedig drwy warant (a all fod yn elusennau cofrestredig hefyd), a chwmnïau buddiannau cymunedol, mudiadau elusennol corfforedig a Chymdeithasau Diwydiannol a Darbodus.

Er bod mudiadau unigol yn galw eu hunain yn fudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol, mae’r gwahaniaeth rhwng categorïau o’r fath yn aml yn amwys ac mae dadl gref o hyd dros edrych arnynt gyda’i gilydd fel Trydydd Sector sy’n gwneud cyfraniad hynod bwysig at fywyd Cymru.

2. Perthynas

Gwerthoedd a diben cyffredin

Mae gan Lywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector nifer o werthoedd cyffredin yn ymwneud â rôl unigolion a chymunedau mewn democratiaeth fodern, a fydd yn sail i holl agweddau’r Cynllun hwn. Mae’r gwerthoedd hyn yn ymwneud â chymdeithas:

  • sy'n sicrhau nad yw pobl yn cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd rhyw, hil, ffydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, beichiogrwydd a mamolaeth, neu oherwydd eu bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, yn anabl neu’n drawsrywiol
  • sy’n gynhwysol ac yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu at ei holl weithgarwch economaidd, cymdeithasol a diwylliannol
  • sy'n grymuso pobl i gyfrannu at y broses o ddatblygu eu cymunedau, ac yn cydnabod gwerth cyfraniad o’r fath
  • sy’n dibynnu ar gyfraniad gwirfoddol pobl i feithrin arweiniad cymunedol a gwella democratiaeth leol
  • sy’n cynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n ategu ei gilydd ac yn ceisio mynd i'r afael â materion cymdeithasol gyda’i gilydd mewn ysbryd o bartneriaeth
  • sy'n elwa ar amgylchedd iach ac economi gystadleuol lewyrchus, ynghyd â bywyd cymunedol bywiog, yn sgil ei hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy

Mae Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yn cydnabod yr heriau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu. Mae gofynion a disgwyliadau’n cynyddu, ac mae mwy a mwy o bwysau ar arian cyhoeddus. Felly mae ein gwasanaethau ataliol a chymunedol yn bwysicach nag erioed. Rydym yn sylweddoli na all y wladwriaeth ar ei phen ei hun sicrhau ansawdd bywyd, ac mae angen i ni fanteisio ar waith gwirfoddol a gweithredu cymunedol ac adeiladu ar hynny, a helpu cymunedau i fod yn gadarn ar lefel y gymdogaeth leol.

Rydym yn credu y gall y Trydydd Sector helpu i drawsnewid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn bodloni gofynion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, drwy drin pobl a chymunedau fel asedau ac yn gyfartal wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, nid dim ond fel derbynwyr gwasanaethau. Mae rhai pobl yn disgrifio hyn fel ‘cydgynhyrchu’, ac mae’n golygu datblygu gwasanaethau o amgylch yr unigolyn a’r gymuned a rhyddhau adnoddau posibl fel amser, arian ac arbenigedd i'w defnyddio ar y cyd â chymorth gan y wladwriaeth, nid yn lle'r cymorth hwnnw. Mae adnoddau’n cael llawer mwy o effaith wrth eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol a newydd sy’n cryfhau unigolion a chymunedau. Drwy'r Cynllun hwn byddwn yn gwneud yn siŵr bod y trefniadau ar gyfer gweithio gyda’r Trydydd Sector, ac ar gyfer cynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn ategu agwedd newydd at wasanaethau cyhoeddus sy’n seiliedig ar gydgynhyrchu.

Natur y berthynas

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydnabod a hybu’r Trydydd Sector. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r Trydydd Sector am y cyfraniad mae’r sector yn ei wneud at les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hirdymor Cymru, ei phobl a’i chymunedau.

Rhaid i’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector fod yn seiliedig ar onestrwydd, ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weld y berthynas hollbwysig hon sydd wedi datblygu dros gyfnod hir yn aeddfedu, er lles pobl a chymunedau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i weithio mewn partneriaeth â’r Trydydd Sector yn ogystal â gwasanaethau a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Rhaid i bartneriaethau effeithiol fod yn seiliedig ar werthfawrogiad o gyfraniad unigryw pob parti.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd y Trydydd Sector yn cydnabod lle blaenaf Gweinidogion Cymru wrth lunio polisïau a deddfwriaethau. Yn ei thro, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cwmpas eang ac amrywiaeth gweithgarwch gwirfoddol ym mhob rhan o gymdeithas a’r cyfraniad y mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol a gwirfoddolwyr unigol yn ei wneud at fywyd economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac ieithyddol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hefyd bod mudiadau Trydydd Sector yn gyrff annibynnol sy’n penderfynu ar eu blaenoriaethau eu hunain ac yn rheoli eu materion eu hunain, a bod gan y Trydydd Sector ddyletswydd i gynrychioli buddiannau’r rheini mae’n eu cynrychioli. Cydnabyddir hefyd bod mudiadau Trydydd Sector yn gweithredu’n unol â’r egwyddorion y cawsant eu seilio arnynt. Maent yn atebol i’w haelodau a’r unigolion a’r cymunedau maent yn gweithio gyda nhw, ac i gyrff rheoleiddio fel y Comisiwn Elusennau.

Ar sail y gyd-ddealltwriaeth hon o rolau’i gilydd, cydnabyddir bod y Trydydd Sector yn bartner allweddol wrth lunio a chyflawni sawl agwedd ar bolisi cyhoeddus, ac o’r herwydd dylai ddatblygu partneriaethau cryf â llywodraeth genedlaethol a lleol.

O safbwynt gweithio ymarferol, mae’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru (a’r cyrff mae’n gyfrifol amdanynt) a’r Trydydd Sector yn un amlweddog, ac mae’n cynnwys:

  • rhannu safbwyntiau a gwybodaeth, drwy ganfod yn gynnar a phrosesau ymgynghori, am effaith y Trydydd Sector ar bolisi a gweithredu yn y dyfodol, a'r cyfraniad y gall y Trydydd Sector ei wneud
  • mynd ati ar y cyd i gynllunio, dylunio, monitro a gwerthuso rhaglenni a chynlluniau sy’n cynnwys y Trydydd Sector
  • ariannu mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol
  • diddordeb cyffredin yn y modd mae gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn rhyngweithio â’r Trydydd Sector

O fewn y cymhlethdod hwn mae’n bosibl nodi tri maes diddordeb pendant sy’n gorgyffwrdd, sy’n diffinio ac yn ffurfio diddordeb Llywodraeth Cymru yn y Trydydd Sector a’i chefnogaeth iddo:

  1. Cymunedau cryfach: sut mae pobl yn gwneud cyfraniad gwirfoddol at fywiogrwydd ac adfywiad eu cymunedau, yn darparu gofal ac yn helpu i feithrin hyder a sgiliau pobl; a’r cyfleoedd mae’r Trydydd Sector yn eu creu ar gyfer cyflogaeth a mentergarwch yn lleol.
  2. Gwell polisi: yr wybodaeth a’r arbenigedd sydd gan y sector i’w cynnig drwy ei brofiad rheng flaen o helpu i ffurfio polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau.
  3. Gwell gwasanaethau cyhoeddus: y rôl arloesol a gweddnewidiol y gall y Sector ei chwarae i helpu gwasanaethau cyhoeddus i gyrraedd mwy o bobl ac i fod yn fwy sensitif i’w hanghenion.

Cross cutting themes

Themâu trawsbynciol

Mae nifer o themâu trawsbynciol sy’n effeithio ar Lywodraeth Cymru a’r modd mae’n gweithredu ei swyddogaethau, ac mae'r Trydydd Sector wedi ymrwymo i hynny ac yn gwneud cyfraniad hollbwysig at hynny. Yn yr un modd bydd yr un themâu yn amlwg yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ei swyddogaethau o safbwynt y Trydydd Sector.

Datblygu cynaliadwy

Datblygu cynaliadwy yw’r broses sy’n ein helpu i wneud gwell penderfyniadau sy’n sicrhau ein bod yn gwella lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol tymor hir Cymru. Mae’n rhoi pwyslais nid yn unig ar genedlaethau heddiw ond ar genedlaethau’r dyfodol hefyd, ac ar yr etifeddiaeth yr hoffem ei gadael i’n plant a’n wyrion. Datblygu cynaliadwy yw un o brif egwyddorion trefniadol Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod datblygu cynaliadwy hefyd yn ganolog mewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, a’i fod yn gweddnewid sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Mae ein fersiwn Gymreig o ddatblygu cynaliadwy’n ymgorffori ein gwerthoedd o degwch, cyfiawnder cymdeithasol a pharch at ein hamgylchedd.

Mae’r Trydydd Sector wedi bod yn helpu i sefydlu datblygu cynaliadwy fel ffordd arferol o weithio yng Nghymru ers amser maith, gan gynnig cefnogaeth a chyfleoedd i bobl fynd ati'n ymarferol i sicrhau cymunedau cynaliadwy a chadarn. Dyma rai enghreifftiau; y nifer fawr o fentrau o dan berchnogaeth y gymuned sy’n cynhyrchu canlyniadau triphlyg fel prosiectau tyfu bwyd a bwyd dros ben; trafnidiaeth gymunedol; rhaglenni arbed ynni ac ôl troed carbon; gwarchod natur a threftadaeth; a’r mentrau trosglwyddo asedau newydd i fudiadau Trydydd Sector yn ymwneud â thir, stoc tai neu ynni adnewyddadwy sy’n creu arian dros ben i’w fuddsoddi yn y gymuned. Mae nifer o’r prosiectau hyn wedi’u seilio ar yr ymwybyddiaeth nad oes modd cael cydlyniant cymunedol a ffyniant heb roi sylw i egwyddorion Datblygu Cynaliadwy a’r gwaith ymgysylltu a phartneriaeth sy’n gysylltiedig â hyn.

Yr Iaith Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y Gymraeg yn rhan anhepgor o hunaniaeth Cymru ac mae wedi ymrwymo i greu Cymru wirioneddol ddwyieithog, lle gall pobl fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’r ddwy iaith. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru ac mae wedi arwain at sefydlu rôl Comisiynydd y Gymraeg. Prif swyddogaeth y Comisiynydd yw hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd y Comisiynydd hefyd yn monitro ac yn gorfodi cydymffurfiaeth â safonau i’r graddau maent yn berthnasol i gategorïau cyrff sy’n rhan o’r Trydydd Sector. Mae Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru - Iaith fyw: iaith byw - a’i Chynllun Iaith Gymraeg, yn ceisio mynd ati i brif ffrydio’r iaith ymhellach ym mhob agwedd ar waith Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng nghymunedau Cymru.

Mae cyfraniad y Trydydd Sector yn hanfodol i oroesiad a thwf y Gymraeg fel iaith gymunedol gan ei fod yn creu cyfleoedd i bobl wirfoddoli, ac mae’n darparu gwasanaethau gwirfoddol yn Gymraeg, yn ogystal â dathlu’r iaith a’r traddodiadau sydd ynghlwm wrthi. Mae Llywodraeth Cymru yn credu dylid sicrhau cyfle cyfartal i ddefnyddwyr gwasanaeth ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn y Trydydd Sector; bod gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith ym mhob rhan o Gymru a bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio ym mhob datblygiad polisi a dyraniad ariannu.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a’r rheoliadau dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus sy’n benodol i Gymru yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau perthnasol yng Nghymru, gan gynnwys y gofyniad i gyhoeddi amcanion cydraddoldeb. Mae’n ofynnol bod awdurdodau’n cyhoeddi datganiad sy’n amlinellu’r camau a gymerwyd er mwyn cyflawni pob amcan cydraddoldeb ynghyd â monitro cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion hynny. Mae Llywodraeth Cymru am greu cymdeithas deg heb wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth gyda chymunedau cydlynus a chynhwysol. Bydd ei Hamcanion Cydraddoldeb (sy’n dod o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol) yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a chyflogaeth yn deg, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion pobl, a bod cymunedau’n gynhwysol. Ni ddylai pobl gael eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu rhyw, hil, ffydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, beichiogrwydd a mamolaeth, bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bod yn berson anabl, neu’n drawsrywiol. Mae’r amcanion hyn yn sail i waith Llywodraeth Cymru, gan sicrhau dull cydlynus o gyflawni gwell canlyniadau i bobl Cymru.

Mae cyfraniad y Trydydd Sector yn allweddol er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, helpu pobl i herio triniaeth annheg, a helpu cyrff cyhoeddus i wella’r ffyrdd maent yn cyflawni eu dyletswyddau cydraddoldeb. Mae’n cynnig gwasanaethau eirioli a chyngor, gweithgareddau diwylliannol, cymorth arbenigol a chyfleoedd trefnu i grwpiau lleiafrifol a difreintiedig, sy'n helpu i ddatblygu cymdeithas fwy cynhwysol.

Mynd i’r afael â thlodi

Mae Llywodraeth Cymru am fynd i’r afael â thlodi drwy ei holl waith. Gyda’i gilydd, mae Gweinidogion Cymru yn benderfynol o edrych ar bob cyfle i atal ac i leihau tlodi yng Nghymru. Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi (2013) yn dangos y bydd adnoddau, ym mhob rhan o’r Llywodraeth, yn cael eu defnyddio i helpu’r rheini â’r angen mwyaf ac i geisio atal cenedlaethau’r dyfodol rhag profi tlodi. Mae nifer o raglenni sy’n ein galluogi i ymestyn i’r cymunedau y mae tlodi’n effeithio fwyaf arnynt, a chydlynu’r hyn rydym yn ei wneud ym mhob rhan o’r Llywodraeth i helpu’r bobl sy’n byw yno. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i wella cyrhaeddiad addysgol plant o deuluoedd ar incwm isel; i helpu mwy o bobl i gael gwaith, yn enwedig rhai ar aelwydydd lle nad oes neb mewn swydd gyflogedig; ac i leihau mewn ffordd ystyrlon nifer y bobl ifanc yng Nghymru nad ydynt yn ennill cyflog nac yn dysgu. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod pawb, ni waeth pa mor dlawd ydynt na pha mor ddifreintiedig yw’r ardal maent yn byw ynddi, yn cael mynediad cyfartal a theg at wasanaethau hanfodol. Credwn os gellir gwneud cynnydd yn y pedwar maes allweddol hwn, yna gall yr effaith weddnewid bywydau llawer o bobl ym mhob rhan o Gymru.

Mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu’n sylweddol at y gwaith o fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau tlodi drwy helpu pobl i fanteisio’n llawn ar fudd-daliadau a rheoli arian a dyledion, drwy gynghori ynghylch tai a chyflogaeth, drwy gynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant, drwy fanciau bwyd a drwy wasanaethau cymunedol eraill. Er enghraifft, mae darparwyr cyngor annibynnol yn dal i gynnig cyngor annibynnol i filoedd o bobl ledled Cymru er mwyn lleihau effaith diwygio lles drwy sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau, bod unigolion a theuluoedd yn cael yr incwm mwyaf sydd ar gael iddynt, yn osgoi digartrefedd a'u helpu i reoli eu harian ac ymdopi â’u dyledion.

3. Cefnogi ymgysylltiad

Cyflwyniad

Yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector wedi mwynhau hanes hir o ymgysylltu uniongyrchol, sy’n cael ei gynnal drwy’r Cynllun hwn. Mae hyn yn unigryw i Gymru. Mae’r ymgysylltiad strategol tymor hir hwn â’r Trydydd Sector yn parhau’n bwysig i lywio datblygiad polisi ac i helpu i ffurfio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru.

Felly, mae’n bwysig cael cysylltiadau gwaith cadarnhaol â’r Sector, a chael cynrychiolaeth effeithiol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.

Mae’r paragraffau canlynol yn nodi’r trefniadau ffurfiol ar gyfer ymgysylltu o dan y Cynllun hwn. Mae’r trefniadau hyn yn cael eu hategu gan Fframwaith Ymgysylltu y mae’r ddwy ochr wedi cytuno arno.

Bydd y Fframwaith:

  • yn cysylltu ag aelodau Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, a rhoi perchnogaeth iddynt dros olrhain a phenderfynu ar brosesau a datblygiad
  • yn helpu aelodau Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector gyda’u gwaith i ymgysylltu â'r sector ehangach
  • yn creu proses sy'n cynhyrchu agendâu a chanlyniadau cyffredin
  • yn cefnogi cyfarfodydd Gweinidogion mwy penodol yn sicrhau canlyniadau cliriach ar gyfer cyfarfodydd
    Gweinidogion a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
  • yn ychwanegu gwerth at gyfraniad y llywodraeth a’r Trydydd Sector
  • yn cynnal diddordeb ac ymrwymiad y Trydydd Sector a Gweinidogion
  • yn helpu Gweinidogion a’r Trydydd Sector i gyflawni eu hamcanion
  • yn cynnig adnoddau ychwanegol

Dialog a chydweithredu

Bydd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), yn canfod y rhwydweithiau trydydd sector a’r cyrff ymbarél perthnasol sydd â diddordeb yn eu gwaith, ac yn cytuno ar drefniadau ymarferol ar gyfer deialog a chydweithredu ar lefel weithredol. Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fudiadau Trydydd Sector gydweithio â’i gilydd a ffurfio rhwydweithiau priodol a all uniaethu gyda’i gilydd â Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n gyffredin iddynt o ran polisi a gweinyddu. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwrdd â chynrychiolwyr rhwydweithiau Trydydd Sector yn rheolaidd i’r diben hwn, ac mae’n cydnabod pwysigrwydd dialog ac ymgysylltu rheolaidd â swyddogion a Gweinidogion.

Bydd y trefniadau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • cyfnewid gwybodaeth a safbwyntiau ar ddatblygiadau ym mholisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
  • dulliau a fydd yn galluogi pob rhan o’r Trydydd Sector i ymgysylltu ac i gyfrannu at waith Llywodraeth Cymru
  • rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am ddatblygiadau a phryderon a nodir gan y Trydydd Sector drwy ei waith
  • cyfranogi mewn gweithgorau i ddatblygu polisïau a strategaethau newydd
  • trefniadau ymgynghori ar bolisïau neu raglenni strategol newydd
  • cytuno ar y paramedrau ar gyfer cydweithio i redeg rhaglenni o’r fath
  • ymdrin â threfniadau gweinyddol ar gyfer rhaglenni ariannu

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector

Wrth fynd ati i gyflawni ei fwriad i gydweithredu ac i weithio’n effeithiol gyda'r Trydydd Sector, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector fel ei phrif gyfrwng i ymgysylltu â’r Trydydd Sector.

Bydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn hwyluso’r broses o ethol cynrychiolwyr y Trydydd Sector ac yn sicrhau eu bod adlewyrchu croestoriad o fuddiannau a gweithgarwch y Trydydd Sector cyn belled ag y bo modd. Gall Llywodraeth Cymru wahodd cynrychiolwyr o sectorau eraill i gyfarfodydd. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor Gweithredol Gwirfoddol Cymru yn cefnogi Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Bydd y Cyngor yn cael ei gadeirio gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gynllun y Trydydd Sector.

Bydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn:

  • edrych ar faterion yn ymwneud ag amcanion strategol a swyddogaethau Llywodraeth Cymru ac sy’n gysylltiedig â buddiannau’r Trydydd Sector, ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru
  • cytuno ar y Fframwaith Ymgysylltu, ac yn ei fonitro a’i adolygu rhoi cyngor ar weithredu, monitro ac adolygu Cynllun y Trydydd Sector gan gynnwys llunio dangosyddion a ddefnyddir i werthuso’r Cynllun
  • hwyluso ymgynghori â mudiadau Trydydd Sector a chyrff Sector Cyhoeddus perthnasol ar weithredu, rhedeg ac adolygu’r Cynllun
  • helpu gyda'r trefniadau i adolygu’r Cynllun o bryd i’w gilydd

Bydd Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yn cytuno ar gyfansoddiad a threfniadau gwaith Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.

Cyfarfodydd gweinidogion

Mae Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r Trydydd Sector yn aml iawn mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau: cyfarfodydd ar faterion penodol; ymweliadau â mudiadau a chymunedau; presenoldeb mewn digwyddiadau a chynadleddau; a drwy ohebiaeth. Mae’r ffaith bod y Trydydd Sector yn gallu cwrdd â Gweinidogion i drafod materion sy’n achos pryder iddynt yn cael ei gydnabod, ac mae’n rhan allweddol o’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector.

O dan nawdd y Cynllun hwn, bydd y gwaith ymgysylltu arferol hwn yn cael ei ategu gan gyfarfodydd Gweinidogion sy’n canolbwyntio mwy ar faterion pwysig sy’n effeithio ar fwy nag un o fudiadau’r Trydydd Sector ac sy'n haeddu sylw gan y Gweinidog.

Ni fydd y cyfarfodydd hyn yn ceisio rhoi sylw i holl faterion portffolio’r Gweinidog ar unwaith, ond bydd pob cyfarfod:

  • fel arfer yn ymdrin â’r canlyniadau y mae Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector wedi eu nodi fel blaenoriaethau, ac i waith Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
  • yn canolbwyntio ar un neu ychydig o faterion strategol cysylltiedig sy’n ymwneud â’r canlyniadau hynny ac â nifer sylweddol o fudiadau Trydydd Sector
  • yn canolbwyntio ar weithredu o fewn terfynau amser i gynyddu’r tebygolrwydd o wneud cynnydd ar y materion o dan sylw

Bydd y trefniadau ar gyfer cyfarfodydd Gweinidogion wedi’u nodi yn y Fframwaith Ymgysylltu, a fydd wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector.

Bydd Tîm Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn adolygu patrwm yr holl gyfarfodydd Gweinidogion, ac yn adrodd ar hyn i Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy adroddiad blynyddol Cynllun y Trydydd Sector.

Cysylltiad y Trydydd Sector â datblygu polisïau

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn ystyried, yn y camau cynnar, beth fydd goblygiadau polisïau newydd neu newid mewn polisi i’r Trydydd Sector. Bydd y Trydydd Sector yn deall bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried pob math o safbwyntiau a chyfraniadau cyn gwneud penderfyniadau terfynol wrth lunio polisi.

I’r graddau y mae hynny’n bosibl bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio osgoi neu liniaru unrhyw effaith annymunol ar y Trydydd Sector a chanfod ac annog cyfleoedd i fudiadau Trydydd Sector gael eu hysbysu a chymryd rhan mewn trafodaethau mor gynnar â phosibl a chyn unrhyw ymgynghoriad ffurfiol os yw hynny’n bosibl. Mae buddiannau amrywiol mudiadau Trydydd Sector yn golygu nad yw’n bosibl manylu ar bob maes polisi a all fod yn bwysig i’r Trydydd Sector; fodd bynnag, bydd canllaw manwl yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi ar wahân i helpu i asesu effaith bosibl polisïau ar y Trydydd Sector. Ni fydd unrhyw ganllaw o’r fath yn rhan o’r Cynllun hwn.

Gall cyfarwyddebau a deddfwriaeth arfaethedig sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd effeithio ar y Trydydd Sector, yn ogystal â deddfwriaeth a pholisi domestig. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau bod yr un sylw’n cael ei roi i ddatblygiadau polisi yn y meysydd hyn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu ac yn cynnal grŵp cyswllt mewnol a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob adran o Lywodraeth Cymru sydd mewn cysylltiad â’r Sector, i gyfnewid gwybodaeth ac i sicrhau bod egwyddorion ac ymrwymiadau’r Cynllun yn cael eu cynnal.

Ymgynghori

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bennu gweithdrefnau cytunedig i ymgynghori ar newidiadau mewn polisi a datblygiadau polisi newydd sy’n effeithio ar y Trydydd Sector, gan gynnwys:

  • cyfleoedd i barhau â thrafodaethau rhwng y Trydydd Sector, buddiannau gwirfoddoli a Llywodraeth Cymru i feithrin dealltwriaeth gynnar, a’u cynnwys mewn datblygiadau polisi
  • trefniadau ymgynghori a fydd fel arfer yn caniatáu digon o amser i ymgynghori’n ehangach â rhwydweithiau a defnyddwyr gwasanaeth
  • cefnogi rôl cyrff ymbarél a chyrff cyfryngol i hwyluso ymgynghoriadau
  • adborth i ymatebwyr ar ymatebion a chanlyniadau’r ymgynghoriad
  • cyfleoedd i’r sector barhau i gael ei gynnwys yng nghamau gweithredu a gwerthuso’r polisi

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu cynnwys yn llawn mewn canllaw i staff a ddilynir wrth ymgymryd ag ymarferion ymgynghori. Bydd y gweithdrefnau hyn yn cael eu nodi yn y canllawiau a roddir i swyddogion Llywodraeth Cymru, a byddant yn destun ymgynghoriad cyfnodol gyda’r Trydydd Sector.

4. Cefnogi cymunedau a gwirfoddolwyr

Cyflwyniad

Mae’r Trydydd Sector yn cynnwys miloedd o fudiadau a grwpiau sy’n cynrychioli ac yn cefnogi cymunedau lle a chymunedau buddiant. Fel y nodwyd eisoes yn y Cynllun hwn, mae dadl gref dros edrych ar y rhain gyda’i gilydd fel Trydydd Sector unigryw. Er hynny, rhaid i ni gydnabod hefyd amrywiaeth y Sector, a rôl allweddol grwpiau cymunedol bach o dan arweiniad gwirfoddolwyr ynddo. Mae’n bwysig bod y berthynas hon rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yn ystyried yr amrywiaeth hon, ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cryfhau mudiadau llawr gwlad sy’n canolbwyntio ar weithredu ar lefel leol ac ar raddfa fach.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar y gweithredu dyngarol a chymdeithasol sy’n digwydd ar lefel gymunedol ac sy’n cyfrannu at gymdeithas sifil gyfoethog ac yn gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghymru. Mae’r gweithredu cymunedol lleol hwn yn dangos y pwys a roddir ar ymateb i brofiadau ac anghenion o ddydd i ddydd. Ar y lefel gymdogaethol leol neu deuluol hon y mae mudiadau Trydydd Sector yn aml yn gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Ei hygyrchedd a’i allu i ymateb yw un o rinweddau mwyaf y sector.

Gyda hyn mewn cof, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod datblygu cymunedol fel ‘pobl yn gweithio gyda’i gilydd ar faterion sy’n dod i’r amlwg, er mwyn creu newid drwy gydweithredu’. Mae hon yn broses, sy’n troi’n weithredoedd i wella lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cymunedau, sy’n ateb anghenion a dyheadau’r cymunedau hynny drwy gydymdrechion y gymuned a’r mudiadau sy’n ei gwasanaethu.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod angen harneisio’r cryfder sydd gan gymunedau a’u partneriaid i ganfod atebion ar y cyd i broblemau sy’n gyffredin iddynt. Mae hyn yn rhan ganolog o gydgynhyrchu. Gan amlaf, bydd mwy nag un peth yn achosi'r problemau sy’n wynebu ein cymunedau, a byddant yn effeithio ar fwy nag un rhan o fywydau pobl. Cydnabyddir mai’r cymunedau eu hunain sydd yn y sefyllfa orau yn aml i weld problemau gyda gwasanaethau presennol neu fylchau mewn gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i ganfod atebion ar y cyd, gyda phobl a chymunedau’n gweithio gyda darparwyr gwasanaethau i ddylunio, darparu, monitro a gwerthuso’r gwasanaethau (enw cyffredin ar hyn yw cyd-gynhyrchu).

Hybu ymgysylltu cymunedol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, set o ddeg egwyddor sydd â’r nod o hybu dull effeithiol a chyson o Ymgysylltu â’r Cyhoedd ledled Cymru.

Yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru:

  1. Cynllunnir yr ymgysylltu’n effeithiol i wneud gwahaniaeth.
  2. Annog a galluogi pawb yr effeithir arnynt i gymryd rhan, os ydynt yn dewis hynny.
  3. Cynllunnir a chyflwynir yr ymgysylltu mewn ffordd amserol a phriodol.
  4. Gweithio gyda sefydliadau partner perthnasol.
  5. Ni fydd unrhyw jargon yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir a bydd yn briodol ac yn hawdd ei deall.
  6. Ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan.
  7. Galluogi pobl i gymryd rhan yn effeithiol.
  8. Rhoddir yr adnoddau a’r gefnogaeth briodol i ymgysylltu er mwyn iddo fod yn effeithiol.
  9. Mae pobl yn cael gwybod beth yw effaith eu cyfraniad.
  10. Dysgu a rhannu gwersi i wella’r broses o ymgysylltu.

Mae’r egwyddorion hyn yn ategu Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru.

Cynnal gwirfoddoli

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi gwirfoddoli fel elfen bwysig o fynegi dinasyddiaeth ac fel elfen hanfodol o ddemocratiaeth. Mae’n golygu neilltuo amser ac egni er budd cymdeithas a’r gymuned, a gall ddigwydd mewn sawl ffordd. Mae’n cael ei wneud o wirfodd a drwy ddewis, heb ddisgwyl enillion ariannol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Polisi Gwirfoddoli (a gyhoeddir ar wahân a heb fod yn rhan o’r Cynllun hwn). Bydd y Polisi hwn yn cael ei ddatblygu ar y cyd â’r Sector drwy Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, a bydd yn:

  • ymdrechu i wella mynediad at wirfoddoli i bobl o bob sector o gymdeithas
  • cefnogi ymdrechion i sicrhau nad oes rhwystrau diangen yn atal pobl rhag gwirfoddoli
  • ei gwneud yn haws i bobl wirfoddoli
  • annog cyfraniadau mwy effeithiol gan wirfoddolwyr
  • codi statws a gwella delwedd gwirfoddoli

5. Cefnogi strwythurau

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad tymor hir i ddatblygu’r Trydydd Sector yng Nghymru. Mae’n cydnabod yr angen i gynorthwyo mudiadau cymunedol a llawr gwlad i dyfu a datblygu ac y bydd hynny, yn ei dro, yn helpu i sicrhau cymdeithas deg, gyfiawn a chynhwysol lle gall cymunedau feithrin gallu unigolion i fynd i’r afael â thlodi, sgiliau, diweithdra a chynaliadwyedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen cymorth ar y mudiadau hyn, ac mae’n ymroi i gynnal seilwaith cydlynus. Mae’r cymorth hwn ar gael drwy strwythur cymorth integredig sy’n cael ei alw’n ‘Seilwaith y Trydydd Sector’ sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS) a Chanolfannau Gwirfoddolwyr (CG). Gan edrych i’r dyfodol, disgwylir y bydd y Seilwaith yn datblygu’n unol â modelau newydd gwasanaethau cyhoeddus a strwythurau i gynnal trefniadau gweithio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gan gadw mewn cof yr egwyddorion hynny a amlinellwyd ym Mhennod 4 y Cynllun hwn.

Mae’r seilwaith hwn yn ymestyn ar draws Cymru gyfan ac mae’n cael ei gydnabod yn gyffredinol, yng Nghymru a thu hwnt, fel un o gryfderau’r Trydydd Sector yng Nghymru, gan roi set gytunedig o wasanaethau craidd sy’n hygyrch i lawer iawn o bobl a mudiadau ledled y wlad. Mae cyrff y seilwaith mewn cysylltiad rheolaidd nid yn unig â’u haelodau eu hunain, ond hefyd â llawer o grwpiau eraill yn y sector drwy eu gwasanaethau a’u rhwydweithiau. Drwy gyfrwng y rhain, maent yn ymestyn allan i bob cymuned a miloedd lawer o unigolion. Un o nodweddion hanfodol y seilwaith yw ei aelodaeth ac atebolrwydd i’r sector. Mae gan fudiadau’r seilwaith aelodaeth eang a chynhwysol, maent yn agored i unrhyw fath o fudiad trydydd sector; a chydag ymddiriedolwyr a etholwyd gan eu haelodau. Mae hyn yn sicrhau bod eu gwasanaethau a’u gweithgareddau yn atebol i’r Sector ac yn adlewyrchu anghenion y Sector.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai rôl y Seilwaith hwn yw:

  • galluogi mudiadau Trydydd Sector eraill i dyfu a datblygu
  • cynorthwyo gwirfoddolwyr unigol a gweithredu gwirfoddol ar y cyd
  • hyrwyddo llywodraethu da a diogel ar draws y Trydydd Sector
  • cynorthwyo i ddylunio a chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
  • rhoi llais a chynrychiolaeth i’r sector ehangach; a Rhannu arferion da ac arloesedd

Mae’r dull cyffredinol o gynnal trefniadau gweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi WCVA, y corff seilwaith cenedlaethol sy’n cynrychioli ystod o

leisiau yn y Trydydd Sector. Mae rôl y WCVA yn cynnwys gweithio gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a darparu gwasanaethau priodol ar lefel genedlaethol, er enghraifft ymgysylltu a chynrychioli; darparu adnoddau ar-lein ac adnoddau gwybodaeth eraill ar gyfer y sector; rheoli’r gronfa ddata genedlaethol o wirfoddolwyr ac adnoddau ar gyfer mudiadau sy'n ymwneud â gwirfoddolwyr; ymchwil; hyfforddiant; cefnogaeth ar gyfer llywodraethu ac ymddiriedolwyr; ac ymwneud â’r gwaith o reoli grant y Seilwaith a chynlluniau cyllid eraill.

Yn ogystal â'r cyrff seilwaith sy'n rhan o’r seilwaith cyffredinol, mae cyrff ymbarél trydydd sector eraill yn cefnogi rhannau penodol o’r sector ac sydd ag arbenigedd polisi arbenigol mewn maes penodol ac sy’n cynorthwyo'r sector mewn gwahanol ffyrdd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhai o'r rhain. Yn yr achosion hynny, disgwylir i gefnogaeth o'r fath ategu gwasanaethau craidd y cyrff Seilwaith a hwyluso'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo’r Trydydd Sector hefyd drwy ei Thîm Trydydd Sector, a fydd yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Trydydd Sector yng Nghymru ac a fydd yn:

  • gweithio ar draws adrannau i rannu gwybodaeth ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru, gan roi sylw arbennig i’r polisïau a’r blaenoriaethau hynny sy’n ymwneud â’r Trydydd Sector
  • cynnal cysylltiadau rhwng y llywodraeth i gadw mewn cysylltiad â materion ehangach sy’n ymwneud â’r Trydydd Sector
  • rhoi cymorth a monitro sut mae’r strwythurau ymgysylltu a amlinellir yn y Cynllun hwn yn gweithio ac yn cydlynu’r gwaith o baratoi’r Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun

Trefniadau adolygu ac adrodd

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai’r Prif Weinidog sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros Gynllun y Trydydd Sector, a bydd gan un o Weinidogion Cymru gyfrifoldeb penodol dros fuddiannau’r Trydydd Sector.

Mewn ymgynghoriad â’r Trydydd Sector, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cynnal mecanweithiau i fonitro perfformiad y Cynllun yn effeithiol.

Bydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn ystyried ac yn gwneud argymhellion ar y mesurau sydd eu hangen i wella perfformiad Llywodraeth Cymru, ei hasiantaethau a’i chyrff noddedig a’r trydydd sector. Bydd enghreifftiau o arferion da’n cael eu hyrwyddo.

Bydd y modd y mae’r Cynllun yn cael ei weithredu a’r effaith mae’n ei chael yn cael eu hasesu’n flynyddol, a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn ceisio datrys unrhyw anghydfodau rhwng y Trydydd Sector a Llywodraeth Cymru. Bydd cwynion yn cael eu cyfeirio at weithdrefnau cwyno Llywodraeth Cymru.