Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun newydd yn anelu at helpu mwy na 10,500 o bobl, sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau neu alcohol neu sydd â salwch meddwl, i gael addysg, hyfforddiant neu waith. Cafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r rhaglen, sef yr unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru, yn helpu cyfranogwyr i feithrin eu hyder drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a’u cefnogi i gael mynediad at hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith neu waith gwirfoddoli.

Caiff cyfranogwyr eu cefnogi gan fentoriaid cymheiriaid, sy’n defnyddio eu profiadau eu hunain i helpu eraill. Mae mentoriaid cymheiriaid yn gweithio gyda chyfranogwyr ar weithgareddau er mwyn eu helpu i oroesi rhwystrau i gael addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd cyfranogwyr yn cael cymorth mewn meysydd megis datblygu sgiliau rhyngbersonol, cyllidebu, cael mynediad at dai, gofal meddygol a chael cymorth ariannol.

Mae’r rhaglen yn agored i bobl rhwng 16 a 24 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac i oedolion 25 oed neu hŷn sydd heb swydd yn yr hirdymor neu sy’n economaidd anweithgar. 

Mae’r Gwasanaeth Di-waith, a gefnogwyd drwy gyllid Ewropeaidd tan fis Awst 2022, wedi cael ei ail-gomisiynu drwy £13 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru dros dair blynedd. Mae contractau wedi cael eu dyfarnu’n ddiweddar i gyflwyno’r Gwasanaeth Di-waith ledled Cymru.

Mae Cyfle Cymru yn darparu’r gwasanaeth yn y Gogledd ac yn anelu at helpu mwy na 2,800 o bobl erbyn mis Mawrth 2025. Gwnaeth y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, gwrdd â chyfranogwyr a mentoriaid cymheiriaid o Cyfle Cymru yn Wrecsam, lle roeddent yn clirio'r tir yn Nhŷ'r Hyrwyddwyr fel rhan o weithgaredd gwirfoddoli.

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Mae’n bwysig iawn bod unrhyw un sydd wedi camddefnyddio sylweddau neu alcohol, neu sydd wedi brwydro â salwch meddwl, yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall i astudio am gymwysterau, dechrau hyfforddiant neu ddechrau swydd newydd. Yn aml, dyma sy’n sbarduno pobl i ailadeiladu eu bywydau.  

Roeddwn i’n falch iawn o gwrdd â'r cyfranogwyr, y mentoriaid cymheiriaid a'r staff yn Wrecsam, a rannodd straeon ysbrydoledig iawn â mi.

Rwy’n hynod o falch y bydd Llywodraeth Cymru, drwy’r Gwasanaeth Di-waith, yn gallu cefnogi’r rhaglen hon. Hoffwn ddymuno’r gorau i bawb sy’n cymryd rhan yn y rhaglen hon yn eu hymdrechion yn y dyfodol.

Mae’r cynllun newydd yn cefnogi nodau cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau. Cafodd ei lansio yn 2022, ac mae’n nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i gael gwaith neu i ddychwelyd i’r gwaith, drwy atal pobl rhag colli eu swyddi drwy atal salwch, ymyrryd yn gynnar, a sicrhau gweithleoedd iach.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Gwella llesiant pawb yng Nghymru yw’r genhadaeth sy’n llywio dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran yr economi. Fel rhan o’n cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, rydym wedi ymrwymo i helpu’r rhai hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i gael gwaith.

Gall cyflogaeth fod yn achubiaeth i bobl sy'n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl. Drwy gael gwared ar y rhwystrau i gyflogaeth, bydd y prosiect hwn yn helpu pobl ledled Cymru i gael mynediad at y farchnad swyddi ac aros ynddi - gan greu felly, y Cymru gryfach, decach, wyrddach ac iachach rydym i gyd am ei gweld.

Dywedodd Lisa Thompson, rheolwr prosiectau Cyfle Cymru: 

Byddai’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd newydd gan roi llygedyn o obaith i bobl sy’n aml yn cael eu hanwybyddu gan gymdeithas.

Oherwydd ein profiad a’n harbenigedd yn mentora cymheiriaid yn effeithiol, gallwn gyflawni a grymuso newid ym mywydau pobl sydd wedi’u heffeithio gan achosion o gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl niweidiol. 

Bydd Cyfle Cymru yn helpu i fynd i’r afael â thlodi, sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb, cynyddu sgiliau, sicrhau bod gan ragor o bobl waith, a gwella bywydau pobl a’n cymunedau.