Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynllun newydd gwerth £5.8m i gynhyrchu ynni o donnau'r môr oddi ar arfordir Sir Benfro yn cael ei lansio ar ôl llwyddo i sicrhau £4m o gyllid yr UE drwy Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw yn cyhoeddi bod y cwmni technoleg ynni'r tonnau, Wave-tricity yn cael y cyllid i ddatblygu a phrofi dyfais newydd o'r enw Ocean Wave Rower. 


Y prosiect hwn yw'r buddsoddiad diweddaraf mewn ymgais i greu sector ynni'r môr gyda'r gorau yn y byd yng Nghymru. Ymrwymwyd £12m o gyllid yr UE i brosiectau ynni glân sylweddol gan gynnwys menter Deep Green Minesto, sy'n cael ei datblygu yn Ynys Môn, a thechnoleg WaveSub Marine Power Solutions a fydd hefyd yn cael ei defnyddio yn nyfroedd Sir Benfro.  

Dywedodd Mark Drakeford: 

“Mae ynni'r môr yn sector pwysig ac mae gan Gymru adnoddau naturiol ardderchog i ni fanteisio arnyn nhw. Rwy'n falch iawn bod y buddsoddiad hwn yn dod â phrosiect ynni sylweddol arall i Sir Benfro.

“Mae'n galonogol iawn gweld y cynllun hwn, sydd â chymaint o botensial, yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, yn arbennig gan y bydd yn arwain at swyddi a chyfleoedd busnes da yn lleol.”


Bydd yr Ocean Wave Rower yn cynhyrchu ynni glân drwy gydio yn symudiad naturiol y tonnau.

Mae'r prosiect dwy flynedd yn ceisio braenaru'r ffordd ar gyfer defnyddio'r dechnoleg ar raddfa lawn yn y tymor hir a datblygu busnes cynaliadwy yn y gorllewin ar ôl ei brofi'n llwyddiannus.

Disgwylir i gyllid yr UE, ynghyd ag £1.8m o arian cyfatebol o'r cwmni, arwain at greu swyddi peirianyddol a gweithredol newydd gyda Wave-tricity yn Sir Benfro a chyfleoedd i fusnesau lleol yn y gadwyn gyflenwi.

Dywedodd Matthew Fairclough-Kay, rheolwr gyfarwyddwr Wave-tricity: 

“Mae'r cyhoeddiad hwn yn  garreg filltir bwysig i'r cwmni. Mae pob un o dîm Wave-tricity yn edrych ymlaen at gael dechrau gweithredu yn Sir Benfro a dod â'r freuddwyd o ynni glân o'r tonnau gam yn agosach at lwyddiant masnachol. 

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru a chyllid yr UE yn dangos ymrwymiad clir at dwf economaidd cynaliadwy. Gyda sylfaen gadarn o arbenigedd yn lleol, mae hyn yn arwydd o ddyfodol disglair iawn i ynni'r môr yng Nghymru. Mae'n wych cael bod yn rhan o hyn.”

Ychwanegodd yr Athro Drakeford: 

“Mae cronfeydd yr UE, sydd werth tua £650m bob blwyddyn, yn hanfodol bwysig i Gymru. Dyma enghraifft gadarnhaol arall o'r ffordd rydyn ni'n buddsoddi cyllid yr UE i adeiladu sector ynni'r môr ffyniannus a fydd yn cyflawni nifer o fanteision economaidd cynaliadwy.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau nad yw Cymru'n colli ceiniog o'r cyllid rydyn ni'n ei gael o Ewrop ar hyn o bryd, ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni'n parhau i drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am warantu cyllid i brosiectau a fydd yn cael eu cytuno ar ôl Datganiad yr Hydref.

“Byddwn yn parhau i fanteisio i'r eithaf ar y cyllid Ewropeaidd sydd gennym ar hyn o bryd, gan gymeradwyo cynlluniau a phrosiectau dros y ddwy flynedd nesaf, er mwyn sicrhau bod Cymru'n elwa cymaint â phosib o’r ffynhonnell hon o gyllid.”