Neidio i'r prif gynnwy

O 4 Hydref ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y gallai modurwyr sy'n gyrru’n gyflymach na'r terfynau cyflymder 50mya ar rai o'r ffyrdd mwyaf llygredig yng Nghymru gael llythyr neu ddirwy drwy’r post.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y penderfyniad i gyflwyno terfynau cyflymder amgylcheddol i wella lefelau ansawdd aer mewn pum lleoliad ledled Cymru yn 2018 oedd y cyntaf o'i fath yn y DU, gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi'r amgylchedd wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud.

Mae'r cynlluniau eisoes wedi llwyddo i achosi gostyngiad o 47% yn y lefelau nitrogen deuocsid yn yr ardaloedd lle y mae’r effaith yn sylweddol, gan helpu i amddiffyn pobl rhag salwch difrifol yn ogystal â chwarae rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Ystyrir mai llygredd aer yw un o'r risgiau mwyaf i iechyd yr amgylchedd yn ein cenhedlaeth, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, gan gynyddu ein risgiau o glefyd y galon a'r ysgyfaint a chyfrannu at waethygu cyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes fel asthma.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth:

"Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau lefelau allyriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach erbyn hyn.

"Rydyn ni'n gwybod nad yw terfynau cyflymder arafach yn ddewis poblogaidd, ond mae angen i ni wneud pethau'n wahanol a bod yn fentrus i gael unrhyw obaith o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

"Mae'n amlwg bod y cyfyngiadau cyflymder rydym wedi'u cyflwyno ar ein ffyrdd mwyaf llygredig yn gweithio - mae'r canlyniadau'n yn dangos hynny’n glir - ond mae cydymffurfio â'r terfynau hyn yn hanfodol os ydym am gyflawni'r gostyngiadau y mae angen i ni eu gwneud yn yr amser byrraf posibl.

"Mae angen i ni weithredu nawr i wneud Cymru'n lle diogel i fyw gydag aer glân i bawb."

Dywedodd Mark Travis, Arweinydd Plismona Ffyrdd Cymru, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru:

"Mae gweithredu'r terfynau cyflymder 50mya, am resymau amgylcheddol, ar rai o ffyrdd prysuraf Cymru yn fater pwysig i fynd i'r afael â llygredd ac i roi dyfodol glanach ac iachach i Gymru a'i chymunedau.

"Mae pob un o'r pedwar Heddlu yng Nghymru yn cefnogi'r broses o'u gweithredu, gan orfodi'r terfynau cyflymder hyn mewn modd cyson, cymesur a thryloyw."

Ychwanegodd Rheolwr Partneriaeth GanBwyll, Teresa Ciano:

"Mae gyrru ar y terfyn cyflymder sydd wedi’i nodi yn fanteisiol o ran diogelwch, ond gall hefyd wella ein bywydau mewn ffyrdd eraill.  Drwy gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer i Gymru, gwyddom y bydd ein ffyrdd yn fwy diogel hefyd.  Drwy weithredu rhaglen llythyrau cynghori a fydd y cyntaf o'i math, byddwn yn gallu rhoi gwybod i bobl am bwysigrwydd cydymffurfio â'r terfyn cyflymder yn y lleoliadau hyn, tra'n parhau i erlyn y gyrwyr mwyaf peryglus."