Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Rhagfyr 2025.

Cyfnod ymgynghori:
6 Hydref 2025 i 1 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 513 KB

PDF
513 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau anstatudol drafft newydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar ganllawiau anstatudol drafft newydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol. Nod y canllaw yw:

  • cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion neu lleoliadau i wneud y broses o lunio cynllun addysg personol yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy’n derbyn gofal
  • gosod y cyddestun i awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i sicrhau bod gan bob plentyn sy'n derbyn gofal gynllun addysg personol o ansawdd uchel nes y bydd yn gorffen addysg statudol

Help a chymorth

Mae fersiynau o'r ddogfen hon ar gael mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill o ofyn amdanynt.