Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Iau 15 Rhagfyr), cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, fod cynlluniau i ddatblygu cyfleusterau newydd ar gyfer y celfyddydau perfformio a chwaraeon yng Nghampws y...

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn cael ei roi tuag at gynigion Coleg Sir Gâr i adeiladu cyfleuster newydd ar y safle i’w ddefnyddio gan adran y celfyddydau perfformio a chwaraeon, ynghyd ag uned arloesi ar gyfer datblygiadau busnes.

Mae disgwyl i'r prosiect cyfan gostio £3.2 miliwn. Bydd hefyd yn cynnwys ‘unedau deor’ i entrepreneuriaid ddatblygu syniadau busnes a gwneud y mwyaf o weithgareddau masnachol sy'n gysylltiedig â chwaraeon a'r diwydiannau creadigol. Bydd hyn oll hefyd yn golygu costau rhedeg is.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Dyma brosiect cyffrous ac rwyf wrth fy modd o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £1.5 miliwn i'w gefnogi. Pan fydd y safle newydd wedi'i gwblhau, bydd yn darparu cyfleusterau o safon ar gyfer adran diwydiannau creadigol y Coleg ac yn galluogi myfyrwyr i astudio hyd at lefel Meistr. Bydd hefyd yn cynnig Prentisiaethau Lefel Uwch.

"Mae datblygu lefel uchel o sgiliau ar gyfer y diwydiannau creadigol yn bwysig i economi Cymru a bydd y cyfleuster hwn yn ein helpu i ddatblygu talentau’r genhedlaeth nesaf."

Mae'r buddsoddiad yn rhan o Raglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif sy'n werth £1.4 biliwn. Nod y rhaglen hon yw diweddaru adeiladau addysg ac ysgolion ar draws Cymru.