Neidio i'r prif gynnwy

Darganfod mwy am gynlluniau cyfnewid ac ailgylchu gwisg ysgol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Gall gwisgoedd ysgol ail-law fod o fudd i bob rhiant a gofalwr, yn enwedig y rhai ar incwm isel neu’r rhai sydd â theuluoedd mawr. Yn ogystal, drwy ymestyn oes dillad, gall ysgolion annog cynaliadwyedd a’i fanteision amgylcheddol ehangach.

Mae 'Polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu' yn nodi y dylai ysgolion gael cynlluniau ailgylchu a chyfnewid ar waith. Mae gwahanol fathau o gynlluniau cyfnewid ac ailgylchu ar gael.

Cynlluniau cyfnewid ac ailgylchu ysgolion (sy’n cael eu rhedeg gan staff yr ysgol, cymdeithas rhieni ac athrawon neu wirfoddolwyr)

Mae gwisg ysgol a roddir naill ai ar gael ar gais mewn lle penodol (er enghraifft swyddfa’r ysgol ar unrhyw adeg) neu ar adegau penodol yn ystod blwyddyn academaidd (er enghraifft mewn digwyddiad ysgol, ar ddiwrnodau HMS neu mewn ffair benodol ar gyfer cyfnewid gwisg ysgol).

Mewn rhai achosion, mae pecynnau gwisg, sy’n cynnwys un o bob eitem o’r wisg sy’n ofynnol, yn cael eu paratoi a’u cynnig i unrhyw ddechreuwyr newydd.

Mae enghraifft o gynlluniau fel hyn yn cynnwys yr un yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Mihangel, Trefforest (Saesneg yn unig).

Cynlluniau cyfnewid ac ailgylchu yn y gymuned

Defnyddir gofod cymunedol o fewn y gymuned ehangach, gan weithio gydag ysgolion lleol, i gasglu a storio ystod o wisgoedd sydd wedyn ar gael i deuluoedd fanteisio arnyn nhw drwy gydol y flwyddyn.

Mae enghreifftiau o fentrau o’r math hwn yn cynnwys Caerphilly Uniform Exchange (Saesneg yn unig), A Better Fit (Saesneg yn unig) a Chyfnewidfa Gwisg Ysgol Llandrindod.

Cynlluniau cyfnewid ac ailgylchu ar-lein

Pan fo ysgol yn cofrestru ar gyfer gwefan bwrpasol sy’n cynnig gwisgoedd ail-law, byddai ysgolion fel arfer yn cyfathrebu ac yn hyrwyddo hyn i deuluoedd drwy wefan yr ysgol, cylchlythyrau a gwasanaeth anfon negeseuon yr ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cynnig cymorth gan rai cynlluniau ar-lein gan gynnwys Grown out of it (Saesneg yn unig) a BubbleXchange (Saesneg yn unig) ond mae gwefannau gwisg ysgol ail-law eraill ar gael.