Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Awst 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch sut i ddelio â bygythiad rhywogaethau estron goresgynnol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae lleihau'r risg ar eu llwybrau cyflwyno a lledaenu yn ffordd bwysig o leihau'r bygythiad hwn.
Mae pum Cynllun Gweithredu ar Lwybrau drafft wedi'u datblygu i helpu i leihau'r risgiau.
Maen nhw'n ymdrin â'r meysydd blaenoriaeth canlynol:
- pysgota a chychod hamdden – atal y risg o gyflwyno neu ledaenu rhywogaethau goresgynnol rhwng cyrff dŵr
- garddwriaeth – rhwystro planhigion gardd goresgynnol a halogion mewn pridd rhag cael eu symud o gwmpas
- sŵau – rhwystro anifeiliaid mewn sŵau neu barciau bywyd gwyllt rhag cael eu rhyddhau neu ddianc
- anifeiliaid anwes – rhwystro anifeiliaid anwes a allai droi'n oresgynnol rhag cael eu rhyddhau neu ddianc
Mae'r cynlluniau gweithredu’n disgrifio'r arferion gorau i lywodraeth, sefydliadau ac unigolion i helpu i wneud y defnydd gorau o adnoddau a chymell yr ymddygiad cywir.
Rydym yn ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU i ofyn am eich barn ar y cynlluniau drafft.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK
