Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y pwyntiau gwefru ceir trydan yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n seiliedig ar weledigaeth y bydd, “erbyn 2025, pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant ddefnyddio seilwaith gwefru cerbydau trydan pan a ble y byddant eu hangen.”

Bydd buddsoddiad arfaethedig o £30 miliwn dros bum mlynedd yn cael ei neilltuo i helpu i gyflawni hyn. Lansiwyd ymgynghoriad ar y strategaeth, fel rhan o ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru i gefnogi’r newid i gerbydau allyriadau isel. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddant yn rhoi’r gorau i werthu ceir petrol a diesel newydd yn y DU erbyn 2030.

Ar hyn o bryd, dim ond 0.17% o’r cerbydau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru sy’n geir trydan. Mae cynyddu nifer y ceir trydan ar ffyrdd yn rhan o’r ymdrechion i sicrhau gostyngiad sylweddol yn yr allyriadau carbon o’r rhwydwaith trafnidiaeth – sydd wedi’i amlinellu yn y strategaeth drafnidiaeth ddrafft a gyhoeddwyd ar 17 Tachwedd.

Mae trafodaethau gyda defnyddwyr wedi nodi nifer o faterion oedd yn lleihau hyder pobl wrth ddefnyddio cerbydau trydan. I fynd i’r afael â hynny mae Llywodraeth Cymru wedi rhestru y canlyniadau dymunol i gynyddu hyder pobl, gan gynnwys:

  • bydd yn bosibl talu am drydan drwy daliad di-gyswllt a system gysylltiedig yn seiliedig ar ap, gyda gwybodaeth syml a hygyrch am brisiau.
  • gwybodaeth gyson am wefru ar briffyrdd.
  • seilwaith dibynadwy
  • gofal cwsmeriaid 24/7 i gefnogi gyrwyr
  • amgylcheddau diogel, gyda digon o olau ar gyfer cyfleusterau gwefru

Mae camau eraill i wella mynediad at bwyntiau gwefru yn cynnwys darpariaeth gwell mewn cartrefi a swyddfeydd, gyda gwefru cyflym ar y stryd yn cael ei annog ledled Cymru, a rhwydwaith gwefru cyflym yn cael ei ddarparu ar y priffyrdd. Dros y ddegawd nesaf mae’r strategaeth yn nodi yr angen am rhwng 30,000 a 50,000 o wefrwyr cyflym a rhwng 2,000 a 3,500 o wefrwyr cyflym/cyflym iawn.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Rydym yng nghamau cyntaf y chwyldro trafnidiaeth fydd yn gweld ceir a faniau petrol a diesel yn dod i ben yn raddol. Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid i’n system drafnidiaeth ddod yn lanach ac yn wyrddach.

“Mae cerbydau trydan yn farchnad newydd ond yn un fydd yn hanfodol i sut y byddwn yn teithio yn y blynyddoedd nesaf. Ni all y llywodraeth ddatblygu hyn ar eu pennau eu hunain, a bydd y strategaeth hon yn cefnogi’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i gydweithio i roi hyder i bobl ddefnyddio cerbydau trydan.