Neidio i'r prif gynnwy

Dros dri diwrnod, bydd arddangosfeydd gwybodaeth gyhoeddus yn cael eu cynnal, gyda’r bwriad o roi’r newyddion diweddaraf am y cynigion i wella'r A55 wrth Gyffordd 15 a Chyffordd 16.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arddangosfeydd yn gyfle i’r cyhoedd gyfarfod â thîm y prosiect, gweld y cynlluniau sydd o dan ystyriaeth, clywed am yr amserlen debygol a beth fydd y broses o ran y cynllun gwelliant.

Mae ystod o opsiynau yn cael eu hystyried i dynnu’r cylchfannau presennol a rhoi cyffyrdd aml-lefel wrth gyffordd 15 ac 16. Bydd hyn yn help i wneud pob taith yn saffach ac yn gyflymach.

Mae’r contractwyr Carillion, gyda’i hymgynghorwyr Ramboll, Gwynedd Consultancy a Richards Moorehead and Laing yn cynnal y digwyddiad. Byddant yn gyfrifol am y cam nesaf.

Cynhelir yr arddangosfeydd ar 13 Rhagfyr yn Amgueddfa Penmaenmawr, 14 Rhagfyr yn Sefydliad yr Eglwys, Llanfairfechan a’r 15 Rhagfyr yn Neuadd Sant Gwynin, Dwygyfylchi. Bydd yr arddangosfeydd yn agored rhwng 10am ac 8pm.

Bydd y digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae’r A55 yn ffordd o bwys i’r Gogledd. Bydd y prosiect sylweddol hwn yn dod â llawer o fanteision yn ei sgil, gan gynnwys llif traffig gwell a lleihau amser teithio heb sôn am wella ein gallu i ddelio ag argyfyngau.

“Mae arddangosfeydd fel hyn yn gyfle da i bobl ddysgu am y cynigion sydd o dan ystyriaeth a dweud eu dweud.

“Mae’r cynllun hwn yn enghraifft wych o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn yr A55.”

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://beta.llyw.cymru/a55-cyffordd-15-ac-16