Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynigion annibynnol sy'n golygu y caiff myfyrwyr swm sydd werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn ystod y tymor tra byddant yn astudio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi, cyhoeddwyd cynigion i drawsnewid cyllid i fyfyrwyr o Gymru yn llwyr yn dilyn adolygiad annibynnol dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond a phanel o arbenigwyr.

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru, sy'n nodi sut y bydd yn sicrhau bod addysg uwch a threfniadau cymorth ariannol i fyfyrwyr yng Nghymru yn sefydlog ac yn gynaliadwy.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu, gyda mân newidiadau yn unig, y pecyn a awgrymwyd gan Diamond.

Mae hyn yn golygu y gallai myfyriwr o Gymru gael grant o £7,000 y flwyddyn wrth astudio, gyda fersiwn pro-rata ar gael i fyfyrwyr rhan-amser. Disgwylir i uchafswm y cymorth posibl fod yn fwy na £9,000 y flwyddyn ar gyfer y rheini sy'n astudio'n llawn amser, os bydd y cynigion yn cael eu rhoi ar waith yn 2018/19.

Fe wnaeth adolygiad Diamond fodelu ystod o drothwyon incwm ar gyfer y rheini sy'n gymwys i gael cymorth ariannol yn seiliedig ar brawf modd. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu £59,200 fel y trothwy incwm uchaf.  Mae'r ffigur hwn yn gynnydd o tua £8,000 o'i gymharu â'r trefniadau presennol.

Byddai hyn yn golygu bod 70% o fyfyrwyr o Gymru yn gymwys i gael rhyw fath o gymorth grant sy'n seiliedig ar brawf modd, yn ogystal â grant cyffredinol gwerth £1,000. Bydd tua 35% yn gymwys i gael y lefel uchaf o gymorth grant.

Mae'r cynigion sydd wedi cael eu derbyn yn cynnwys:

  • Newid sylfaenol i system sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer costau byw myfyrwyr llawn amser a rhan-amser drwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau. Byddai'n golygu bod myfyrwyr yn cael swm sydd werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn ystod y tymor tra byddant yn astudio.
  • Grant cynhaliaeth cyffredinol blynyddol o £1,000 i bob myfyriwr, nad yw'n seiliedig ar brawf modd, ochr yn ochr â'r grant ychwanegol ar gyfer costau byw sy'n seiliedig ar brawf modd. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael fersiwn wedi'i haddasu o'r cymorth hwn ar sail pro-rata.
  • Dylai'r gyfradd uchaf o gymorth drwy'r grant cynhaliaeth a'r benthyciad ar gyfer myfyrwyr sy'n byw oddi cartref y tu allan i Lundain, fod yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol - sef £8,100 ar hyn o bryd, yn seiliedig ar 37.5 awr yr wythnos dros gyfnod o 30 wythnos. Bydd uchafswm cymorth sydd 25% yn fwy (£10,125) ar gael i fyfyrwyr sy'n byw oddi cartref yn Llundain.
  • Caiff cymorth cynhaliaeth ei dalu i fyfyrwyr bob mis er mwyn iddynt allu cynllunio a chyllidebu'n fwy effeithlon.
  • Ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr rhan-amser, a phecyn cymorth ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig sy'n helpu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.
  • Bydd myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yn derbyn uchafswm y grant cynhaliaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig, a bwriedir y bydd y trefniadau newydd yn weithredol ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau yn y brifysgol ym mis Medi 2018. Bydd y newidiadau yn amodol ar gael cymeradwyaeth y Trysorlys a gallu'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i roi'r system ariannu newydd ar waith.

  

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: 

“Rydym yn bwriadu cyflwyno'r system fwyaf hael a blaengar sydd ar gael yn unrhyw le yn y DU. Os ydych am fynd i'r brifysgol, bydd y system hon yn caniatáu i chi wneud hynny. Eich gallu academaidd ddylai fod y brif ffactor wrth bennu a ydych yn mynd i'r brifysgol, nid eich cefndir cymdeithasol. Bydd myfyrwyr o Gymru yn cael cymorth i dalu am eu costau byw o ddydd i ddydd; sef rhywbeth maen nhw'n ei grybwyll yn aml fel rhwystr iddynt fynd i'r brifysgol.

“Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gallu cadarnhau ein bwriad i gyflwyno'r system gyntaf yn y DU sy'n gyson, yn flaengar ac yn deg o ran ei chymorth ar gyfer israddedigion llawn amser a rhan-amser, yn ogystal â myfyrwyr ôl-raddedig.

“Mae'n amlwg i mi fod angen setliad ariannol arnom ar gyfer addysg uwch yng Nghymru sy'n gynaliadwy ac yn flaengar, gan roi cymorth i fyfyrwyr pan fo'i angen arnynt fwyaf, a hefyd, sy'n galluogi ein prifysgolion i gystadlu'n rhyngwladol.

“Rydym wedi edrych yn ofalus ar argymhellion Syr Ian Diamond ac wedi derbyn y mwyafrif helaeth ohonynt, yn ogystal ag ymrwymo i ystyried rhai o'r cynigion eraill ymhellach. Rydym wedi penderfynu cyfyngu ar y cynnydd i’r trothwy uchaf o ran incwm aelwydydd ar gyfer cymorth sy'n seiliedig ar brawf modd i £59,200, gan ein bod o'r farn y byddai hyn yn synhwyrol ac yn ddoeth o ystyried y rhagolygon ariannol o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Mae ein cynigion yn cynrychioli newid sylfaenol, fel y gall Cymru ddatblygu system ariannu ar gyfer addysg uwch a system gyllid i fyfyrwyr sy'n darparu cymorth i bawb.”