Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau yn eu lle i ddelio ag effaith bosibl stormydd y gaeaf ar gerbydau nwyddau trwm sy’n teithio i Ynys Môn ac oddi yno tra bo cyfyngiadau pwysau mewn grym ar Bont Menai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn stormydd difrifol, pan fydd cyflymder y gwynt yn uwch na chyflymder penodol, mae Pont Britannia ar gau i gerbydau ag ochrau uchel.  Mae'r cerbydau hyn fel arfer yn cael eu dargyfeirio at Bont Menai, ond ni fydd hynny'n bosibl tra bo'r cyfyngiadau pwysau mewn grym.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y mae Pont Britannia yn cau i gerbydau ag ochrau uchel, ac mae hynny wedi digwydd saith gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae'r cynlluniau hyn wedi cael eu trafod gyda phartneriaid yn cynnwys UK Highways, NMWTRA, Heddlu Gogledd Cymru a'r awdurdodau lleol.  Y nod yw sicrhau bod gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn cael gwybod am wyntoedd cryfion o flaen llaw, a’u bod yn gallu aros mewn lle diogel i'r bont ailagor os oes angen, gan beidio ag effeithio ar lôn gerbydau'r A55 a'r ardal leol.

Os bydd cyflymder y gwynt yn uwch na'r terfyn diogel ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, ac na fyddant bellach yn gallu croesi Pont Britannia, bydd cerbydau nwyddau trwm ar y tir mawr sy'n teithio i Ynys Môn yn cael eu cynghori i stopio a thynnu at un ochr mewn lleoliad diogel ar hyd yr A55, fel cilfannau, gorsafoedd gwasanaeth neu fannau parcio, ac aros i'r cyfyngiadau gael eu codi.

Bydd cerbydau nwyddau trwm ar Ynys Môn yn cael eu dargyfeirio yn ôl i Barc Cybi, cyfleuster parcio Plot 9 i aros i’r cyfyngiadau gael eu codi. Bydd arwyddion VMS ar waith y ddwy ffordd i roi gwybod i yrwyr bod y bont at gau.

Bydd Traffig Cymru hefyd yn darparu diweddariadau rheolaidd ar Twitter, Traffig Cymru Gogledd-Canolbarth (@TraffigCymruG) / Twitter a drwy ei wefan, Traffig Cymru.

Ar hyn o bryd mae cyfyngiad pwysau ar Bont Menai o 7.5T nes bod yr hangeri newydd yn cael eu gosod yn lle’r hen rai.  Bydd y gwaith, sy'n cael ei wneud gan UK Highways, yn dechrau ar y bont y flwyddyn nesaf.

Yn anffodus, nid oes modd dechrau'r gwaith ynghynt am nad yw'r deunyddiau ar gael ac oherwydd amserlenni gweithgynhyrchu. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn yr amser byrraf posibl i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosibl.

Rhagor o wybodaeth am Bont Menai