Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn mynd ati i ddatblygu polisïau ar gyfer defnyddio'n moroedd mewn ffordd gynaliadwy.

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd y Cynllun Morol cyntaf ar 12 Tachwedd 2019. Mae'n amlinellu ein polisi ar gyfer defnyddio'n moroedd mewn ffordd gynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf. Rydym wedi cyhoeddi canllaw gweithredu hefyd.  Bydd yn sicrhau bod y polisïau yn CMCC yn cael eu rhoi ar waith yn effeithlon ac mewn ffordd gyson.  Dylech ddarllen y canllaw ochr yn ochr â CMCC. 

Pam cynllunio

O dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir, mae'n rhaid inni baratoi Cynllun Morol. Gweinidogion Cymru yw’r Awdurdod Cynllunio ar gyfer:

  • dyfroedd glannau Cymru (hyd at 12 milltir forol o'r lan)
  • môr mawr Cymru (rhwng 12 a 200 o filltiroedd morol o’r lan)

Mae'r Cynllun Morol yn cynnwys cynlluniau a pholisïau fydd yn:

  • cefnogi'n gweledigaeth ar gyfer moroedd glân, iach, diogel ac amrywiol
  • llywio datblygu cynaliadwy yn y dyfodol
  • cefnogi twf gofod morol ac adnoddau naturiol ('twf glas')

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar gynnydd gyda chynlluniau morol yng Nghymru 2015-2021.

Gweithredu’r cynllun

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus wneud penderfyniadau yn seiliedig ar y polisïau yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mae’r Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol yn helpu awdurdodau cyhoeddus i ddeall eu swyddogaeth. Rydym hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: cwestiynau cyffredin a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru: adroddiad mapio rhanddeiliaid.

I roi’r CMCC ar waith yn effeithlon, rydym wedi cynhyrchu nifer o ddogfennau ategol:

I ddeall mwy am y cynllun, gweler:

Wrth ddatblygu'r cynllun, rydym wedi cael mewnbwn gan randdeiliaid, yn y ffyrdd canlynol:

    Tystiolaeth

    Bydd sicrhau sylfaen dystiolaeth gref:

    • yn gwella ein gwybodaeth am ein moroedd
    • yn llywio defnydd a dull o reoli cynaliadwy ar gyfer ein moroedd
    • yn sicrhau gwaith cynllunio morol effeithiol

    Mae'n sylfaen dystiolaeth yn cynnwys:

    Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru'r adroddiad ar dystiolaeth forol o bryd i’w gilydd. Bydd hynny’n rhoi dealltwriaeth inni o’n moroedd.