Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

a) Mae’r ddogfen hon yn nodi’r telerau a’r amodau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod ar gyfer  Cynllunwyr Coetir Cofrestredig i gynllunio, paratoi a chyflwyno Cynllun Coetir drwy Gynlluniau Cynllunio Coetir Llywodraeth Cymru.

b) Rhaid i ymgeisydd sy’n gwneud cais i Gynlluniau Cynllunio Coetir Llywodraeth Cymru ddefnyddio Cynllunydd Coetir Cofrestredig i gynllunio, paratoi a chyflwyno Cynllun Coetir i dderbyn cyllid. Mae Cynllunwyr Coetir Cofrestredig yn chwarae rhan allweddol pan roddir ar waith gynlluniau Cynllunio Coetir mewn partneriaeth â’r ymgeisydd, ei asiant awdurdodedig, tîm Rhaglen Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru.

c) Mae’r ddogfen hon yn ceisio sicrhau bod Cynlluniau Coetir yn cael eu creu i safonau proffesiynol uchel iawn, sydd wedi’u hadlewyrchu yng ngofynion cofrestru Cynllunwyr Coetir Cofrestredig, ac yr ymdrinnir â pherfformiadau anfoddhaol yn  y fath fodd fel y  diogelir y safonau hyn.

d) Bydd y Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu hadolygu yn ôl yr angen. Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei pholisi o ymgynghori’n barhaus ar sut y rhoddir y Telerau a’r Amodau hyn ar waith.

1. Diffiniadau

Gweler Atodiad I am restr lawn o ddiffiniadau perthnasol i’r ddogfen hon.

2. Cofrestr Cynllunwyr Coetir

a) Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Cofrestr o Gynllunwyr Coetir Cofrestredig (“y Gofrestr”) a’r busnesau y maent yn gweithio iddynt. Dim ond y Cynllunwyr hyn fydd yn gymwys i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Coetir ar ran ymgeiswyr ar gyfer cynlluniau Cynllunio Coetir Llywodraeth Cymru oni nodir yn benodol fel arall yn nogfennau’r cynllun dan sylw.

b) Bydd y Gofrestr yn rhestru manylion y Cynllunydd Coetir Cofrestredig gan gynnwys yr ardal ddaearyddol y mae'n gweithio ynddi, p'un a yw'r unigolyn yn siaradwr Cymraeg a chrynodeb byr o'r math o waith y mae'r unigolyn yn arbenigo ynddo.

c) Bydd y Gofrestr yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru er mwyn i aelodau'r cyhoedd ddod o hyd i Gynllunydd Coetir Cofrestredig. Felly, bydd gwybodaeth am fusnesau cofrestredig a Chynllunwyr Coetir Cofrestredig unigol a ddarperir wrth wneud cais i fod ar y Gofrestr yn cael ei chyhoeddi. Mae'r Cofrestr Cynllunwyr Coetir: hysbysiad preifatrwydd ar gael. 

d) I fusnes gael ei gynnwys ar y Gofrestr, rhaid iddo:-

  • cyflogi o leiaf un Cynllunydd Coetir Cofrestredig cymwys
  • cadarnhau y bydd Cynllunydd Coetir Cofrestredig yn cymeradwyo bob cynllun sy’n cael ei greu, a
  • darparu cyswllt canolog yn y busnes i Lywodraeth Cymru

e) I gynnwys busnes neu unigolion ar y Gofrestr, rhaid defnyddio ceisiadau ar wahân.

f) Mae angen Cyfeirnod y Cwsmer (CRN) ar bob busnes gan Daliadau Gwledig Cymru (RPW). 

g) Os ydych yn cofrestru fel rhan o sawl busnes, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi ystyried unrhyw Wrthdaro Buddiannau a bod eich Cyfeirnod Cwsmer (CRN) a'ch yswiriant Indemniad Proffesiynol yn bodloni'r amodau ar gyfer busnesau.

h) Rhaid i bob Cynllunydd Coetir Cofrestredig hefyd gael ei gofrestru i gyflwyno cynlluniau drwy Gofrestr Cynlluniau Coetir (WPR) ar-lein Llywodraeth Cymru.

i) Os ydych yn symud i fusnes coedwigaeth arall, yn ymddeol neu wedi rhoi’r gorau i waith coedwigaeth, rhaid ichi roi gwybod i Lywodraeth Cymru a fydd yn diweddaru’r Gofrestr a’r WPR.

3. Cymhwysedd i fod yn Gynllunydd Coetir Cofrestredig

a) Rhaid i Gynllunydd Coetir Cofrestredig fod yn Aelod Cyswllt neu Lawn Broffesiynol o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig (ICF) neu gorff proffesiynol cyffelyb, megis Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) neu’r Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli’r Amgylchedd (CIEEM).

b) Mewn amgylchiadau eithriadol, os nad yw’r unigolyn yn Aelod o Sefydliad Siartredig ond bod ganddo dystiolaeth o lunio cynlluniau coetir sy’n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU o fewn y 5 mlynedd ddiwethaf, mae’n bosibl y bydd yn gymwys.

c) Os yw’r Cynllunydd Coetir Cofrestredig yn aelod cyswllt o Sefydliad Siartredig neu gyfwerth, gall barhau ar y Gofrestr gyda’r statws hwnnw am hyd at 10 mlynedd o ddyddiad ymuno â’r Gofrestr; wedi hynny mae’n rhaid iddo gael aelodaeth broffesiynol lawn neu efallai y caiff  ei dynnu oddi ar y Gofrestr, oni bai bod ganddo dystiolaeth o lunio cynlluniau coetir ar gyfer daliadau yng Nghymru sy’n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU o fewn y 5 mlynedd ddiwethaf.

d) Mae’n rhaid i’r unigolyn a/neu’r busnes feddu ar dystysgrif Yswiriant Indemniad Proffesiynol ddilys gyda gwerth yswiriedig o ddim llai na £500,000 a rhaid sicrhau bod ganddo yswiriant digonol i indemnio’r gwaith sy’n cael ei wneud. Mae’n rhaid  bod â pholisi Yswiriant Indemniad Proffesiynol cyfredol cyfwerth â’r swm uchod tra pery’r Cofrestriad.

e) Rhaid i Gynllunydd Coetir Cofrestredig gadw cofnod da o gyflwyno Cynlluniau Coetir wedi'u cwblhau'n llawn sy'n bodloni'r safonau a nodir yn Adran 4. Mae angen cyflwyno Cynlluniau Coetir i RPW a chwrdd yn gyson â'r terfynau amser a bennir gan Lywodraeth Cymru neu CNC. 

f) Bydd CNC a Llywodraeth Cymru yn trefnu diwrnodau hyfforddi gorfodol i Gynllunwyr Coetir Cofrestredig o fewn o leiaf 8 wythnos o rybudd. I aros ar y Gofrestr, rhaid i Gynllunwyr fynychu pob sesiwn hyfforddi oni bai bod rheswm cryf dros beidio â mynychu.

g) Unwaith y bydd ar y Gofrestr, disgwylir i Gynllunydd Coetir Cofrestredig gwblhau o leiaf un Cynllun Coetir Llywodraeth Cymru yn flynyddol neu roi esboniad i Lywodraeth Cymru pam nad yw hyn wedi bod yn bosibl. Gellir gwirio hyn drwy'r WPR. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal yr asesiad hwn yn flynyddol.

h) Rhaid i Gynllunydd Coetir Cofrestredig beidio â darparu gwybodaeth neu ddatganiadau ffug neu gamarweiniol, na chadw gwybodaeth hanfodol yn ôl, a allai arwain at roi cymeradwyaeth, neu daliad grant, yn amhriodol gan Lywodraeth Cymru.

i) Rhaid i Gynllunydd Coetir Cofrestredig drin staff Llywodraeth Cymru a CNC, ymgeiswyr ac aelodau o'r cyhoedd gyda chwrteisi a pharch, a gweithredu yn unol â chod ymddygiad eu corff proffesiynol.

4. Safonau a pholisïau

a) Disgwylir i bob Cynllunydd Coetir Cofrestredig ddarparu gwasanaeth a Chynllun Coetir ar gyfer ymgeisydd gan ddangos arbenigedd, gofal a diwydrwydd a chan gydymffurfio â’r Safonau a pholisïau Coedwigaeth a ganlyn:

  • Cod Ymddygiad, Gwerthoedd Proffesiynol a Rheolau Ymddygiad ac Ymarfer  Proffesiynol - Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig
  • Rheolau Ymddygiad ar gyfer Aelodau a Chwmnïau – Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
  • Cod Ymddygiad Proffesiynol (‘y Cod’) - Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol)
  • Safon Coedwigaeth y DU (UKFS)
  • Canllawiau’r Cynlluniau Cynllunio Coetir Llywodraeth Cymru

b) Pan baratoir Cynllun Coetir i’w gymeradwyo, mae’n rhaid i’r Cynllunydd Coetir Cofrestredig fod yn fodlon, lle bo hynny’n berthnasol, fod unrhyw waith a wneir yn bodloni, neu’n parhau i fodloni, gofynion y cynllun dan sylw a gofynion Safon Coedwigaeth y DU, a bod yr holl ddogfennaeth wedi cael ei pharatoi gyda gofal a diwydrwydd priodol a chan ystyried yn ddigonol ofynion y cynllun.

c) Os bydd y Cynllunydd Coetir Cofrestredig yn methu â chydymffurfio â rheolau’r cynllun neu Safon Coedwigaeth y DU heb eglurhad dilys fel sydd yn ofynnol; os bydd  yn darparu cyngor anghywir; neu os yw’n rhoi rhy ychydig o wybodaeth i’r Cynllun Coetir allu cael ei gymeradwyo, ni fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os gwrthodir y Cynllun Coetir hwnnw. Ni fydd chwaith yn talu am unrhyw waith pellach sydd ei angen er mwyn sicrhau bod y Cynllun Coetir yn cael ei dderbyn.

5. Diweddaru’r gofrestr, rhybuddion a chosbau

Bob blwyddyn, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu a yw’r Gofrestr yn parhau i fodloni’r gofynion cymhwystra.

a) Bydd Grŵp Llywio yn cael ei greu a fydd yn cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru a’r cyrff siartredig i asesu a yw’r Cynllunwyr Coetir Cofrestredig sydd ar y Gofrestr, gan gynnwys ymgeiswyr newydd, yn cydymffurfio â’r gofynion cymhwystra.

b) Bydd yn ofynnol i dîm Rhaglen Coetir CNC ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i Grŵp Llywio’r Cynllunwyr sy’n methu â bodloni’r Safonau a Pholisïau’r Gofrestr.

c) Os yw’r Grŵp Llywio yn ystyried nad yw unrhyw un o’r meini prawf cymhwystra wedi’i fodloni, hysbysir y Cynllunydd Coetir Cofrestredig a/neu’r Busnes yn ysgrifenedig a rhoddir cyfle iddo   ymateb o fewn mis; a rhoddir cyfle iddo gyfarfod â’r Grŵp Llywio i drafod y mater. 

d) Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan y Cynllunydd Coetir Cofrestredig a/neu’r Busnes, bydd y Grŵp Llywio yn penderfynu a ddylid tynnu’r cynllunydd neu’r busnes oddi ar y Gofrestr am hyd at 2 flynedd.

e) Mewn amgylchiadau lle caiff y Cynllunydd Coetir Cofrestredig ei dynnu oddi ar y Gofrestr, mae’n rhaid trosglwyddo pob Cynllun Coetir sy’n cael ei ddatblygu ar yr adeg honno i Gynllunydd Coetir Cofrestredig arall yn y busnes neu ei anfon yn ôl at Lywodraeth Cymru a fydd yn ei ailddyrannu i Gynllunydd Coetir Cofrestredig arall.

f) Bydd yr ymgeisydd yn cael ei hysbysu am unrhyw sancsiynau y bydd Llywodraeth Cymru yn    eu rhoi i Gynllunydd Coetir Cofrestredig neu Fusnes Cofrestredig. 

g) Pan fydd busnes yn ymddangos ar y Gofrestr a chanddo nifer o Gynllunwyr Coetir Cofrestredig, bydd y busnes yn gyfrifol am gydymffurfio â'r Telerau a’r Amodau hyn a gellir ei dynnu oddi ar y Gofrestr os nad yw'r Cynllunwyr Coetir Cofrestredig yn y busnes yn cydymffurfio â nhw.

6. Darpariaethau cyffredinol

a). Disgwylir i Gynllunwyr Coetir Cofrestredig a Busnesau Cofrestredig gydymffurfio â phob gofyniad rhesymol mewn perthynas â chwblhau a dychwelyd ffurflenni a dogfennau yn briodol a rhaid   iddo ddarparu, heb ormod o oedi, unrhyw wybodaeth berthnasol i’r cynllun Cynllunio Coetir perthnasol gan Lywodraeth Cymru y bydd Llywodraeth Cymru o dro i dro yn gofyn amdani, gan gynnwys cais am weld cofnodion a gedwir gan y Cynllunydd Coetir Cofrestredig neu ei gyflogwr.

b) Disgwylir i CNC a Llywodraeth Cymru gydymffurfio â’r holl ofynion rhesymol ar gyfer gwybodaeth briodol sy’n berthnasol i gynlluniau Cynllunio Coetir Llywodraeth Cymru.

c) Pan fydd yn llunio Cynllun Coetir, mae’r Cynllunydd Coetir Cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau bod ganddo’r holl drwyddedau angenrheidiol, y dogfennau cysylltiedig a’r cydsyniadau gofynnol.

d) Disgwylir i Gynllunwyr Coetir Cofrestredig a Busnesau Cofrestredig weithredu yn unol â Safonau a Pholisïau’r Gofrestr, gan gynnwys defnyddio’r holl gyfleusterau TG, y systemau gweinyddol newydd a’r systemau ar-lein y bydd Llywodraeth Cymru efallai yn gofyn iddo eu defnyddio.

e) Un o’r amodau cofrestru yw bod pob gweithgaredd lle derbynnir grant yn cael ei gynnal yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, mewn perthynas â threthi a chyflogaeth ymhlith pethau  eraill. Efallai y bydd yn ofynnol i Gynllunydd Coetir Cofrestredig neu Fusnes Cofrestredig wneud datganiad i ddweud ei fod yn cydymffurfio yn hyn o beth.

f) Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i ddileu neu ddiwygio’r Telerau a’r Amodau hyn neu eu disodli gan roi rhai eraill yn eu lle a bydd yn rhoi gwybod i’r holl Gynllunwyr Coetir Cofrestredig cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd Safon Coedwigaeth y DU a  gymhwysir i gynlluniau Cynllunio Coetir Llywodraeth Cymru, hefyd yn cael ei diwygio o bryd i’w gilydd. Fe hysbysir pob Busnes Cofrestredig a Chynllunydd Coetir Cofrestredig unigol lle bo’n berthnasol yn ysgrifenedig cyn i ddim byd gael ei ddileu na’i newid na’i ddisodli ac fe roddir iddynt rybudd rhesymol o unrhyw newidiadau o’r   fath. Cyfrifoldeb y Busnes Cofrestredig ydyw i rannu unrhyw newidiadau y caiff wybod amdanynt gyda’i Gynllunwyr Coetir Cofrestredig.

g) Ni fydd yr hawliau a’r rhwymedïau a nodir yn y ddogfen hon yn rhagfarnu unrhyw hawliau neu rwymedïau sydd ar gael i’r gwahanol bartïon o dan y gyfraith gyffredin.

h) Gall y naill barti neu’r llall derfynu cofrestriad o dan y Telerau a’r Amodau hyn drwy roi rhybudd ysgrifenedig. Bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu’r Busnes Cofrestredig a/neu’r Cynllunydd Coetir Cofrestredig yn ysgrifenedig os bydd ei gofrestriad yn cael ei derfynu heb ei ganiatâd.

i) Gall Llywodraeth Cymru derfynu cofrestriad o dan y Telerau a’r Amodau hyn yn ddiymdroi os bydd Busnes Cofrestredig, Cynllunydd Coetir Cofrestredig neu ei gyflogwr yn methdalu neu os cychwynnir achos ansolfedd, derbynyddiad neu fethdaliad gan neu yn erbyn y Busnes Cofrestredig, y Cynllunydd Coetir Cofrestredig neu ei gyflogwr, neu os penodir gweinyddwr, neu os bydd y Busnes Cofrestredig neu’r Cynllunydd Coetir Cofrestredig yn aseinio’r cytundeb hwn neu unrhyw hawliau o dan y cytundeb hwn heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

j) Pan fo Cynllunydd Coetir Cofrestredig yn trosglwyddo cyflogaeth o un busnes i’r llall, rhaid i’r busnes y mae’r Cynllunydd Coetir Cofrestredig wedi trosglwyddo iddo gyflwyno cais newydd.

7. Datgelu data

Rhannu Data Personol

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn cael ei defnyddio er mwyn:

  • cyhoeddi Cofrestr o Fusnesau Cofrestredig a Chynllunwyr Coetir Cofrestredig unigol (gan gynnwys enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost)
  • ei hychwanegu at yr WPR
  • cadarnhau gyda Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig neu gyrff proffesiynol cydnabyddedig eraill fod y Cynllunydd Coetir Cofrestredig yn aelod o’r corff proffesiynol
  • darparu gohebiaeth barhaus megis gwahoddiadau i hyfforddiant a digwyddiadau, diweddariadau ar bolisïau a chynlluniau coetir
  • galluogi Llywodraeth Cymru (neu ei hasiantau) i ddarparu hyfforddiant, prosesu Cynlluniau Coetir a’u gweinyddu, a gwirio bod y Busnesau Cofrestredig a’r Cynllunwyr Coetir Cofrestredig yn cynnal y safonau
  • caniatáu i bartner-sefydliadau gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol. Efallai y bydd angen inni rannu gwybodaeth bersonol ag awdurdodau rheoleiddiol, megis Cyllid a Thollau EF, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Heddlu er mwyn asesu cymhwysedd

Cyhoeddi a Datgelu Gwybodaeth

Rheolir a defnyddir yr wybodaeth gan Lywodraeth Cymru yn unol â’i rhwymedigaethau a’i dyletswyddau o dan y ddeddfwriaeth a ganlyn:

  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
  • Deddf Diogelu Data 2018
  • Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Efallai y bydd aelod arall o’r cyhoedd yn gofyn am eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatgelu gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan y ddeddfwriaeth uchod.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol a gynhwysir mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru arnoch chi
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar hynny
  • (mewn rhai amgylchiadau) i'ch data gael ei 'ddileu'
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd fel a ganlyn:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH                                                                                                                       

Rhif ffôn: 0330 414 6421 
Gwefan: https://ico.org.uk/

Atodiad I: diffiniadau

Mae ‘Busnes Cofrestredig’ yn golygu’r busnes sydd wedi gwneud cais i fod ar y Gofrestr ac sy’n cyflogi’r Cynllunwyr Coetir Cofrestredig.

Mae ‘Cofrestr Cynlluniau Coetir (WPR)’ yn ganolbwynt canolog ar gyfer y cynlluniau Cynllunio Coetir, a grëwyd i hwyluso'r broses o gynllunio coetiroedd ar gyfer pob parti yn ystod y broses ddilysu.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddolen ganlynol: Cofrestr Cynlluniau Coetir | LLYW.CYMRU 

Mae ‘Cymeradwyo’ yn golygu cymeradwyo a gwirio Cynllun Coetir ar ôl i Lywodraeth Cymru neu Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gynnal gwiriadau dilysu.

Mae 'Cynlluniau Coetir' yn golygu'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â chynlluniau Cynllunio Coetir Llywodraeth Cymru. 

Mae ‘Cynllunydd Coetir Cofrestredig’ yn golygu unigolyn sy’n darparu gwasanaethau coedwigaeth ac sydd wedi’i dderbyn ar y Gofrestr o Gynllunwyr Coetir Cofrestredig (y cyfeirir ati fel y Gofrestr) ac felly’n cytuno i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau sydd wedi’u nodi yn y ddogfen hon.

Mae’r ‘Gofrestr o Gynllunwyr Coetir’ yn golygu rhestr gwefan Llywodraeth Cymru o'r holl gynllunwyr coetir cofrestredig. Cyfeirir ati fel “Y Gofrestr”. 

Mae ‘Grŵp Llywio’ yn golygu’r grŵp a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a’r cyrff siartredig i oruchwylio ac adolygu’r Gofrestr o Gynllunwyr Coetir Cofrestredig.

Mae i ‘Llywodraeth Cymru’ yr un ystyr ag yn adran 4 o Ddeddf Cymru 2014. Mae Taliadau Gwledig Llywodraeth Cymru (RPW) yn rheoli'r cynlluniau Coetir ac mae tîm Polisi Coedwig Llywodraeth Cymru yn darparu'r polisi coedwigaeth ar gyfer y cynlluniau.

Mae ‘Safonau a Pholisïau’ yn golygu’r holl safonau hynny a restrir yn Adran 4.

Mae ‘Safon Coedwigaeth y DU (UKFS)’ yn golygu’r safon gyfeiriol ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.

Taliadau Gwledig Cymru (RPW)’ yw’r gangen o Lywodraeth Cymru sy’n rheoli cynlluniau Cynllunio Coetir Llywodraeth Cymru.

Mae ‘tîm Rhaglen Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)’ yn golygu’r tîm sydd wedi’i leoli yn CNC sy’n gwirio bod y cynlluniau coetir yn cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS), rheolau’r cynllun a’r rheolau gwerth am arian.

Mae ‘Ymgeisydd’ yn golygu’r unigolyn neu’r endid a enwir yn y modd hwn ar ddatganiad o ddiddordeb neu gais cynllun Cynllunio Coetir Llywodraeth Cymru.