Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn rhoi disgrifiad cryno o'r cymorth sy'n cael ei gynnig i gadw tir o dan dystysgrif organig lawn yn 2026.

Bydd y cymorth hwn ar gael i ffermwyr sy'n ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ac i ffermwyr sy'n parhau i hawlio BPS yn 2026. 

Bydd ffermwyr sydd wedi'u hardystio'n gwbl organig ac sy'n ymuno â'r SFS yn 2026 o dan yr haen opsiynol, yn cael hawlio Taliad Organig ar gyfer 2026. Bydd y canllawiau llawn i'w gweld yn llyfryn rheolau Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2026.

Ar gyfer ffermwyr sydd â thystysgrif organig lawn ac sy'n hawlio BPS yn 2026, bydd y canllawiau llawn yn cael eu cyhoeddi yn llyfryn rheolau SAF 2026 y BPS lle bydd ffermwyr yn cael hawlio Cymorth Organig 2026.

Darllenwch y llyfrynnau rheolau yn ofalus. Os ydych wedyn yn credu'ch bod yn gymwys i gael cymorth, gallwch gyflwyno cais ar ffurflen SAF 2026.

Mae Cymorth Organig a Thaliad Organig 2026 yn daliad fesul hectar ar dir cymwys i gynhyrchwyr amaethyddol sydd eisoes yn organig yng Nghymru ac a fydd yn cadw tir o dan dystysgrif organig lawn yn ystod 2026.

Cyfraddau talu

Bydd y cyfraddau talu yn seiliedig ar y defnydd tir y byddwch wedi'i ddatgan ar eich SAF 2026. Dyma gyfraddau talu'r Cymorth Organig a'r Taliad Organig: 

Cyfradd DaluDisgrifiadTaliad 
Garddwriaeth£375 / ha
2Tir wedi'i amgáu gyda chnydau cylchdro/glaswelltir dros dro£76 / ha
3Tir wedi'i amgáu â chnydau / glaswelltir parhaol£60 / ha
Tir wedi'i amgáu gyda glaswelltir parhaol a dros dro gyda menter odro.£155 / ha
Tir sy'n uwch na'r tir uchaf sydd wedi'i amgáu a thir penodedig arall£10 / ha

Diffinio’r cyfraddau talu

Cyfradd Dalu 1: Garddwriaeth

Tir a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu garddwriaethol yn 2026.

Rhaid tyfu a gwerthu cnydau garddwriaethol ar raddfa fasnachol (bydd angen tystiolaeth). Dylai graddfa'r cynhyrchu fod yn debyg i lefelau cynhyrchu organig masnachol. 

Os nad oes gennych dystiolaeth eich bod yn gwerthu'n fasnachol, er enghraifft, gan nad yw'r cnwd yn barod i'w gynaeafu, e.e. gwinllan neu berllan sydd newydd ei sefydlu, efallai y gallwn eich talu os gallwch gyflwyno tystiolaeth, e.e. anfonebau ar gyfer y planhigion a / neu luniau geo-dag o'r cnwd yn y ddaear, i ddangos y bydd eich menter yn gweithredu ar raddfa fasnachol.

Rhaid tyfu cnydau garddwriaethol ar yr holl dir sy'n cael ei hawlio.

Nid yw cnydau porthiant da byw neu gnydau gorchudd yn gymwys. 

(Dim ond tir lle mae'r cnwd garddwriaethol yn cael ei dyfu sy'n gymwys. Byddai tir arall o fewn y cylchdro yn gymwys i gyfradd talu 2)

Cyfradd Dalu 2: Tir wedi'i amgáu gyda chnydau cylchdro/glaswelltir dros dro

Tir o fewn cylchdro, megis tir âr, glaswelltir o fewn cylchdro âr a glaswelltir dros dro.

Cyfradd Dalu 3: Tir wedi'i amgáu â chnydau / glaswelltir parhaol

Tir nad yw o fewn cylchdro cnydau / cnydau parhaol.

Glaswelltir parhaol: GR2 a GR8

Garddwriaeth wedi'i ddosbarthu fel cnydau parhaol, e.e. perllannau.

Cyfradd Dalu 4: Tir wedi'i amgáu gyda glaswelltir parhaol a dros dro gyda menter odro

Gall tir fod yn laswelltir o fewn cylchdro cnydau, yn laswelltir parhaol neu’n laswelltir dros dro.

  • glaswelltir parhaol: GR2 a GR8
  • glaswelltir dros dro: GR1

Dim ond i'r rheini sydd â menter odro y caiff y gyfradd dalu hon ei thalu h.y. anifeiliaid godro a stoc godro ifanc.

Ar gyfer ffermydd â mwy nag un fenter, er enghraifft, uned odro a defaid, dim ond y tir a ddefnyddir gan y fenter odro y bydd cyfradd 4 yn cael ei thalu arno. Bydd cyfradd dalu 2, 3 neu 5 yn cael ei thalu ar y tir a ddefnyddir gan y fenter ddefaid, gan ddibynnu ar y SAF 2025 a gyflwynwyd neu'r codau cnydau gafodd eu gyflwyno a'u cadarnhau gyda thystiolaeth.

Bydd arwynebedd y tir cymwys sy'n gymwys ar gyfer cyfradd dalu 4 yn cael ei gyfrifo yn ôl nifer yr anifeiliaid godro sydd ar y daliad, ar sail cyfrifiad o’r unedau da byw safonol (LSU). Byddwn yn cymharu'r anifeiliaid y byddwch yn eu datgan ar eich SAF â chofnodion EID Cymru a BCMS.

Da bywUnedau Da Byw (LU)
Buchod godro (dros 24 mis)1 LU
Gwartheg godro ifanc (6-24 mis)0.6 LU
Geifr godro (6 mis neu fwy)0.16 LU
Geifr godro ifanc (llai na 6 mis)0.04 LU
Defaid godro (6 mis neu fwy)0.11LU
Defaid godro ifanc (llai na 6 mis)0.04 LU

Bydd yr arwynebedd mwyaf y caiff cyfradd dalu 4 ei thalu arno yn cael ei gyfrif yn ôl nifer yr anifeiliaid godro organig sydd ar y daliad, gyda lefel stocio uchaf o 1.3 LU / Ha.

Cyfradd dalu 5 - Tir sy’n uwch na therfyn uchaf y tir wedi'i amgáu a thir penodedig arall

Mae tir sy'n uwch na therfyn uchaf y tir sydd wedi'i amgáu yn golygu’r tir sy’n uwch na’r tir amaethyddol sydd wedi’i amgáu. Mae’n agored ei natur ac nid yw wedi cael ei wella at ddiben amaethyddol. (Fel y nodwyd ar MapDataCymru)

Mae tir penodol arall yn cynnwys:

  • Tir Comin sy’n cael ei bori a chi yw’r unig borwr cofrestredig (Tir Comin ag Un Porwr).
  • parseli tir â 50% neu fwy o’r cae yn orgors, yn rhos arfordirol a llawr gwlad neu’n forfa heli sy'n cael ei bori.
  • systemau da byw ucheldirol heb fod yn ddwys, yn bennaf gyda dwysedd stocio isel.

Byddwn yn nodi'r ucheldir heb ei amgáu a chaeau o dir penodedig arall sy'n gymwys am Gyfradd Dalu 5. 

Arwynebedd y tir y gellir hawlio Cymorth Organig a'r Taliad Organig 2026 arno ac uchafswm y gyfradd dalu

Nid oes terfyn i faint o dir y cewch ei gyflwyno ar gyfer Cymorth Organig a Thaliad Organig 2026.

Bydd y taliad uchaf yn cael ei dapro fel a ganlyn:

ArwynebeddTaliad
0 – 200 ha o dir cymwys100% o’r gyfradd dalu.
200 – 400 ha o dir cymwys50% o’r gyfradd dalu
400 ha +10% o’r gyfradd dalu

O gyrraedd unrhyw rai o’r trothwyon talu, y gyfradd dalu uchaf fydd yn cael ei hystyried gyntaf.

Pan fydd nodweddion anghymwys parhaol yn cael eu cyflwyno neu eu nodi ar barseli tir o fewn y cytundeb, (e.e. coetir neu adeiladau) ni fydd yr arwynebedd hwn yn gymwys am daliad a chaiff ei dynnu o'r hawliad. 

Prif ofynion

Er mwyn bodloni amodau Cymorth Organig a Thaliad Organig 2026, rhaid i’r holl dir sydd o dan y contract fod wedi’i ardystio gan Gorff Ardystio Organig (OCB) yn ddi-dor am flwyddyn y cynllun, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2024. Rhaid cyflwyno Tystysgrif yr OCB a'r Rhestrau Tir diweddaraf erbyn 31 Rhagfyr 2026.

Ni wneir unrhyw daliadau nes bod tystysgrif wedi'i chyflwyno. 

I fod yn gymwys i gael cyfradd dalu 1, bydd gofyn i hawlwyr sydd â menter arddwriaethol gyflwyno tystiolaeth eu bod yn gwerthu cynnyrch garddwriaethol organig nad yw'n borthiant o'r daliad.

I fod yn gymwys i gael cyfradd dalu 4, bydd gofyn i hawlwyr sydd â menter odro gyflwyno tystiolaeth bod llaeth yn cael ei werthu o'r daliad gydol y cyfnod hawlio. I'r rhai sy'n prosesu llaeth ar y daliad, bydd angen cadarnhad ac esboniad o sut maen nhw'n gwerthu eu cynhyrchion llaeth wedi'u prosesu.

Bydd canllawiau llawn yn cael eu cyhoeddi yn llyfryn rheolau SAF 2026 y BPS a llyfryn rheolau SAF 2026 yr SFS. 

Gallai rheolau Cymorth Organig a'r Taliad Organig newid cyn i'r canllawiau a'r rheolau llawn gael eu cyhoeddi.