Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi diolch i dimau brechu gwych Cymru, wrth iddi gadarnhau y bydd pob oedolyn cymwys yng Nghymru wedi cael cynnig brechiad erbyn dydd Llun (14 Mehefin). Mae hynny chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un sydd wedi newid eu meddwl ynghylch cael brechiad i gael apwyntiad – mae gan Gymru bolisi o "beidio â gadael neb ar ôl" ac mae gan bob bwrdd iechyd systemau ar waith i alluogi pobl i gael apwyntiad os ydynt yn credu eu bod wedi'u colli o'r rhestr neu os ydynt wedi newid eu meddwl.

Mae clinigau brechu ledled Cymru yn cyflymu’r gwaith o roi’r ail ddos yn sgil y pryderon cynyddol am ledaeniad yr amrywiolyn delta o’r feirws ar draws y DU.

Dywedodd y Gweinidog:

Mae Cymru yn arwain y byd o ran canran y boblogaeth sydd wedi'u brechu.

Rwy’n hynod falch ein bod heddiw wedi cyrraedd y garreg filltir o gynnig y dos cyntaf i bob oedolyn cymwys yn y wlad – a hynny chwe wythnos yn gynt na’r disgwyl.

Mae hyn yn gyflawniad aruthrol a hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion anhygoel. Ond dydyn ni ddim am laesu dwylo. Yn benodol, hoffwn annog oedolion ifanc i dderbyn y cynnig - dydyn ni ddim am adael neb ar ôl. 

Rydyn ni’n awyddus i weld unigolion 18-39 oed yn cael eu brechu, ac yn gobeithio cyrraedd ein carreg filltir o frechu 75% o’r grŵp oedran hwn erbyn diwedd y mis hwn. Manteisiwch ar y cyfle pan gewch gynnig apwyntiad - mae’n eich diogelu chi, eich anwyliaid a’ch cymunedau, a dyma’r llwybr gorau allan o’r pandemig.

Jenny Spreafico yw Cydlynydd Imiwneiddio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac mae ganddi gefndir o weithio fel nyrs ysgol. Mae hi wedi bod yn arwain rhaglen frechu’r sir yn ogystal â brechu pobl yr ardal.

Dywedodd Jenny:

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi manteisio ar y brechlyn ac annog unrhyw un sydd heb gael y brechlyn eto i ddod i’w gael. Os nad ydych yn gallu cadw eich apwyntiad, rhowch wybod i’ch bwrdd iechyd fel nad yw’ch dos yn cael ei wastraffu. Mae mwy na 85% o bobl yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf. 

“Nid oes terfyn amser ar y cynnig o frechlyn – os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gall gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru eich helpu. Mae’r brechlyn yn eich diogelu chi, eich ffrindiau a’ch teulu – yn ogystal â’ch cymuned.