Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynnig o godiad cyflog hael i staff GIG Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi arian ychwanegol ar ben y cyllid canlyniadol y bydd yn ei dderbyn yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i godi cyflogau staff y GIG yn Lloegr.

Mae’r cynnig, a fydd yn rhoi codiad cyflog i staff ar draws y GIG, wedi’i negodi â’r cyflogwyr a’r undebau. Yn awr bydd angen iddo gael ei gymeradwyo drwy bleidlais gan aelodau’r undebau. Mae’n golygu y bydd cyflogau staff y GIG yng Nghymru yn gyfartal â chyflogau eu cymheiriaid yn Lloegr, yn dilyn y cytundeb newydd ar gyflogau a gyhoeddwyd yno. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd: 

“Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod, yn dilyn trafodaethau ag undebau a chyflogwyr, yn gallu cynnig codiad cyflog haeddiannol i staff ymroddedig y GIG sy’n gweithio mor galed.

“Wrth inni ddathlu 70fed pen-blwydd y GIG yng Nghymru, mae’n briodol ein bod yn cydnabod y rhai sydd wedi gwneud y gwasanaeth yr hyn ydyw heddiw, ac sy’n parhau i ddarparu’r gofal gorau posib i bawb pan fydd ei angen arnynt. Ni fyddai’r GIG yng Nghymru yn gallu gweithredu heb sgiliau, ymroddiad a gwaith caled ei staff. 

Ar ôl blynyddoedd o gyni o du Llywodraeth y DU, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol y tu hwnt i’r hyn a dderbyniwyd yn sgil y codiad cyflog yn Lloegr. Mae hyn yn ein galluogi i wneud cynnig sydd nid yn unig yn deg i’r staff ac i’r trethdalwyr, ond a fydd hefyd yn arwain at well Gwasanaeth Iechyd i Gymru.”

Mae’r cynnig yn cyfateb i’r hyn a gynigiwyd yn Lloegr ac yn mynd y tu hwnt iddo mewn rhai meysydd sy’n bwysig i’r GIG yng Nghymru. 

Mae hyn yn cynnwys  parhau â’r ymrwymiad i edrych ar argymhellion blynyddol y Living Wage Foundation, fel bod graddfeydd cyflog y GIG yn parhau’n deg yn y dyfodol. Yn ogystal, a chan gofio’r ymrwymiadau penodol i wella iechyd, llesiant a phresenoldeb staff y GIG yng Nghymru, mae’r cynnig yn galluogi staff i barhau i fanteisio ar daliadau oriau anghymdeithasol yn ystod cyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch. Bydd yr undebau llafur a’r cyflogwyr hefyd yn cydweithio i gefnogi unigolion sy’n wynebu diagnosis o salwch terfynol, drwy anelu at gefnogi ymgyrch “Dying to Work” y TUC.

Mae’r cynnig cyflog yn cynnwys:

  • mynd y tu hwnt i’n hymrwymiad i argymhellion y Living Wage Foundation drwy gyflwyno cyfradd o £17,460 o 1 Ebrill 2018 ymlaen fel isafswm ar gyfer cyfradd cyflog sylfaenol  y GIG, a chyflog cychwynnol isaf y GIG yn codi i £18,005 yn 20/21; 
  • buddsoddi mewn cyflogau cychwynnol uwch i staff ym mhob band cyflog drwy ddiwygio’r system gyflogau er mwyn dileu pwyntiau cyflog sy’n gorgyffwrdd;
  • gwarantu dyfarniadau cyflog sylfaenol teg am y tair blynedd nesaf i staff sydd ar frig eu bandiau cyflog;
  • gwarantu dyfarniadau cyflog sylfaenol teg a datblygiad cyflog cyflymach am y tair blynedd nesaf i staff nad ydynt eto ar frig eu bandiau cyflog.