Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi y bydd cynhyrchion misglwyf ar gael am ddim i bob menyw yn ysbytai Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Mr Gething:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gynhyrchion misglwyf hanfodol. Rydym eisoes wedi ymrwymo mwy na £1m i fynd i'r afael â thlodi misglwyf yn ein hysgolion a'n cymunedau.

Ar hyn o bryd, mae'r ddarpariaeth o gynhyrchion misglwyf ar gyfer cleifion mewnol mewn ysbytai yn amrywio ledled Cymru, gan fod gan bob bwrdd iechyd ei bolisi ei hun. Rwyf am sicrhau bod pob menyw sy'n mynd i ysbyty yng Nghymru yn gallu cael y cynhyrchion hanfodol hyn. 

Mae'n hollol annerbyniol i unrhyw un beidio cael deunydd addas yn ystod misglwyf am nad ydynt yn gallu eu fforddio, yn enwedig pan fyddant yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty. 

Dylai cleifion ddisgwyl derbyn y driniaeth orau bosibl, gydag urddas, a gan fod yn gyfforddus. Rwyf wedi gofyn i'n swyddogion weithio gyda GIG Cymru i roi'r polisi hwn ar waith cyn gynted â phosibl."