Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod Cynnig Gofal Plant Cymru yn mynd i ailagor, gan ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal i rieni plant 3 a 4 oed ledled Cymru sy’n gweithio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Ebrill, ataliwyd y Cynnig Gofal Plant dros dro er mwyn gallu canolbwyntio adnoddau ar anghenion gofal plant gweithwyr hanfodol a phlant a oedd yn agored i niwed drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws. Ar wythnos olaf y tymor ysgol, roedd ychydig dros 9.000 o blant yn manteisio ar y cynllun hwn.

Wrth i Gymru gymryd camau i lacio’r cyfyngiadau ymhellach, ac wrth i ysgolion baratoi i ailgydio o fis Medi, bydd y Cynnig yn dechrau derbyn ceisiadau o’r newydd, gan alluogi teuluoedd i fanteisio ar y gofal plant.

Bydd modd i rieni a fyddai wedi bod yn gymwys i fanteisio ar y Cynnig yn ystod tymor yr haf, ond a gollodd dymor cyfan am nad oeddent wedi dechrau defnyddio’r Cynnig cyn y pandemig, gyflwyno eu ceisiadau o ganol Awst.

Caiff ceisiadau gan rieni y bydd eu plentyn yn gymwys ar gyfer y Cynnig yn yr hydref eu hystyried o ddechrau Medi ymlaen.

Bydd manylion o ran pryd a sut i wneud cais ar gael ar wefannau awdurdodau lleol a thrwy Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.

Fel oedd yn wir cyn Covid-19, bydd awdurdodau lleol hefyd yn gallu manteisio ar y Grant Cymorth Ychwanegol i sicrhau bod unrhyw blentyn sydd ag anghenion ychwanegol yn gallu elwa ar y Cynnig yn yr un ffordd â phlant eraill.

Yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer lleoliadau gofal plant ar sut y gallant weithredu’n ddiogel, gan ystyried cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ddydd Gwener [31 Gorffennaf] nad oes angen i blant o dan 11 oed gadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid yn ystod yr wythnosau diwethaf i ymchwilio i’n hopsiynau wrth ailgychwyn y Cynnig. Rwy’n teimlo’n ddyledus dros ben, yn enwedig i awdurdodau lleol, am y ffordd y maent wedi ymateb i heriau’r misoedd diwethaf, gan weinyddu Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws a chefnogi teuluoedd yn eu hanghenion amrywiol iawn a chymhleth yn aml.

Mae darparwyr gofal plant wedi bod yn wych hefyd, a llawer ohonynt wedi cadw’u drysau ar agor tra oedd y feirws ar ei waethaf er mwyn sicrhau bod gweithwyr hanfodol yn gallu cyfrannu’n effeithiol at yr ymdrech genedlaethol yn erbyn y pandemig.

Bydd llawer o deuluoedd wedi dioddef caledi ariannol yn sgil Covid-19. Bydd rhai gweithwyr wedi’u taro’n waeth nag eraill, a gwyddom fod gofal plant, i lawer o fenywod, wedi bod yn rhwystr gwirioneddol o ran eu capasiti i weithio. Bydd ailgyflwyno’r Cynnig yn help i rieni, ond hefyd mae’n hollbwysig i ddarparwyr fel busnesau sy’n ceisio dod dros cyfnod o ansicrwydd a phryder mawr i lawer.

Gan gyllido gofal plant am 48 wythnos y flwyddyn, mae’r Cynnig wedi bod ar gael ledled Cymru ers Ebrill 2019. Erbyn Ionawr 2020, roedd 14,600 o blant yn cael cymorth.